Arlywydd Iwerddon
| Enghraifft o: | swydd, rhestr wybodaeth |
|---|---|
| Math | arlywydd, pennaeth y wladwriaeth |
| Rhan o | Oireachtas |
| Dechrau/Sefydlu | 25 Mehefin 1938 |
| Deiliad presennol | Catherine Connolly |
| Hyd tymor | 7 blwyddyn |
| Enw brodorol | Uachtarán na hÉireann |
| Gwladwriaeth | Gweriniaeth Iwerddon |
| Gwefan | https://president.ie/en, https://president.ie/ga |
| Dynodwyr | |
Arlywydd Iwerddon yw pennaeth gwladwriaeth Gweriniaeth Iwerddon a goruchaf reolwr Lluoedd Amddiffyn Iwerddon. Mae'r arlywydd yn dal ei swydd am saith mlynedd, a gellir ei ethol am uchafswm o ddau dymor. Caiff ei ethol yn uniongyrchol gan y bobl, er nad oes etholiad os mai dim ond un ymgeisydd sy'n cael ei enwebu, sydd wedi digwydd chwe gwaith hyd yn hyn. Swydd seremonïol yw'r arlywyddiaeth i raddau helaeth, ond mae'r llywydd yn arfer rhai pwerau cyfyngedig gyda disgresiwn llwyr. Mae'r arlywydd yn gweithredu fel cynrychiolydd gwladwriaeth Iwerddon a cheidwad cyfansoddiad y wlad.
Yr arlywydd presennol yw Catherine Connolly, a etholwyd gyntaf ar 24 Hydref 2025. Cafodd ei hurddo ar 11 Tachwedd 2025.
Preswylfa swyddogol yr arlywydd yw Áras an Uachtaráin ym Mharc Phoenix, Dulyn. Sefydlwyd y swyddfa gan Gyfansoddiad Iwerddon ym 1937, daeth yr arlywydd cyntaf i'w swydd ym 1938, a chafodd gydnabyddiaeth ryngwladol fel pennaeth y wladwriaeth ym 1949, yn dilyn Deddf Gweriniaeth Iwerddon.
Does dim Dirpwy-Arlywydd neu Is-Arlywydd. Ar ôl marwolaeth neu ymddiswyddiad arlywydd mae Comisiwn Arlywyddol yn gweithredu fel arlywydd - mae'r Comisiwn yn cynnwys y Prif Ustus, y Ceann Comhairle (Siaradwr) Dáil Éireann, a Cathaoirleach (Cadeirydd) Seanad Éireann.
I sefyll mewn etholiad arlywyddol, mae'n rhaid i ymgeisydd gael ei enwebu gan 20 aelod o'r Oireachtas (y Dáil a'r Senead), neu gan 4 cyngor sir, neu mae'n bosibl i gyn-Arlywydd sydd heb gael 2 dymor fel arlywydd enwebu'i hun.