Neidio i'r cynnwys

Mudiad Rhyddid Palesteina

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriwyd o PLO)
Baner Mudiad Rhyddid Palesteina.)

Mudiad gwleidyddol gyda senedd a threfn iddi ydy Mudiad Rhyddid Palesteinia (Arabeg: منظمة التحرير الفلسطينية‎; Munazzamat al-Tahrir al-Filastiniyyah neu Munazzamat al-Tahrir al-Filastiniyyah; Saesneg: The Palestine Liberation Organization (PLO)). Yn ôl y Cynghrair Arabaidd (yn 1974), y PLO yw unig gynrychiolydd pobol Palesteina.[1] Mudiad ymryddhad cenedlaethol seciwlar yw'r Mudiad.

Cafodd y Mudiad ei greu yn 1964 gan y Gynghrair Arabaidd gyda'r nôd o ddileu Israel drwy ddulliau milwrol gan i Israel ddwyn eu hawl dros eu tiroedd yn 1947. Ar y cychwyn rheolwyd y mudiad gan lywodraeth yr Aifft. Cyhoeddodd eu Siarter wreiddiol eu hawl i gymryd y tiroedd oddi wrth Israel. Datblygodd y Mudiad i fod yn gyfundrefn annibynnol erbyn y 1960au. Yn ddiweddar mae'r Mudiad wedi derbyn hawl Israel i gyd-fodoli â Phalisteina, ochr-yn-ochr er i arweinwyr megis Yasser Arafat a Faisal Husseini gyhoeddi mai eu nôd tymor hir ydoedd sicrhau holl diroedd Palesteina yn ôl yn nwylo'r Palesteiniaid.[2]

Yn 1993, cadarnhaodd Jasser Arafat fodolaeth Israel mewn llythyr swyddogol at Brif Weinidog Israel. Mewn ymateb, cyhoeddodd Israel ei bod yn derbyn Mudiad Rhyddid Palestina fel cynrychiolydd cyfreithiol Palestina. Arafat yw cadeirydd y Mudiad. Ei olynydd yw Mahmoud Abbas (a elwir hefyd yn Abu Mazen).

Mae'r PLO wedi'i ddosbarthu fel sefydliad arbennig o gyfoethog, gydag asedau'n amrywio o $ 15 biliwn i $ 18 biliwn a dderbyniodd fel rhoddion gan wledydd Arabaidd eraill, ac ati.

Ar 27 Ebrill 2011 cyhoeddodd Fatah a Hamas fod eu pont wedi cyrraedd carreg filltir bwysig yn eu hymgais i uno’r ddau sefydliad yn un blaid wleidyddol i gystadlu yn etholiadau 2012.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Madiha Rashid al Madfai, Jordan, the United States and the Middle East Peace Process, 1974-1991, Cambridge Middle East Library, Cambridge University Press (1993), t.21
  2. The PNC Program of 1974, 8 Mehefin 1974. Ar wefan MidEastWeb for Coexistence R.A. - Middle East Resources. A hefyd: The Palestinian National Charter: Resolutions of the Palestine National Council July 1-17, 1968, The Avalon Project at Yale Law School.
Eginyn erthygl sydd uchod am Balesteina. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato