Samuel Beckett
| Samuel Beckett | |
|---|---|
| Ffugenw | Andrew Belis |
| Ganwyd | Samuel Barclay Beckett 13 Ebrill 1906 Dulyn, Foxrock |
| Bu farw | 22 Rhagfyr 1989 Paris, 14ydd arrondissement Paris |
| Man preswyl | Swydd Dulyn |
| Dinasyddiaeth | Gweriniaeth Iwerddon |
| Alma mater |
|
| Galwedigaeth | ysgrifennwr, ieithydd, cyfarwyddwr ffilm, sgriptiwr, cricedwr, bardd, nofelydd, dramodydd, cyfieithydd, athro, deallusyn, gwrthsafwr Ffrengig, artist fideo, sinematograffydd, drafftsmon, gwneuthurwr ffilm |
| Adnabyddus am | Murphy, Molloy, Malone Dies, The Unnamable, En attendant Godot, Watt, Diwéddgan, Krapp's Last Tape, How It Is |
| Arddull | ffilm ddrama |
| Mudiad | Nouveau Roman |
| Priod | Suzanne Dechevaux-Dumesnil |
| Perthnasau | James Beckett, Wendy Beckett |
| Gwobr/au | Scholar of Trinity College, Dublin, honorary doctorate of Trinity College, Dublin, Obie Award, Obie Award, Gwobr Formentor, Obie Award, Obie Award, Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America, Gwobr Lenyddol Nobel, Obie Award, Saoi, star on Playwrights' Sidewalk |
| Chwaraeon | |
| llofnod | |
Dramodydd a bardd o Iwerddon a ysgrifennodd yn Ffrangeg a Saesneg oedd Samuel Barclay Beckett (13 Ebrill 1906 – 22 Rhagfyr 1989). Enillodd Wobr Lenyddol Nobel yn 1969.
Ganed ef yn Foxrock, ar gyrion Dulyn. Astuddiodd Ffrangeg, Eidaleg a Saesneg yng Ngholeg y Drindod, Dulyn o 1923 hyd 1927. Wedi graddio cafodd swydd lecteur d'anglais yn yr École Normale Supérieure ym Mharis, lle daeth i adnabod James Joyce.
Cyhoeddodd ei draethawd cyntaf, ...Bruno. Vico..Joyce, yn 1929. Yn 1930 dychwelodd i Goleg y Drindod fel darlithydd, ond ymddiswyddodd y flwyddyn wedyn. Ysgrifennodd ei nofel gyntaf, Dream of Fair to Middling Women, yn 1932, ond ni allodd gael cyhoeddwr iddi. Yn 1935, cyhoeddodd gasgliad o farddoniaeth, Echo's Bones and Other Precipitates. Bu'n teithio llawer yn Ewrop, a chyhoeddodd nofel Murphy yn 1938.
Bu'n aelod o'r Résistance Ffrengig yn ystod yr Ail Ryfel Byd, a chyflwynodd y llywodraeth y Croix de guerre a'r Médaille de la Résistance iddo ar ddiwedd y rhyfel. Rhwng Hydref 1948 a Ionawr 1949 bu'n gweithio ar ei ddrama enwocaf, En attendant Godot. Cyhoeddwyd hi yn 1952, a bu'r perfformiad cyntaf yn 1953. Aeth ymlaen i ysgrifennu nifer o ddramau eraill.
Bu farw ar 22 Rhagfyr 1989 a chladdwyd ef yn y Cimetière du Montparnasse ym Mharis.
Cyfieithiadau i'r Gymraeg
[golygu | golygu cod]- Diwéddgan (1969), cyfieithiad gan Gwyn Thomas o Fin de Partie yn y gyfres Dramâu'r Byd.
- Wrth aros Godot (1970), cyfieithiad gan Saunders Lewis o "En attendant Godot", Cyfres y ddrama yn Ewrop.
- Dyddiau Difyr (1998), cyfieithiad gan Annes Gruffydd o "Happy Days", heb ei chyhoeddi.
- Genedigaethau 1906
- Marwolaethau 1989
- Beirdd yr 20fed ganrif o Iwerddon
- Beirdd Ffrangeg
- Beirdd Saesneg o Iwerddon
- Enillwyr Gwobr Lenyddol Nobel
- Dramodwyr yr 20fed ganrif o Iwerddon
- Dramodwyr Ffrangeg
- Dramodwyr Saesneg o Iwerddon
- Llenorion Ffrangeg o Iwerddon
- Nofelwyr yr 20fed ganrif o Iwerddon
- Nofelwyr Ffrangeg
- Nofelwyr Saesneg o Iwerddon
- Pobl a aned yn Nulyn
- Pobl fu farw ym Mharis
- Ymfudwyr o Iwerddon i Ffrainc