The New York Review of Books

Oddi ar Wicipedia
The New York Review of Books
Enghraifft o'r canlynolcylchgrawn Edit this on Wikidata
GolygyddRobert B. Silvers, Barbara Epstein, Elizabeth Hardwick, Ian Buruma Edit this on Wikidata
IaithSaesneg Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1963 Edit this on Wikidata
Prif bwncllenyddiaeth Edit this on Wikidata
Lleoliad yr archifNew York Public Library Edit this on Wikidata
Isgwmni/auNew York Review Books Edit this on Wikidata
PencadlysDinas Efrog Newydd Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.nybooks.com/ Edit this on Wikidata

Cylchgrawn llên yn yr Unol Daleithiau a gyhoeddir bob dwy wythnos sy'n cynnwys adolygiadau o'r llyfrau diweddaraf ac erthyglau ar faterion deallusol cyfoes yw The New York Review of Books. Fe'i sefydlwyd yn 1963 ac mae ganddo gylchrediad o tua 125,000 o gopïau. Yn olygyddol, mae'n gyhoeddiad rhyddfrydol, i'r chwith o'r canol.

Mae ei gyfranwyr enwog yn cynnwys Jean-Paul Sartre, John K. Galbraith, W. H. Auden, V. S. Naipaul, yr Esgob Desmond Tutu, Gore Vidal, Elizabeth Hardwick, Hannah Arendt, Edmund Wilson, Susan Sontag, Robert Penn Warren, Lilian Hellman, Norman Mailer, Saul Bellow, Robert Lowell, Truman Capote, William Styron, a Mary McCarthy.

Yn ogystal ag erthyglau am lenyddiaeth, ceir adolygiadau ac erthyglau ar y celfyddydau yn gyffredinol, yn cynnwys cerddoriaeth, y theatr, dawns a ffilm.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am newyddiaduraeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.