Adam Smith

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Adam Smith
AdamSmith.jpg
Ganwyd 5 Mehefin 1723 Edit this on Wikidata
Kirkcaldy Edit this on Wikidata
Bu farw 17 Gorffennaf 1790 Edit this on Wikidata (67 oed)
Caeredin Edit this on Wikidata
Alma mater Coleg Balliol, Rhydychen, Prifysgol Caeredin, Prifysgol Glasgow Edit this on Wikidata
Gwaith Economegydd, awdur ffeithiol, athronydd, awdur Edit this on Wikidata
Cyflogwr Prifysgol Glasgow Edit this on Wikidata
Gwaith nodedig The Theory of Moral Sentiments, The Wealth of Nations Edit this on Wikidata
Aelod o Y Gymdeithas Frenhinol Edit this on Wikidata
Priod Lua error in Modiwl:WikidataIB at line 257: attempt to index field 'datavalue' (a nil value).
Gwobr/au Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Cymrawd Cymdeithas Frenhinol Celf (FRSA) Edit this on Wikidata
Llofnod
Adam Smith signature 1783.svg

Athronydd Albanaidd oedd Adam Smith (Mehefin 1723 - 17 Gorffennaf, 1790). Mae'n fwyaf adnabyddus fel awdur dau lyfr, The Theory of Moral Sentiments (1759), a An Inquiry into the Nature and Causes of the Wealth of Nations (1776). Roedd yn un o sylfaenwyr astudiaeth economeg fel pwnc academaidd.

Ganed ef yn Kirkcaldy, Fife, Yr Alban; nid oes sicrwydd am ddyddiad ei eni, ond bedyddiwyd ef ar 5 Mehefin 1723. Aeth i Brifysgol Glasgow yn 14 oed, lle astudiodd athroniaeth foesol. Yn 1740 aeth i Goleg Balliol, Rhydychen.

Yn 1748 dechreuodd roi darlithoedd cyhoeddus yng Nghaeredin, a daeth i adnabod David Hume. Yn 1751 daeth yn Athro rhesymeg ym Mhrifysgol Glasgow. Cyhoeddodd The Theory of Moral Sentiments yn 1759. Ymddangosodd The Wealth of Nations yn 1776, a gwnaeth ei awdur yn enwog.

Ystyrir ef yn un o brif gefnogwyr y syniad o Laissez-faire a'r farchnad rydd; gyda'r egwyddor fod system ecomomaidd lle mae pawb yn dilyn ei les ei hun yn arwain at fwy o gyfoeth i bawb.

Prif weithiau[golygu | golygu cod y dudalen]

Inquiry into the nature and causes of the wealth of nations, 1922