Gwladwriaeth Rydd Iwerddon

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Gwladwriaeth Rydd Iwerddon
Saorstát Éireann (Gwyddelig)
1922–1937
Flag of Gwladwriaeth Rydd Iwerddon
Banner
{{{coat_alt}}}
Sêl Fawr
Anthem: "Amhrán na bhFiann"[1]
"The Soldiers' Song"
Lleoliad Gwladwriaeth Rydd Iwerddon, mae Gogledd Iwerddon mewn gwyrdd golau
Lleoliad Gwladwriaeth Rydd Iwerddon, mae Gogledd Iwerddon mewn gwyrdd golau
Statws Dominiwn Brydeinig
Prifddinas Dulyn
53°21′N 6°16′W / 53.350°N 6.267°W / 53.350; -6.267
Ieithoedd cyffredin Gwyddeleg, Saesneg
Demonym Gwyddelod
Llywodraeth Brenhiniaeth gyfansoddiadol seneddol
Teyrn  
• 1922–1936
Siôr V
• 1936
Edward VIII
• 1936–1949
O bosib Siôr VI
(more information)
Llywodraethwr Cyffredinol  
• 1922–1927
Timothy Michael Healy
• 1928–1932
James McNeill
• 1932–1936
Domhnall Ua Buachalla
Llywydd y Cyngor Gweithredol  
• 1922–1932
W. T. Cosgrave
• 1932–1937
Éamon de Valera
Deddfwrfa Oireachtas
Seanad Éireann
Dáil Éireann
Hanes  
6 Rhagfyr 1921
6 Rhagfyr 1922
• Eithrio Gogledd yr Iwerddon
8 Rhagfyr 1922
29 Rhagfyr 1937
Arwynebedd
Hyd 8 Rhagfyr 1922 84,000 km2 (32,000 mi sg)
Wedi 8 Rhagfyr 1922 70,000 km2 (27,000 mi sg)
Currency Pound sterling (1922–27)
Saorstát pound (1928–37)
Nodyn:Infobox country/formernext

Gwladwriaeth Rydd Iwerddon ( Saesneg: Irish Free State; Gwyddeleg: Saorstát Éireann) oedd enw'r wladwriaeth yn cynnwys 26 o 32 sir Iwerddon a ymwahanodd oddi wrth Deyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon gyda Chytundeb Eingl-Wyddelig a lofnwyd gan Gynrychiolydd Weriniaethol Iwerddon yn Llundain ar 6 Rhagfyr 1921. Bu'r endid wladwriaeth, a ffurfiwyd gyda chynulliad cyfansoddol (y Trydydd Dail), tua 27 mlynedd (1922 - 1949) hyd nes cyhoeddwyd Deddf Gweriniaeth Iwerddon 1949, a gyhoeddodd Weriniaeth Iwerddon ar hyn o bryd.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Pasbort GRI (cuddwyd enw'r deilydd)

O 1 Ionawr 1801 tan 6 Rhagfyr 1922 roedd Iwerddon yn rhan o Deyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon. Yn etholiad cyffredinol Prydain ym mis Rhagfyr 1918, enillodd plaid weriniaethol Sinn Féin 73 o'r 106 sedd Wyddelig yn Nhŷ'r Cyffredin yn Llundain. Ym mis Ionawr 1919, gwrthododd aelodau'r senedd a etholwyd i Sinn Féin gymryd meddiant o’u eu seddi yn San Steffan gan sefydlu senedd Weriniaeth answyddogol, y Dáil Éireann a gyhoeddodd yn annibynniaeth unochrog Gweriniaeth Iwerddon. Ni dderbyniodd y Senedd yma, fodd bynnag, unrhyw gydnabyddiaeth ryngwladol. Ar ôl y rhyfel Annibyniaeth, trafododd cynrychiolwyr llywodraeth Prydain ac Aireacht (cabinet) Eire ym 1921 y Cytundeb Eingl-Wyddelig a gymeradwywyd gan y Dáil. Yn rhyngwladol, cydnabuwyd gwladwriaeth Iwerddon fel Wladwriaeth Iwerddon rydd (“Saorstát Éireann”, yn Saesneg "Irish Free State"). Dylai'r cyflwr rhydd newydd fod wedi cwmpasu'r ynys gyfan mewn theori, ond cytunodd y ddwy ochr y gallai chwe sir Gogledd Iwerddon (lle roedd mwyafrif Brotestanaidd a oedd eisoes wedi dod yn endid annibynnol) ddewis aros o dan y Deyrnas Unedig. Daeth y 26 sir sy'n weddill yn rhan o Wladwriaeth Rhydd Iwerddon a fyddai wedi cael statws sofran o fewn yr Ymerodraeth Brydeinig (ond yn parhau i dderbyn Brenihinaeith Prydain fel pennaeth y wladwriaeth Wyddelig). Roedd gan y Wladwriaeth Rydd ei Lywodraethwr Cyffredinol, Senedd dau dy, cabinet o'r enw y Cyngor Gweithredol a Phrif Weinidog (Llywydd y Cyngor Gweithredol).

