Marcsiaeth

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Athrawiaeth faterolaidd a ddatblygodd Karl Marx a Friedrich Engels yng nghanol y 19eg ganrif yw Marcsiaeth. Yn wreiddiol roedd yn cynnwys tri syniad cysylltiedig: barn athronyddol o ddynoliaeth, theori o hanes, a rhaglen economaidd a gwleidyddol. Ffurf o sosialaeth yw Marcsiaeth, sydd yn rhoi pwyslais ar frwydr hanesyddol a phwysigrwydd y dosbarth gweithiol neu'r proletariat. Mae nifer o ideolegau yn tarddu o Farcsiaeth, megis Leniniaeth, Staliniaeth, Trotscïaeth, a Maoiaeth.

Prif Gysyniadau[golygu]

Materoliaeth Hanesyddol[golygu]

I Marx bu newid cymdeithasol yn dibynnu ar newid yn y system economaidd sy'n bydoli. Y ffurf o gynhyrchu - hynny yw, y modd mae cymdeithas yn creu ei chynnyrch a'r perthnasau sy'n bodoli rhwng grwpiau o bobl yn ystod hyn - sy'n sylfaenol i bopeth arall y gymdeithas hynny: ei chrefydd, wleidyddiaeth, ddiwylliant ac yn yr blaen. Er enghraifft, gwelir Marx system gwleidyddol o ddemocratiaeth cynrychioladol a Christnogaeth Protestannaidd fel nodweddion o gyfalafiaeth.

Gan mai berthnasau rhwng grwpiau gwahanol o bobl, dosbarthiadau, yw'r sylfaenai economaidd yma, y newid yn y perthnasau yma sy'n holl bwysig. Gwelai buddion y dosbarthiadau economaidd yma yn gwrthwynebol i'w gilydd, ac felly maent mewn brwydr parhaol a'i gilydd. Pan cyrhaeddir y brwydr yma pwynt arbennig wedi i'r system economaidd datblygu, bu chwyldro a newid cyflym yn y perthnasau rhwng y dosbarthiadau gwahanol. Symuda'r cymdeithas ymlaen i gyfnod economaidd newydd, cyfnod newydd yn ei hanes. Dyma golygai Marx pan ddywedai bod "hanes pob cymdeithas hyd yn hyn ydyw hanes brwydrau dosbarth" yn y Maniffesto Gomiwnyddol.[1]

Gwelai Marx y cyfnodau cymdeithasol yma fel (yn eu trefn cronolegol):

  1. Comiwnyddiaeth Cyntefig
  2. Cymdeithas Gaethweision
  3. Cymdeithas Ffiwdal
  4. Cyfalafiaeth
  5. Sosialaeth (neu Gyfnod Cyntaf Gomiwnyddiaeth)
  6. Comiwnyddiaeth (neu Ail Gyfnod Gomiwnyddiaeth)

Pwysig nodi nid yw Marx yn honni fod ganddo allwedd hud sy'n esbonio holl hanes dyn. Dydi'r cyfnodau yma dim yn anochel nac yn angenrheidiol yn wir ym mhobman. Yn hytrach dyma ddarganfyddiadau ei ymchwil ar hanes Ewrop.

Bu pob cam ymlaen ar hyd y cyfnodau yma yn cyfiawn gan ei fod yn ehangu a datblygu'r modd gynhyrchu. Rhaid cofio y credai Marx taw pwrpas bywyd a'r hyn sy'n gwahaniaethu dyn ac anifail yw llafur. Serch ei feirniadaeth tanbaid o gyfalafiaeth, i Marx bu chwyldro y cyfalafwyr dal yn gywir gan ei fod yn symud y gymdeithas ymlaen o'r drefn ffiwdal gynt.

