Beirut

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Beirut
Beirutcity.jpg
BlasonBeyrouth4.jpg
Math Prifddinas Edit this on Wikidata
Poblogaeth 361,366 Edit this on Wikidata
Cylchfa amser UTC+2 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Daearyddiaeth
Sir Beirut Governorate Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Libanus Libanus
Arwynebedd 20,000,000 m² Edit this on Wikidata
Uwch y môr 0 metr Edit this on Wikidata
Gerllaw Y Môr Canoldir Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 33.8869°N 35.5131°E Edit this on Wikidata
Y Corniche, Beirut

Beirut (Arabeg: بيروت ; Ffrangeg: Beyrouth) yw prifddinas Libanus er 1941. Lleolir Senedd Libanus a sedd llywodraeth y wald yno. Mae'n gorwedd ar bentir, ar lan y Môr Canoldir a hi yw prif borthladd y wlad. Saif i'r gorllewin o Fynydd Libanus sy'n rhoi ffurf triongl i'r ddinas. Gan na fu cyfrifiad yno ers blynyddoedd mae'r amcangyfrifon o'i phoblogaeth yn amrywio o rhwng 1 a 2 filiwn o bobl.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd y ddinas ym meddiant y Tyrciaid am ganrifoedd nes i Ffrainc ei chipio ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf. Pan enillodd Libanus ei hannibyniaeth yn 1941 dewisiwyd Beirut yn brifddinas iddi.

Dioddefodd y ddinas ddifrod sylweddol yn ystod y rhyfel cartref (1973-1976) ac eto yn 1982 pan ymosododd byddin Israel arni er mwyn gorfodi'r PLO i ymadael.

Datblygiadau diweddar[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn 2006 cafodd y ddinas ei tharo nifer o weithiau gan lu awyr Israel gan ladd rhai cannoedd o bobl a dinistrio rhannau o'r ddinas, yn arbennig maerdvefi y de ac ardal y maes awyr. Ym Mai 2008 ceisiodd Llywodraeth y wlad esgymuno aelodau o Hezbollah: penderfyniad y bu iddi'n ddiweddarach wrthdroi oherwydd y protestio a gwrthdystio cyhoeddus. Yn dilyn ymyrraeth gan Dywysog Qatar sefydlwyd Llywodraeth newydd gyda Phrifweinidog newydd yn ei harwain.

Enwogion[golygu | golygu cod y dudalen]

Flag of Lebanon.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Libanus. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.