Dulyn

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Dulyn
Dublin lead image.jpg
Ireland map County Dublin City.png
Lleoliad o fewn Leinster
Gwlad Gweriniaeth Iwerddon
Ardal Leinster
Llywodraeth
Maer Oisín Quinn
Daearyddiaeth
Arwynebedd 114.99 km²
Demograffeg
Poblogaeth Cyfrifiad 505,739 (Cyfrifiad 2006)
Metro 18,815,988
Gwybodaeth Bellach
Cylchfa Amser WET (UTC+0)
Cod Post D1-18, 20, 22, 24, D6W
Gwefan www.dublincity.ie

Prifddinas Gweriniaeth Iwerddon a'i dinas fwyaf yw Dulyn (Gwyddeleg: Baile Átha Cliath; Saesneg: Dublin). Mae'r enw yn gyfieithiad o'r Wyddeleg "dubh linn" ("pwll du"). Mae wedi'i lleoli ar arfordir dwyreiniol Iwerddon, ar aber Afon Life ac yng nghanol Rhanbarth Dulyn. Fe'i sefydlwyd gan y Llychlynwyr yn 988 ac mae'n brifddinas Iwerddon ers yr Oesoedd Canol. Erbyn heddiw, rhestir y ddinas fel y degfed ar Fynegai Canolfannau Ariannol y Byd ac mae ei phoblogaeth yn tyfu gyda'r cyflymaf yn Ewrop. Mae Dulyn yn ganolbwynt hanesyddol a diwylliant cyfoes Iwerddon, yn ogystal â bod yn ganolfan fodern ar gyfer addysg, y celfyddydau, yr economi a diwydiant. Mae'n ganolfan weinyddol Swydd Dulyn.

Roedd poblogaeth y ddinas weinyddol yn 505,739 yn ôl cyfrifiad 2006, ond roedd poblogaeth yr ardal drefol gyfan, yn cynnwys y maestrefi gerllaw, yn 1,186,159.

Diwylliant[golygu]

Llenyddiaeth, theatr a'r celfyddydau creadigol[golygu]

Mae gan y ddinas hanes llenyddol byd-eang, gan gynhyrchu nifer o lenorion blaenllaw gan gynnwys William Butler Yeats, George Bernard Shaw a Samuel Beckett. Mae ysgrifennwyr a dramodwyr o Ddulyn yn cynnwys Oscar Wilde, Jonathan Swift a chrewr Dracula, Bram Stoker. Er hynny, efallai fod y ddinas yn fwyaf adnabyddus fel lleoliad prif weithiau James Joyce. Mae Dubliners yn gasgliad o straeon byrion gan Joyce am ddigwyddiadau a chymeriadau sy'n nodweddiadol o drigolion y ddinas ar ddechrau'r ugeinfed ganrif. Lleolir ei waith enwocaf hefyd, Ulysses hefyd yn Nulyn ac mae'n llawn manylion cyfoes. Mae llenorion cydnabyddedig eraill o'r ddinas yn cynnwys J.M. Synge, Seán O'Casey, Brendan Behan, Maeve Binchy, a Roddy Doyle. Ceir llyfrgelloedd ac amgueddfeydd lleynyddol mwyaf Iwerddon yn Nulyn, gan gynnwys Amgueddfa Argraffu Cenedlaethol Iwerddon a Llyfrgell Genedlaethol Iwerddon.

Ceir nifer o theatrau hefyd yng nghanol y ddinas, a daeth nifer o actorion byd enwog o fyd y theatr yn Nulyn. Maent yn cynnwys Noel Purcell, Brendan Gleeson, Stephen Rea, Colin Farrell, Colm Meaney a Gabriel Byrne. Y theatrau amlycaf yw'r Gaiety yr Abaty, yr Olympia a'r Gate. Mae'r Gaiety yn arbenigo mewn cynhyrchiadau sioe gerdd ac opera. Sefydlwyd yr Abaty ym 1904 gan griw a oedd yn cynnwys Yeats gyda'r nod o hyrwyddo dawn llenyddol Gwyddelig. Aeth y grŵp ymlaen i ddarparu rhai o lenorion enwocaf y ddinas, megis Synge, Yeats ei hun a George Bernard Shaw. Sefydlwyd Theatr y Gate ym 1928 er mwyn hyrwyddo gweithiau arloesol Ewropeaidd ac Americanaidd. Y theatr fwyaf yw Neuadd Mahony yn Yr Helix ym Mhrifysgol Dinas Dulyn yn Glasnevin.

Hefyd lleolir Llyfr Kells, llawysgrif byd enwog ac enghraifft o gelf Ynysol a gynhyrchwyd gan fynachod Celtaidd yn 800 A.D. yng Ngholeg y Drindod. Mae Llyfrgell Chester Beatty hefyd yn gartref i gasgliad enwog o lawysgrifau, paentiadau bychain, argraffiadau, darluniau, llyfrau prin a gwrthrychau addurniedig a gasglwyd gan y miliwnydd Americanaidd (a dinesydd Gwyddelug anrhydeddus) Syr Alfred Chester Beatty (1875-1968). Dyddia'r casgliadau o 2700 C.C. ymlaen ac maent yn dod o Asia, y Dwyrain Canol, Gogledd America ac Ewrop. Yn aml, arddangosir gwaith gan arlunwyr lleol o amgylch St. Stephen's Green, sef prif barc gyhoeddus yng nghanol y ddinas. Yn ogystal â hyn, ceir nifer o orielau celf o amgylch y ddinas, gan gynnwys yr Amgueddfa Wyddelig o Gelf Modern, Oriel Bwrdeisdrefol Hugh Lane, Oriel Douglas Hyde a'r Academi Hibernian Frenhinol.

Adeilad y Four Courts, Dulyn

Lleolir tair cangen o Amgueddfa Genedlaethol Iwerddon yn Nulyn; Archeoleg yn Stryd Kildare, Celf ac Hanes Addurniedig yn Collins Barracks a Hanes Naturiol yn Stryd Merrion Street.

Enwogion[golygu]