Salvador Allende
| Salvador Allende | |
|---|---|
| Ffugenw | Chicho |
| Ganwyd | Salvador Isabelino del Sagrado Corazón de Jesús Allende Gossens 26 Mehefin 1908 Santiago de Chile |
| Bu farw | 11 Medi 1973 o anaf balistig Santiago de Chile |
| Dinasyddiaeth | Tsile |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | gwleidydd, meddyg, llawfeddyg, Arlywydd Tsile |
| Swydd | Arlywydd Tsile, president of the Senate of Chile, Aelod o Siambr Dirprwyon Chile, senator of Chile, Chilean minister of Health, ysgrifennydd cyffredinol |
| Plaid Wleidyddol | Socialist Party of Chile |
| Tad | Salvador Allende Castro |
| Mam | Laura Gossens Uribe |
| Priod | Hortensia Bussi |
| Plant | María Isabel Allende, Beatriz Allende |
| Perthnasau | Isabel Allende, Maya Fernández |
| Llinach | Teulu Allende |
| Gwobr/au | Urdd José Martí, Order of Augusto César Sandino, Gwobr Heddwch Lennin, Grand Cross of the Order Bernardo O'Higgins, Grand Cross of the Order of Merit, Gwobr Cymdeithion O. R. Tambo |
| Gwefan | http://www.fundacionsalvadorallende.cl/ |
| llofnod | |
Gwleidydd o Tsile a wasanaethodd fel arlywydd ei wlad o 3 Tachwedd 1970 hyd ei farwolaeth oedd Salvador Guillermo Allende Gossens (26 Mehefin 1908 - 11 Medi 1973). Fe'i ganed yn Valparaiso.
Gyrfa wleidyddol
[golygu | golygu cod]Ymddiddorai Allende mewn gwleidyddiaeth yn ddyn ifanc, a chafodd ei arestio sawl gwaith yn ystod ei amser fel myfyriwr am iddo gymryd rhan mewn gweithgareddau radicalaidd. Cynorthwyodd i sefydlu Plaid Sosialaidd Tsile, plaid Farcsaidd annibynnol a ddilynai lwybr gwahanol i'r Blaid Gomiwynyddol a oedd yn dilyn llwybr yr Undeb Sofietaidd. Cafodd ei ethol i Siambr Dirprwyon Tsile yn 1937, gwasanaethodd fel gweinidog iechyd am dair blynedd ac fel seneddwr o 1945 hyd 1970.
Safodd dair gwaith am yr arlywyddiaeth - yn 1952, 1958 a 1964 - ond heb lwyddiant. Yn 1970 llwyddodd gyda mwyafrif bychan i ddod yn arlywydd Tsile a chychwynodd ar raglen radicalaidd asgell chwith i greu cymdeithas sosialaidd mewn fframwaith llywodraeth ddemocrataidd yn y wlad. Ond wynebai wrthwynebiad eang gan elfennau grymus yn y sector preifat a byd busnes ; cefnogai llywodraeth yr Unol Daleithiau'r gwrthwynebwyr a rhoddwyd y CIA ar waith yn y wlad i helpu tanseilio llywodraeth Allende. Ym mis Medi 1973, cafwyd coup milwrol yn ei erbyn a sefydlwyd junta militaraidd dan arweiniad y Cadfridog Augusto Pinochet. Bu farw cannoedd o bobl yn yr ymladd. Lladdwyd Allende yn y brwydro i gipio'r Palas Arlywyddol yn Santiago, prifddinas Tsile.
Yn y misoedd ar ôl lladd Allende, ffôdd cannoedd o bobl, yn cynnwys nith Allende, y nofelydd Isabel Allende, i geisio lloches yn yr Unol Daleithiau a gwledydd eraill.