Al Nakba

Oddi ar Wicipedia
Al Nakba
Enghraifft o'r canlynoldispossession, Carthu ethnig Edit this on Wikidata
Dyddiad1948 Edit this on Wikidata
AchosSeioniaeth edit this on wikidata
LleoliadPalesteina dan Fandad Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Ffoaduriaid o Balesteiniaid, 1948

Mae'r term Arabeg al Nakba neu al Naqba (Arabeg: النكبة‎‎), sy'n golygu "Y Catastroffi" neu "Y Drychineb", yn cael ei ddefnyddio gan y Palesteiniaid i gyfeirio at laddfa, symudiad drwy drais a ffoedigaeth y Palesteiniaid o Palesteina yn 1948, yn ystod Rhyfel Palesteina 1948 ac o ganlyniad i'r rhyfel hwnnw. Gyrrwyd hanner poblogaeth Arabaidd Palesteina (750,000 o bobl) o'u cartrefi a gwrthododd y wladwriaeth Israeli newydd ganiatâd iddynt ddychwelyd. Gwacawyd a dinistriwyd pentrefi cyfan. Meddiannwyd rhai o'r tai gan wladychwyr Iddewig. Codwyd gwladychfeydd Iddewig newydd a choedwigoedd ar safle'r pentrefi a ddiboblogwyd. Mae'r Palesteiniaid a ddadleolwyd a'u teuluoedd bellach yn byw mewn gwersylloedd ffoaduriaid ar y Lan Orllewinol a Llain Gaza ac mewn gwledydd Arabaidd cyffiniol. Cyfeirir ati hefyd fel Ffoedigaeth y Palesteniaid (Arabeg: الهجرة الفلسطينية‎‎, al-Hijra al-Filasteeniya). Ceir Diwrnod Nakba i gofio'r digwyddiad.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am Balesteina. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato