Francis Hutcheson
Gwedd
| Francis Hutcheson | |
|---|---|
Portread o Francis Hutcheson gan Allan Ramsay (tua 1745). | |
| Ganwyd | 8 Awst 1694 Drumalig, Saintfield |
| Bu farw | 8 Awst 1746 Dulyn |
| Dinasyddiaeth | Teyrnas Prydain Fawr, Gweriniaeth Iwerddon |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | athronydd, economegydd, diwinydd, ysgrifennwr, academydd |
| Cyflogwr | |
| Plant | Francis Hutcheson |
Athronydd o Iwerddon yn ystod oes yr Oleuedigaeth oedd Francis Hutcheson (8 Awst 1694 – 8 Awst 1746).
Ganwyd i deulu Sgot-Wyddelig yn Drumalig, Swydd Down; gweinidog Presbyteraidd oedd ei dad. Astudiodd athroniaeth, y clasuron a diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Glasgow (1710–16). Sefydlodd athrofa breifat yn Nulyn ym 1719, a chyhoeddodd bedair ysgrif yn ddienw tra'n byw yno. Dychwelodd i'r Alban a dysgodd yn swydd athro athroniaeth foesol ym Mhrifysgol Glasgow o 1729 hyd ei farwolaeth.