Seanad Éireann

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Seanad Éireann
Senate of Ireland
25th Seanad
Coat of arms or logo
Gwybodaeth gyffredinol
Math Ail Dŷ Oireachtas
Arweinyddiaeth
Cathaoirleach Denis O'Donovan, (FF)
ers 8 Meh. 2016
Leas-Chathaoirleach Paul Coghlan, (FG)
ers 16 Meh. 2016
Leader Jerry Buttimer, (FG)
ers 8 June 2016
Deputy Leader Catherine Noone, (FG)
ers 1 Gorff. 2016
Opposition Leader Catherine Ardagh, (FF)
ers 18 Mai 2016
Cyfansoddiad
Aelodau 60
Sefyllfa gyfoes
Grwpiau gwleidyddol
Llywodraeth (20)
     Fine Gael (20)
Confidence and supply (13)
     Fianna Fáil (13)
Yr Wrthblaid (27)
     Sinn Féin (6)
     Y Blaid Lafur (4)
     Y Blaid Werdd (1)
     Cynghreiriaid Urddas Dynol (1)
     Annibynwyr (15)
Etholiadau
Etholiad diwethaf 24 April 2016
Man cyfarfod
SeanadEireann-800.jpg
Seanad chamber
, Dublyn
Gwefan
oireachtas.ie

Seanad Éireann (Ymghaniad IPA: |ʃ|æ|n|ə|d|,_|-|ð|_|ˈ|ɛər|ə|n) sef, o'i gyfieithu, Senedd Iwerddon, yw llywodraeth ail dŷ neu siambr yr Oireachtas (deddfwrfa Gweriniaeth Iwerddon). Rhannau eraill y Ddeddwrfa yw Arlywydd Iwerddon a Dáil Éireann (y brif siambr). Gelwir y corff, fel rheol yn Seanad neu Senate a'i haelodau yn senators yn Saesneg a seanadóirí yn y Wyddeleg, unigol: seanadóir). Yn wahanol i Dáil Éireann, nid yw ei haelodau wedi eu hethol yn uniongyrchol ond yn hytrach drwy amryw o ffyrf. Mae ei grym llawer yn llai na'r Dáil - gall ond araf deddfau yn hytrach na'u gwerthwynebu'n llwyr. Lleolir y Seanad yn adeilad Tŷ Leinster.

Aelodaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Caiff y cyfrfodydd y Seanad ei chadeirio gan y Cathaoirleach (Cadeirydd). Y Cathaoirleach sy'n cadw trefn ar y corff.

Yn ôl Erthygl 18 o Gyfansoddiad Iwerddon mae i Seanad Éireann 60 aelod a ddewisir fel a ganlyn:

  • 11 wedi eu henwebu gan y Taoiseach (Prif Weinidog).
  • 6 wedi eu hethol gan raddedigion rhai o brifysgolion Iwerddon:
  • 43 wedi eu hethol o bump panel enwebiadau a elwir yn Baneli Galwedigaethol (Vocational Panel) gan etholaeth sy'n cynnwys TDs (aelodaeu Dáil Éireann); cyn seneddwyr ac aelodau cynghorau sir a dinas y Weriniaeth. Cyfyngir enwebiadau i seddi'r panel i aelodau'r Oireachtas a chyrff arbenig a ceir hawl i enwebu. Mae pob un o'r pump panel, yn cynnwys, mewn egwyddor, aelodau sy'n meddu ar wybodaeth arbenigol, neu brofiad arbennig un o'r pump maes arbenigol. Mewn gwirionedd, mae'r enwebiadau fel rheol yn aelodau o'r pleidiau gwleidyddol sy'n aml (er nad pob tro) yn rai sydd wedi colli neu methu ennill sedd, neu sydd â bryd ar fynd i'r Dáil
    • 7 sedd ar y Panel Gweinyddol (Administrative Panel): Gweinyddiaeth gyhoeddus a gwasanaethau cymdeithasol (yn cynnwys y sector wirfoddol)
    • 11 sedd ar y Panel Amaethyddol: Amaeth a Physgota
    • 5 sedd ar Banel Diwylliant ac Addysg: Addysg, y celfyddydau, yr iaith Wyddeleg, a diwylliant a llenyddiaeth Iwerddon.
    • 9 sedd ar y Panel Diwydiant a Masnach: Diwydiant a masnach (yn cynnwys peirianneg a phensaernïaeth
    • 11 sedd ar y Panel Llafur: Llafur (wedi eu hundebu neu fel arall)

Rhaid cynnal etholiad gyffredinnol i'r Seanad dim hwyrach na 90 dydd wedi diddymu Dáil Éireann. Etholid yr aelodau drwy system o gynrychiolaeth gyfrannol a elwir fel pleidlais sengl drosglwyddadwy (ym mhaneli'r etholaethau mae pob pleidlais yn cyfri fel 1000, sy'n golygu fod canrannau o'r bleidlais yn haws i'w drosglwyddo).

Mae aelodaeth yn agored i bob dinesydd Gwyddelig dros 21 oed, ond gall Sennator ddimi fod yn aelod gydamserol o Dáil Éireann. Serch hynny, fel nodir uwchben, mae enwebiadau wedi eu cyfyngu rhaid i enwebig i etholaethau'r prifysgolion gynnwys 10 llofnod gan raddedigion.

Mewn achos o sedd wag ar y Panel Alwedigaethol, mae'r is-etholiad yn cynnwys aelodau'r Oireachtas yn unig.[1] Llenwir seddi gweigion i seddi'r prifysgolion gan yr etholiad gan holl aelodau'r etholaeth.