Rhwyg[golygu | golygu cod y dudalen]

Nid oedd rhan o'r mudiad annibyniaeth a arweiniwyd gan Éamon de Valera yn derbyn y cytundebau â llywodraeth Prydain oherwydd credid nad oeddent yn gwarantu undod yr ynys a chysylltiadau â hwy gyda'r Deyrnas Unedig. Y canlyniad oedd Rhyfel Cartref gyda llywodraeth pro-Cytundeb W.T. Cosgrave yn llywodraethu a dienyddio 77 o Weriniaethwyr. Daeth y Rhyfel Cartref ddaeth i ben ym mis Mai 1923 gyda threchu'r garfan yn gwrthwynebu'r cytundeb (ochr de Valera).

Cymod[golygu | golygu cod y dudalen]

Enillwyd etholiadau 1932 gan Fianna Fáil, plaid Gweriniaethol a gwrth-Brydeinig dan arweiniad de Valera, a chyhoeddwyd cyfansoddiad newydd ar 29 Rhagfyr 1937, sef Cyfansoddiad Iwerddon lle cafodd 'Wladwriaeth Ddiwygiedig' ei ddisodli gan Wladwriaeth Iwerddon Rydd neu, a adnabuwyd yn Saesneg gan yr enw Wyddeleg am yr ynys, Éire (Iwerddon). Darparodd strwythur cyfansoddiadol y wladwriaeth hon ar gyfer Llywydd, ond Brenin y Deyrnas Unedig yn cadw pwerau mewn materion o gysylltiadau tramor hyd nes 1949. Ar 18 Ebrill 1949 o dan prif weinidogaeth John A. Costello datganodd Deddf Gweriniaeth Iwerddon mai gweriniaeth lawn fyddai Iwerddon, gan gymryd y rôl a'r rhinweddau oedd yn perthyn i'r Brenin yn flaenorol i Arlywydd. Gydag hyn, gadawodd Iwerddon Cymanwlad Prydain. Arlywydd cyntaf y weriniaeth newydd oedd Seán T. O’Kelly.

Dirmyg[golygu | golygu cod y dudalen]

Bydd y term ‘’Free Staters’’ yn cael ei harddel gan weriniaethwyr prybur, yn enwedig yng Ngogledd Iwerddon ar wladwriaeth y Werinaieth ac, yn eu tyb nhw, meddylfryd Brydain-gymodlon arweinwyr y Weriniaeth. [2] Bydd Gweriniaethwyr prybur yn arddal mai Dail 1919 yw’r unig wir Weriniaeth ac nad oes hawl galw gwladwriaeth y 26 sir yn ‘weriniaeth’ hyd nes unir y 6 sir yn y Gogledd gyda’r De.

Ceir cwpled isod yn y gân ‘Take it Down from the Mast’ gan James Ryan.

Take it down from the mast Irish traitors
it’s the flag we Republicans claim
It can never belong to Free Staters
they’ve brought on it nothing but shame.

Dolenni[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Mabwysiadwyd yn swyddogol ym mis Gorffennaf 1926. O'Day, Alan (1987). Alan O'Day, ed. Reactions to Irish nationalism. Continuum International Publishing Group. p. 17. ISBN 978-0-907628-85-9. Adalwyd 28 April 2011.  Check date values in: |access-date= (help)
  2. http://cain.ulst.ac.uk/othelem/glossary.htm#F