Beirniadaeth o Gyfalafiaeth[golygu]

Yn ganolig i syniadau Marcsaidd yw beirniadaeth Marx o system economaidd cyfalafiaeth, beirniadaeth fu'n cael sylw manwl yn ei waith Das Kapital. Bu Marx yn defnyddio theori o werth yn seiliedig ar lafur (yn debyg i'r economydd Adam Smith ac eraill y 18fed a 19eg ganrif), hynny yw bod gwerth nwydd ar y masnach yn cyfatebol i'r oriau o lafur cymerodd i'w greu. Gwahaniaethwyd rhwng gwerth llafur nwydd a gwerth defnydd nwydd. Yn fanwl gywir, amser llafur sy'n angenrheidiol i gymdeithas sydd yn wraidd gwerth. Yn ôl Marx, bu dosbarth y cyfalafwyr, neu'r bourgeoisie - hynny yw, rheini sy'n perchen y cyfalaf, yn ecsploetio'r gweithwyr, neu'r proletariat - hynny yw, rheini sydd yn byw trwy werthu ei lafur a'i gyfnewid am gyflog. Digwyddiff hyn gan fod y bourgeoisie yn talu'r gweithwyr llai na werth eu cynnyrch (ac felly eu llafur) cyn eu werthu ar y marchnad. Trwy wneud hyn wnaiff y bourgeoisie eu helw, neu werth gwarged, eu hadenillion o'u buddsoddiad o gyfalaf. Bu'r bourgeoisie felly yn wneud fwy o arian ac yn llawer fwy gyfoethog na'r gweithwyr, er mai ond symud werth o'r un man i'r llall wnaethant, lle'r proletariat bu'n cyflawni'r gwaith. Mae wastad pwysau ar y gweithiwr unigol i weithio'n galetach oherwydd y fyddin wrth-gefn o'r di-waith, hynny yw di-waith sy'n medru gweithio a fyddai'n cymryd ei le.

Bu Marx yn argyfyngau economaidd yn anochel oherwydd y gwrthgyferbyniadau elfennol sydd yn bodoli mewn cyfalafiaeth. Mae Marx yn nodi bod argyfyngau cyfalafiaeth yn wahanol i holl argyfyngau eraill gan eu bod yn argyfyngau o orgyflenwad, yn hytrach na dan-gyflenwad (er enghraifft cynhaeaf wael mewn cymdeithas ffiwdal). Rhan gynhenid o gyfalafiaeth yw'r argyfyngau hyn i Marx - safbwynt cwbl groes i economegwyr neo-rhyddfrydol a gredai fod argyfwng yn canlyniad o ffactorau allanol yn effeithio ar gydbwysedd y masnach (e.e ymyrraeth llywodraethol).

Yn Saesneg, gelwir rhywun a chredai yn syniadau economaidd Marx ond nid o reidrwydd safbwyntiau eraill Marcsiaeth (yr angen am chwyldro y proletariat, fateroliaeth hanesyddol) yn Marxian (megis yr athronydd Bertrand Russell a'r ffisegydd Albert Einstein).

Chwyldro y Proletariat, Sosialaeth a rôl y Comiwnyddion[golygu]

Bu drydydd prif gysyniad Marx, ynglŷn ar fel dyle'r Proleteriat rhyddhau eu hun trwy chwyldro, yn un o'r fwyaf ddadleuol. Mae Marx yn rhagweld Comiwnyddiaeth, hynny yw cymdeithas heb wladwriaeth, ddosbarth nac eiddo preifat, fel rhyddhad y gweithwyr a chymdeithas o'i holl brwydrau dosbarthiadol. Fel pob newid yn y system economaidd cynt byddai hyn yn digwydd yn sydyn, gyda dosbarth newydd yn cipio afwynau y llywodraeth. Bwysig nodi i Marx amlygiad o reolaeth y dosbarth uchaf yw'r wladwriaeth. Bu'r chwyldro hwn yn wahanol i holl chwyldroadau cynt gan ei fod yn "wir" chwyldro, y dosbarth isaf yn cymryd pŵer (yn y chwyldro cyfalafol er enghraifft, y dosbarth cyfalafol fu'n cymryd pŵer, nid dosbarth y werin). Mae'r ffaith bod Marx yn gweld y dosbarth gweithiol yn dod i bŵer trwy chwyldro yn wahaniaeth bwysig rhwng Marcisaeth a'r "adolygwyr", rheini megis y Gymdeithas Fabian yn Llundain a gredodd gallai hyn digwydd trwy ddemocratiaeth seneddol. Wnaeth Marx hefyd honni y fydd y chwyldro hwn yn un rhyngwladol, gyda gweithwyr byd eang yn ymuno yn erbyn y cyfalafwyr. Ar ôl y chwyldro yma fe sefydlwyd llywodraeth sosialaidd a fyddai'n drawsnewid cymdeithas a chwalu'r system cyfalafiaeth yn llwyr. Yn dilyn hyn fe dybiwyd Marx y fydd y lywodraeth hon yn diflannu. Fel dywedodd Leon Trotsky yn dilyn chwyldro y Bolsiefigiaid - plaid Comiwnyddiol - yn Rwssia yn 1917, "i gyd sydd angen i ni wneud yw llofnodi peth dyfarniadau yna gallwn cau y siop a dychwelyd adref". Credai Marx trwy roi y dosbarth isaf yn reolaeth o'r llywodraeth bu'r dosbarthiadau eraill yn dod i ben a symuda'r gymdeithas yn hawdd i mewn i Gomiwnyddiaeth.