Aeodaeth 25ain Seanad (2016–presennol)[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Members of the 25th Seanad
Plaid Seneddwyr
Fine Gael 20
Fianna Fáil 13
Sinn Féin 6
Plaid Lafur Iwerddon 4
Plaid Werdd Iwerddon 1
Human Dignity Alliance 1
Annibynnol 15
Cyfanswm 60

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Sefydlwyd y Dáil Éireann gyntaf yn 1919 gan y cenedlaetholwyr fel senedd un siambr. Yn 1920 sefdlodd Lywodraeth Prydain Senedd De Iwerddon gydag ail siambr a alwyd yn 'Seneta'. Roedd y corff yma'n cynnwys cymysgedd o arglwyddi Gwyddeleg ac apwyntiadau'r llywodraeth (Brydeinig). Cwrddodd y Senate yma yn 1921 ond fe'i boicotiwyd gan genedlaetholwyr Gwyddelig ac felly daeth byth yn weithredol. Diddymwyd y corff yn llwyd gyda sefydlu Gwladwriaeth Rydd Iwerddon yn 1922 er i nifer o'i haelodau gael ei hapwyntio i Senate y Wladwriaeth Rydd.

Seanad Gwladwriaeth Rydd Iwerddon (1922–36)[golygu | golygu cod y dudalen]

Defnyddiwyd y term Seanad Éireann am y tro cyntaf fel teitl ail siambr Oireachtas y Wladwriaeth Rydd. Roedd y Seanad yma'n cynnwys cymysgedd o aelodau a apwyntiwyd gan Arlywydd y Cyngor Gweithredu (President of the Executive Council) ac aelodau a etholwyd yn anuniongyrchol gan y Dáil, a cytunodd W. T. Cosgrave i ddefnyddio ei apwyntiadau ef er mwyn cynnwys cynrychiolaeth ychwanegol o leifrif Brotestanaidd y wladwriaeth newydd. Fe ddileuwyd Seanad y Wladwriaeth Rydd yn gyfangwbl yn 1936 wedi iddi oedi cynigion cyfansoddiadaol gan y Llywodraeth Fianna Fail.

Cyfansoddiad Iwerddon (ers 1937)[golygu | golygu cod y dudalen]

Sefydlwyd, neu'n hytrach, ail-sefydlwyd y Seanad Éireann gyfoes gan Gyfansoddiad Iwerddon yn 1937. Pan fabwysiadwyd y ddogfen hon fe benderfynwyd cadw'r teitlau Gwydddeleg, Oireachtas, Dáil Éireann am y siambr gyntaf a Seanad Éireann am yr ail siambr, fel a ddefnyddiwyd yn ystod cyfnod y Wladwriaeth Rydd. Ystyriwyd y Seanad yma fel olynydd i Seanad y Wladwriaeth Rydd ac felly yn ystod ei chyfarfod gyntaf fe'i cyfeirir ati fel "Yr Ail Seanad".

Fe ysbrydolwyd y system o Baneli Galwedigaethol i enwebu ymgeiswyd i'r Seanad gan athrawiaeth gymdeithasol yr Eglwys Gatholig yn yr 1930au, ac, yn enwedig, yr Cylchlythyr y Pâb Quadragesimo anno. Yn y ddogfen hon mae'r Pab Pïws XI yn dadlau y dylai'r cysyniad Farcsaidd o wrthdarro dosbarth gael ei eilyddio gan gweledigaeth o drefn gymdeithasol wedi ei seilio ar gydweithio a chyd-ddibyniaeth gwahanol grwpiau galwedigaethol cymdeithas.

Refferendwm Diddynu'r Seanad, 2013[golygu | golygu cod y dudalen]

Ym mis Hydref 2009, datganodd arweinydd plaid Fine Gael, Enda Kenny, ei fwriad y byddai llywodraeth Fine Gael yn dileu y Seanad ynghŷd â lleihau nifer y TDs gan 20 er mwyn "arbed oddeutu €150m dros gynfod tymor o'r Dáil."[2] Yn ystod Etholiad Cyffredinnol 2011 fe wnaeth Plaid Lafur Iwerddon, Sinn Féin a Phlaid Sosialaidd Iwerddon hefyd gefnogi diddymu'r Seanad.[3][4][5] tra i blaid Fianna Fáil gefnogi refferendum ar y pwnc.[6]

Wedi ethol Llywodraeth Fine Gael-Llafur, cafwyd refferendwm ar y mater ym mis Hydref 2013. Pleidleisiodd pobl 51.7% to o blaid cadw Seanad Éireann a 48.3% yn ei erbyn.

Dolenni[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

{[cyfeiriadau}}

  1. "Ryan 'very unlikely' to accept Seanad seat". Irish Independent. 15 June 2009. http://www.independent.ie/national-news/ryan-very-unlikely-to-accept-seanad-seat-1773791.html. Adalwyd 17 June 2009.
  2. "Kenny: FG would slash TD numbers, abolish Seanad". BreakingNews.ie. 17 October 2009. http://breakingnews.ie/archives/2009/1017/ireland/eymhaugbcwid/#ixzz0UK8fdl8g.
  3. "Labour calls for Seanad to be abolished". RTÉ News. 4 January 2011. http://www.rte.ie/news/2011/0103/seanad.html.
  4. "Government lagging behind public on Seanad abolition – Doherty". Sinn Féin. 3 January 2011. http://www.sinnfein.ie/contents/19784.
  5. "Kenny defends Seanad plan". The Irish Times. 19 October 2009. http://www.irishtimes.com/newspaper/breaking/2009/1019/breaking10.htm. Adalwyd 19 October 2009.
  6. "Fianna Fáil U-turn on Seanad looks to have sealed fate of Upper House". The Irish Times. 3 January 2011. http://www.irishtimes.com/newspaper/ireland/2011/0103/1224286668922.html.