Y Chwyldro Ffrengig

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Chwyldro Ffrengig)
Y Chwyldro Ffrengig
Enghraifft o'r canlynoldigwyddiad hanesyddol, chwyldro Edit this on Wikidata
Dyddiad5 Mai 1789 Edit this on Wikidata
Dechreuwyd14 Gorffennaf 1789 Edit this on Wikidata
Daeth i ben9 Tachwedd 1799 Edit this on Wikidata
LleoliadFfrainc Edit this on Wikidata
Yn cynnwysTeyrnasiad Braw, cyhoeddi diddymiad y frenhiniaeth Edit this on Wikidata
GwladwriaethFfrainc Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Un o'r sans-culottes

Roedd y Chwyldro Ffrengig (o 1789 hyd 1799) yn gyfnod yn hanes Ffrainc pan wnaeth y gweriniaethwyr ddymchwel y frenhiniaeth ac fe aeth yr Eglwys Gatholig Rufeinig mewn canlyniad trwy gyfnod o ailstrwythuro sylfaenol yn Ffrainc. Tra y bu Ffrainc yn cyfnewid yn ôl ac ymlaen rhwng gweriniaeth, ymerodraeth a brenhiniaeth am 75 mlynedd yn dilyn cwymp y Weriniaeth Gyntaf i law Napoleon Bonaparte, roedd y chwyldro er hynny yn arwyddo diwedd yr ancien régime gan roi y rhai a ddilynodd yn y cysgod yn nychymyg pobl Ffrainc.

Effeithiodd y Chwyldro Ffrengig nid yn unig ar Ffrainc ond ar weddill Ewrop hefyd, a chafodd gryn effaith ar y tiroedd Almaenaidd. Roedd yr hyn a ddechreuodd fel protest gan yr aristocratiaid yn erbyn Louis XVI, brenin Ffrainc a’i frenhiniaeth absoliwt, i ragflaenu chwyldro mawr a newidiodd hanes a golwg Ewrob.

Daeth grŵp o'r enw y Girondistes, o ardal Bordeaux, i rym ond fe’u gwrthwynebwyd gan grŵp y Jacobins. Disodlwyd y Jacobins gan y Directoire, sef grŵp o’r dosbarth canol a oedd wedi uno â’r Girondistes, ac fe gafwyd llywodraeth newydd gymedrol. Daethant i bwer ym 1794 ond erbyn 1799 ystyriwyd hwy yn llygredig ac fe gymerodd Napoleon yr awenau. Daeth Napoleon i bwer a chymorth y fyddin ac fe lywodraethodd fel teyrn. Yr angen am sefydlogrwydd a gwarediad y chwyldro llygredig a barodd parodrwydd y bobl i dderbyn Napoleon er ei fod yn unben. Daeth Napoleon a threfn newydd ond ailsefydlodd llawer o hen sefydliadau’r chwyldro a oedd wedi dirywio hefyd. Er yn unben, yr oedd yn ddyn goleuedig, a chyflwynodd system weinyddol ddiwygiedig. Diwygiodd y system addysg gan fynnu i bawb gael addysg. Diwygiodd y system gyfreithiol i greu y Code Napoleon, a oedd yn cynnwys datganiad o hawliau dynol.

Adwaith yng Nghymru[golygu | golygu cod]

Cymysg fu'r ymateb yng Nghymru. Ar y dechrau datganwyd cefnogaeth frwd i'r chwyldro gan rhai llenorion a radicaliaid - e.e. Jac Glan-y-gors, awdur Seren Tan Gwmmwl a Iolo Morgannwg - ond roedd eraill yn ei erbyn. Mae'n debyg mai cyfyng oedd gwybodaeth y werin bobl am y digwyddiadau yn Ffrainc a'r Amerig oherwydd diffyg newyddiaduron Cymraeg. Ond dychrynwyd y rhan fwyaf o gefnogwyr y Chwyldro gan y tro gwaedlyd y cymerodd a'r anhrefn a ddilynodd.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • John James Evans, Dylanwad y Chwyldro Ffrengig ar Lenyddiaeth Cymru (Hugh Evans a'i Feibion, Lerpwl, 1928)