Yn Y Maniffesto Comiwnyddol mae Marx ac Engels yn sôn am rôl y Comiwnyddion yn ystod datblygiad cymdeithas. Rhain yw carfan o'r dosbarth gweithiol sydd y mwyaf ymwybodol o'u gorthrymder dan gyfalafiaeth, sydd yn arwain y gweithwyr 'oll ymlaen tua Chomiwnyddiaeth. Mae'r Manfifesto yn sôn fel dylent cefnogi y chwyldroadau cynt, megis rheini cyfalafiaeth, ond wastad cwestiynu hawliau eiddo. Mae'n awgrymu ei fod yn ffurfio Plaid ac yn weithredu yn gyson dros y chwyldro sosialaidd sydd i'w ddod. Ond ddydi Marx dim yn gwbl eglur ar fanylion y chwyldro hwn. Pan ysgrifennodd gydag Engels y maniffesto, yn 1848 yn ystod cyfnod o ansefydlogrwydd gwleidyddol yn Ewrop, roedd yn disgwyl i'r chwyldro dod yn fuan, ond dua diwedd ei oes sylweddolodd nad oedd hyn yn debygol. Cafodd digwyddiadau Comiwn Paris, gwrthryfel dosbarth gweithiol yn Ffrainc, effaith arno ef ac ysgrifenwyr tebyg. Yn dilyn hyn dywedodd Marx bod rhaid i'r llywodraeth sosialaidd bod yn gwbl groes i bob llywodraeth cynt: yn wir ddemocrataidd (yn hytrach na ffug ddemocratiaeth y Bourgoisie mewn cyfalafiaeth) ac yn barod i ddiflannu ar ôl ei enedigaeth.

Bu'r rhan-fwyaf o bleidiau Comiwnyddol yn dilyn traddodiad Marcs a Lenin, neu rhyw amrywiant ar hynny (pe bai'n Staliniaeth, Trotscïaeth, Maoiaeth ac ati), hynny yw syniadau Marx fel cafwyd eu dehongli gan Vladamir Lenin a'u haddasu am sefyllfa Rwsia ar ddechrau'r 20fed ganrif. Mae Leniniaeth yn gweld plaid Comiwnyddol blaengad, canolig o ychydig o chwyldroadwyr fel arweinwyr y chwyldro a'r rheini fyddai'n cymryd afwynau y llywodraeth. Ond fu Marx yn gweld chwyldro fel digwyddiad y byddai'r holl weithwyr yn ymgymryd. Mae'n nodi yn ymateb i lyfr yr anarchydd Mikhail Bakunin Statehood & Anarchy y byddai holl 40 miliwn o weithwyr yr Almaen yn aelodau o'r lywodraeth Sosialaidd, nid grŵp bychan o chwyldroadwyr yn cynrychioli'r gweithwyr.[2]

Cyfeiriadau[golygu]