Isabel Allende

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Isabel Allende
Isabel Allende - 001.jpg
Ynganiad Isabel Allende.ogg Edit this on Wikidata
Ganwyd 2 Awst 1942 Edit this on Wikidata (75)
Chile Edit this on Wikidata
Man preswyl Califfornia Edit this on Wikidata
Gwaith newyddiadurwr, Sgriptiwr, awdur plant, nofelydd Edit this on Wikidata
Gwaith nodedig The House of the Spirits, Zorro Edit this on Wikidata
Aelod o Allende family, Academi Celfyddydau a Llythyrau America Edit this on Wikidata
Priod Miguel Frías, Willie Gordon Edit this on Wikidata
Plant Paula Frías Allende Edit this on Wikidata
Gwobr/au National Prize for Literature, Hans Christian Andersen Literature Award, Neuadd Enwogion California, Gwobr yr Arlywydd: Medal Rhyddid, American Book Awards, Common Wealth Award of Distinguished Service, Anisfield-Wolf Book Awards Edit this on Wikidata
Gwefan http://www.isabelallende.com Edit this on Wikidata

Mae Isabel Allende Llona (ganwyd 2 Awst 1942 yn Lima, Periw) yn awdures o Chile, mae ei gwaith yn canolbwyntio ar brofiadau menywod ac mae hi'n cymysgu realaeth a dychymyg i greu realaeth hudol (Magical Realism). Ymhlith ei gwaith mwyaf nodedig mae The House of the Spirits (La casa de los espíritus, 1982) a City of the Beasts (La ciudad de las bestias, 2002), a oedd hefyd yn llwyddiant o ran gwerthiant y llyfrau. Credir mai Allende yw'r "awdur sydd wedi gwerthu mwyaf o lyfrau Sbaeneg o'i chenehedlaeth".[1]

Ganwyd Isabel Allende yn Lima, Periw, am fod ei thad, Tomás Allende; yn llysgennad Chile i Peru. Cefnder ei thad oedd Salvador Allende, Arlywydd Chile o 1970 i 1973. Yn 1945, symudodd y teulu yn ôl i Santiago, Chile, tan 1953 pan ailbriododd ei mam hi i Ramón Huidobro (diplomydd arall) a symudon nhw i Bolifia, a Beirut cyn dychwelyd i Chile yn 1958.

Priododd Miguel Frías yn 1962, a tan 1965 bu Allende yn gweithio i'r Cenhedloedd Unedig. Cawson nhw ferch yn 1963 a mab yn 1966. Cyflawnodd waith mam, diplomydd. Erbyn 1988, priododd Allende ag Americanwr, Willie Gordon. Daeth yn ddinesydd yr UDA yn 2003. Erbyn heddiw mae hi'n byw yn San Rafael, California.

Gwobrau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Grand Prix d’Evasion
  • Gwobr Gabriela Mistral (Chile)
  • Gwobr Bancarella (Yr Eidal)
  • Chevalier des Artes et des Lettres

Gwaith[golygu | golygu cod y dudalen]

Trosiadau i'r Gymraeg:

  • Walimai gan Isabel Allende, troswyd gan Dewi Wyn Evans yn Taliesin cyf 121, Gwanwyn 2004
  • Tŷ'r Ysbrydion (1982) La casa de los espíritus
  • Y Ddynes Dew Borslen (1984) La gorda de porcelana
  • Am Gariad a Chysgod (1985) De amor y de sombra
  • Eva Luna (1987)
  • Straeon Eva Luna (1989) Cuentos de Eva Luna
  • Y Cynllun Tragwyddol (1991) El plan infinito
  • Paula (1995)
  • Aphrodite: Cofiant i'r Synhwyrau (1998) Afrodita
  • Merch i Ffortun (1999) Hija de la fortuna
  • Llun Sepia (2000) Retrato en sepia
  • Dinas y Bwystfilod (2002) La ciudad de las bestias
  • Fy Ngwlad Greëdig (2003) Mi país inventado
  • Deyrnas y Ddraig Aur (2004) El reino del Dragón del Oro
  • Zorro (2005) El Zorro
  • Coedwig y Corrachod (2005) El Bosque de los Pigmeos
  • Ines, fy Enaid (2006) Inés del Alma Mía
  • Cyfanswm ein dyddiau (2008) La Suma de los Días
  • "Yr Ynys o dan y Môr" (2009) "La Isla bajo el mar"

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]