Prifddinas Moldofa a dinas fwyaf y wlad honno yw Chişinău (hefyd Kishinev weithiau; Rwseg: Кишинёв, Kishinyof). Mae'n gorwedd yng nghanol Moldofa, ar lannau Afon Bîc. Yn economaidd, hon yw'r ddinas fwyaf llewyrchus yn y wlad a'i chanolfan diwydiant a chludiant pwysicaf. Yn ogystal, mae Chişinău yn un o ddinasoedd mawr mwyaf gwyrdd Ewrop, gyda chanran uchel o barcdir a llecynnau agored eraill. Mae dros haner miliwin o bobl yn byw yno.