Economeg wleidyddol

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Economi wleidyddol)

Maes gwyddorau cymdeithas yw economeg wleidyddol neu economi wleidyddol sydd yn ymdrin â'r perthnasau rhwng unigolion a chymdeithas a rhwng y farchnad a'r wladwriaeth, gan dynnu ar ddulliau a damcaniaethau economeg, gwyddor gwleidyddiaeth, a chymdeithaseg. Mae union ystyr yr enw wedi newid ers yr 17g, ond gellir cydnabod yn fras tri thraddodiad sydd wedi diffinio economeg wleidyddol: yr ysgol glasurol, Marcsiaeth, a'r maes modern sy'n defnyddio ystadegaeth a dulliau modelu i brofi rhagdybiaethau ynglŷn â pherthynas y llywodraeth â'r economi.[1]

I raddau helaeth, economeg wleidyddol oedd yr hen enw ar y ddisgyblaeth a elwir bellach yn economeg. Adlewyrchai'r enw gyd-destun hanesyddol astudiaethau economaidd yr 17g a'r 18g, pryd ystyriai materion economaidd yn rhan o fyd y llywodraeth. Prif ddiddordeb meddylwyr y cyfnod hwnnw oedd i gyfoethogi'r wladwriaeth er budd grym cenedlaethol a'r gallu i ennill rhyfeloedd. Ers y 19g, rhoddwyd mwy o bwyslais ar yr unigolyn yn economeg a'i statws fel gwyddor ffeithiol ac ymarferol yn hytrach na maes normadol, gwleidyddol.

Yn yr oes fodern, gall economeg wleidyddol gyfeirio at farnau economaidd y gwyddonydd gwleidyddol neu farnau gwleidyddol yr economegydd. Rhoddir yr enw "economeg wleidyddol newydd" ar astudiaethau sydd yn canolbwyntio ar y cymhellion gwleidyddol sydd yn ysgogi polisi economaidd. Fel rheol mae gwleidyddion yn pryderu mwy am ddosbarthiad incwm yr etholwyr, a lobïwyr yn becso am ddiddordebau ariannol eu cyflogwyr, nag yr ydynt am effeithlonrwydd polisïau economaidd.[2]

Hanes y ddisgyblaeth[golygu | golygu cod]

Gwreiddiau'r berthynas rhwng economeg a gwleidyddiaeth[golygu | golygu cod]

Gellir olrhain pynciau testun economeg wleidyddol yn ôl i athroniaeth wleidyddol a moeseg yr hen Roegiaid, yn enwedig gwaith Platon ac Aristoteles. Nodweddai gwaith y cyndadau hynny gan gred ormodol yng ngrym y wladwriaeth i lunio'r natur ddynol, i reoli diwydiant, ac i arwain twf y gymdeithas. Deallasant sawl agwedd bwysig o fywyd economaidd, gan gynnwys rhaniad llafur a gwerth arian, a choleddant y rhagfarnau traddodiadol yn erbyn llog a masnach tra'n derbyn caethwasiaeth fel sefydliad dymunol os nad annatod. Ar y cyfan, ni roddai cymaint o sylw i economeg ag i wleidyddiaeth a moeseg, nac i bwysigrwydd yr unigolyn ym mywyd economaidd y gymdeithas.

Athroniaeth Roeg oedd sail athroniaeth y Rhufeiniaid, ac er iddynt ymdrin ag ambell problem economaidd, ni chreasant cyfundrefn ddamcaniaethol gyflawn parthed economeg. Fel rheol byddai athronwyr yn condemnio agweddau economaidd, megis llog, ariangarwch, a masnach, am resymau moesol. Bu ambell un, gan gynnwys Varro a Columella, yn beirniadau caethwasiaeth am ei bod yn ddiwydiant drudfawr, a chafodd ei gwrthwynebu hefyd gan Stoiciaid megis Seneca'r Ieuaf. Ysgrifennai'r cyfreithegwyr Rhufeinig ar bynciau arian, cyfoeth, a chyfalaf, ac yn eu gweithiau maent yn argymell cynyddu'r boblogaeth, rheoliadau ar eiddo preifat, a gwrthwariant. Er nerth economaidd a diwylliant deallusol yr Ymerodraeth Rufeinig, ni chafodd meddylwyr Rhufeinig effaith bwysig ar ddatblygiad maes economeg, a gellir dilyn hanesyddol o Aristoteles yn syth i feddylwyr Cristnogol yr Oesoedd Canol.

