Cathaoirleach

Oddi ar Wicipedia
Logo'r Oireachtas

Cathaoirleach (/kəˈhɪərləx/ (Ynghylch y sain ymagwrando);[1] Gwyddeleg am "Cadeirydd"; lluosog: Cathaoirligh) yw teitl swyddogol a arddelir yn y Wyddeleg a'r Saesneg, i ddisgrifio cadeirydd, neu lywydd Seanad Éireann, sef ail dŷ chwedeg sedd yr Oireachtas, deddfwrfa Gweriniaeth Iwerddon. Mae'r Seanad yn cyfateb yn fras i Dŷ'r Arglwyddi ym Mhrydain. Mae'r gair Wyddeleg 'cathaoir' yn gytras i'r Gymraeg 'cadair' ac yn fenthyciad o'r Ladin cathedra (megis mewn eglwys gadeiriol).[2]

Grymoedd a Gwaith[golygu | golygu cod]

Y Cathaoirleach yw'r unig farnwr ar drefn y siambr ac mae ganddo/i amrywiaeth o rymoedd a weithredoedd:[3]

  • Galw ar aelodau i siarad ac i bob araith cael ei chyfeirio at y Gadair
  • Cyflwyno cwestiynau i'r Tŷ, goruchwilio rhannu a datgan canlyniadau
  • Gan yr hawl i reoli anhrefn, awdurdodu ufudd-dod uniongyrchol i Rheolau Sefydliadol a gall orchymun aelodau i ymadael â'r Tŷ neu eu henwi i'w gwahardd o'r Tŷ am gyfnod
  • Mewn achos o anghydfod fawr gall atal y Tŷ

Mae'r Cathaoirleach hefyd yn aelod ex-officio o Gomisiwn Arlywyddol Iwerddon, sef is-Arlywyddiaeth ar y cyd Iwerddon.

Leas-Chathaoirleach[golygu | golygu cod]

Dirprwy y Cathaoirleach yw'r Leas-Chathaoirleach.

Defnydd arall o'r Term Cathaoirleach[golygu | golygu cod]

Dydy'r term Cathaoirleach yn ei hun ddim yn unigryw i swydd llywydd Seanad Éireann (yn fwy ag y byddai defnyddio 'Cadeirydd' yn y Gymraeg). Fe'i ddefnyddir yn swyddogol i ddisgfirio swyddi cadeirio tebyg ar draws llywodraeth leol Gweriniaeth Iwerddon ac yn anffurfiol hefyd. Mae nifer o fudiadau a chlybiau gwirfoddol hefyd yn arddel y term, gan gynnwys y Cymdeithas Athletau Campau Gwyddelig, y GAA, (Gaelic Athletic Association).

Dolenni[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. For the pronunciation in Irish, see here.
  2. http://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html
  3. "Role of the Cathaoirleach". Houses of the Oireachtas. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2004-04-16. Cyrchwyd 17 June 2012.