Yn yr ambell waith gan Dadau'r Eglwys sydd yn ymdrin â materion economaidd, pwysleisiant y gwaharddiad ar usuriaeth, ennill cyfoeth drwy fasnach, goruchafiaeth amaeth, a'r drefn statws cymdeithasol. Yn y Gristionogaeth, daeth economeg yn bwysicach o'i chymharu â gwleidyddiaeth, ond yn amhwysicach o'i chymharu â moeseg. Cafodd clerigwyr yr hawl i ennill bywoliaeth drwy lafurio, gan adlewyrchu'r urddas a roddid i waith, yn enwedig gwaith dwylo. Yn raddol, trodd y farn gyffredin yn erbyn caethwasiaeth pan gafodd caethweision eu troi'n Gristnogion gan eu perchenogion. Wedi i Gratianus gasglu ac adolygu corff y gyfraith ganonaidd yn yr 12g, tynnai'r Canonwyr – diwinyddion ac ysgolheigion canoloesol yr Eglwys Babyddol – ar y corpws hwnnw yn ogystal â'r Ysgrythur, ysgrifau Tadau'r Eglwys, a phenderfyniadau'r cynghorau eglwysig wrth iddynt astudio materion economaidd. Syniadau Aristoteles oedd sail ysgolaeth a deddf natur, yr hyn a arddelai gan feddylwyr Cristnogol Ewrop fel cyfundrefn ddelfrydol y wladwriaeth. Pwysleisiant gorchmynion y Beibl yn erbyn ariangarwch, er iddynt goddef eiddo preifat fel angen dynol ers y Cwymp. Yn ôl Tomos o Acwin, cyfreithlon ydy masnach er bywoliaeth syml, i gyflewni gwlad â'r pethau nas cynhyrchir o fewn ffiniau ei hun, neu i godi arian am elusen. Er hynny mae'n gosod rheolau moesol ar gyfer masnachu, er enghraifft ni cheir gwerthu nwydd am bris mwy na'i werth gyfiawn. Wrth i fasnach ymledu drwy wledydd Ewrop, ceisiodd meddylwyr gyfiawnhau llog a chontractau ariannol. Erbyn diwedd y 15g, bu hyd yn oed Urdd Sant Ffransis yn sefydlu banciau elusennol, y monts de piété, i fenthyg arian i'r tlawd ar gyfradd llog isel. Erbyn canol yr 16g, bu'r Eglwys Babyddol wedi rhoi'r gorau i'w hymdrechion i roi terfyn ar ariangarwch.

Y mercantilyddion a'r ffisiocratiaid[golygu | golygu cod]

Ar ddiwedd yr Oesoedd Canol, dechreuodd syniadaeth economaidd ymddangos fel pwnc ar wahân i grefydd, yn dal ynghlwm wrth wleidyddiaeth, ac yn troi rhywfaint oddi wrth ei gysylltiad ag athroniaeth foesol. Yn sgil cwymp ffiwdaliaeth, y Diwygiad Protestannaidd, ac Oes Aur y Fforwyr fe ddirywiodd grym y Babaeth yn Ewrop a thyfodd nerth y brenhiniaethau dros faterion gwladol a masnachol. O'r 16g ymlaen daeth gofalon gwleidyddol, yn enwedig yr angen am gyllid i lenwi pwrs y wlad, i ddominyddu damcaniaethau economaidd. Priodolir y term "economi wleidyddol" i'r Ffrancwr Antoine de Montchrétien yn ei lyfr Traité de l'economie politique (1615). Cyfuniad ydyw yn y bôn o'r geiriau Groeg okonomie, yn ei ystyr draddodiadol rheolaeth y cartref, a polis sef dinas neu wladwriaeth.[3] Awgrymai'r enw felly llywodraeth yn trefnu a chyfeirio masnach, diwydiant ac arian ei gwlad megis gwraig yn rheoli ei thŷ a'i theulu. Estyniad oedd gwaith Montchrétien o'r wyddor rheolaeth gyhoeddus a materion gwladol a arloesai yn llys Harri IV, brenin Ffrainc (1589–1610).[1] Wrth i'r 17g mynd rhagddi, esblygodd corff o athroniaeth wleidyddol, moeseg, a chyfreitheg gan feddylwyr megis Hugo Grotius, Thomas Hobbes, a John Locke a gafodd ddylanwad syfrdanol ar ymdarddiad economeg wleidyddol.

O ganlyniad i'r newidiadau economaidd a gwleidyddol yn Ewrop yn y cyfnod modern cynnar, daeth damcaniaethau mercantiliaeth yn farn gyffredin yr athronwyr, y masnachwyr a'r gwleidyddion. Y brif broblem a wynebai'r llywodraethau, yn ôl y mercantilyddion, oedd cynyddu cyllid gwladol er mwyn cynnal ac ehangu'r wladwriaeth. Roedd yn rhaid i'r mwyafrif helaeth o'r cyllid hwn gael ei ennill ar ffurf arian parod i'w wario yn uniongyrchol ar y fyddin, y llynges, a sefydliadau eraill i gryfhau grym y wladwriaeth. Yn ogystal, roedd angen canfod ffordd newydd o godi trethi ar y boblogaeth wrth i'r diwydiant amaeth ddirywio. Ymatebai'r mercantilyddion drwy ddadlau dros ymyrraeth gan y wladwriaeth yn yr economi, a rhoddwyd nifer fawr o ddeddfau a rheoliadau ar waith mewn ymgais i arwain tueddiadau'r farchnad er budd y wladwriaeth. Cyhoeddwyd nifer fawr o bamffledi ac ysgrifau yn y cyfnod hwn ar bynciau arian, bancio, y cynnydd mewn prisoedd, twf y boblogaeth, a chymorth i'r tlodion.

Portread o François Quesnay, y cyntaf o'r ffisiocratiaid.

Derbynai economeg wleidyddol ei haeddiant yng nghanol y 18g, gan adeiladu ar syniadaeth y mercantilyddion, a ffynnu wnaeth y ddisgyblaeth ymhlith athronwyr yr Oleuedigaeth yn Ffrainc, yr Alban, a Lloegr. Un o'r gweithiau cynharaf ar bwnc economeg fel y'i deallir heddiw oedd An Inquiry into the Principles of Political Economy (1767) gan yr Albanwr Syr James Steuart, ac yn y llyfr hwnnw mae'r awdur yn haeru taw cynnal lefel gynhaliaeth benodol i drigolion ei wlad yw prif swyddogaeth y gwladweinydd. Dan ddylanwad François Quesnay, meddyg Louis XV, brenin Ffrainc, datblygodd damcaniaeth y ffisiocratiaid i herio'r drefn fercantilaidd a sbarduno'r ddadl ddeallusol gyntaf yn y ddisgyblaeth. Adwaith yn erbyn y ffafriaeth dros fasnach a gweithgynhyrchu oedd ffisiocratiaeth yn bennaf, ac arddelai hefyd y ddeddf naturiol a rhyddid economaidd – ar batrwm Grotius, Locke, a Samuel von Pufendorf – yn hytrach na chenedlaetholdeb economaidd cul. Anghytunai'r ddwy garfan ynglŷn ag ystyr gwerth, a gafodd ei ystyried gan y mercantilyddion yn gywerth ag arian tra'r oedd y ffisiocratiaid yn diffinio gwerth yn nhermau cynhyrchu nwyddau. Dadleuai'r ffisiocratiaid hefyd bod llewyrch economaidd yn dibynnu ar sector amaethyddol cynhyrchiol, yn groes i farn y mercantilyddion taw ffyniant economaidd trwy ddiffiniad yw masnach a bod angen felly i gyfoethogi'r masnachwyr yn fwy nag unrhyw un arall.[1]

Am y tro cyntaf, daeth rhyddid yr unigolyn yn ganolog i syniadaeth economaidd. Megis y rhyddfrydwyr clasurol cynnar, a arddelasant unigolyddiaeth radicalaidd ac hawliau sifil a gwleidyddol y dinesydd, ffurfiai'r ffisiocratiaid athrawiaeth ar sail rhyddid economaidd, gan ddadlau byddai'r fath system yn gytûn â'r ddeddf naturiol ac felly'n arwain at y cynhyrchiad diwydiannol mwyaf a'r dosbarthiad cyfoeth cyfiawnaf. Roedd y ffisiocratiaid yn seilio'u dealltwriaeth o gyfoeth ar wrthrychau materol, ac nid metelau gwerthfawr yn unig. Gwelsant gweithgynhyrchu a masnachu yn ddiwydiannau diffrwyth gan nad ydynt yn echdynnu adnoddau crai, dim ond yn newid neu addasu'r hyn a gynhyrchwyd gan ddiwydiannau cynradd, yn bennaf amaeth. Ystyriasant y gwerth a ychwanegwyd at adnoddau crai gan weithgynhyrchu a masnachu yn gywerth â chostau'r broses gynhyrchu, tra bod amaeth yn dwyn gwarged net. Tybiai'r ffisiocratiaid taw amaeth oedd yr unig ffynhonnell am gyllid gwladol yn y bôn, a'i fod yn briodol felly i'r wladwriaeth godi ei refeniw drwy dreth unigol ac uniongyrchol ar rent.

Economeg glasurol[golygu | golygu cod]

Erbyn ail hanner y 18g, roedd economeg wleidyddol yn bwnc cwbl seciwlar, ac yn cyfuno dull anwythol Francis Bacon ag athroniaethau gwleidyddol yr 17g. Yr economegydd gwychaf o'r cyfnod, os nad sefydlwr y ddisgyblaeth fodern a'r economegydd pwysicaf erioed, oedd yr Albanwr Adam Smith. Fe luniodd y gyfundrefn gynhwysfawr gyntaf o economi wleidyddol yn ei gampwaith An Inquiry into the Nature and Causes of the Wealth of Nations (1776), ffrwyth ei flynyddoedd o ymchwil i agweddau gwleidyddol, technolegol, naturiol, a chymdeithasol a'i ddadansoddiad o'r cydberthnasau cymhleth rhyngddynt sydd yn effeithio ar yr economi. Arloesai'r ysgol glasurol gan waith Smith, sydd yn pwysleisio rhan yr unigolyn ym mywyd economaidd ac yn lladd ar fercantiliaeth. Esbonir grymoedd y farchnad gan drosiad Smith o'r llaw anweledig, sydd yn dadlau bod gweithredoedd hunanlesog yr unigolyn yn ffordd effeithlonach o wella budd y gymdeithas na pholisïau'r llywodraeth.

Y defnyddiolwyr[golygu | golygu cod]

Yr adwaith yn erbyn y clasurwyr[golygu | golygu cod]

Ysgol Awstria[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 Iain McLean ac Alistair McMillan, The Concise Oxford Dictionary of Politics 3ydd argraffiad (Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2009), t. 411.
  2. John Black, Nigar Hashimzade, a Gareth Myles, A Dictionary of Economics 3ydd argraffiad (Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2009), t. 346.
  3. (Saesneg) Political economy. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 23 Medi 2018.