Y Cynghrair Arabaidd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
ewin bawd
ewin bawd

Aelodau'r Cynghrair Arabaidd Sefydlwyd y Cynghrair Arabaidd (Arabeg: الجامعة العربية‎ al-Jāmiʻa al-ʻArabiyya), a elwir Cynghrair y Gwladwriaethau Arabaidd (Arabic: جامعة الدول العربية‎ Jāmiʻat ad-Duwal al-ʻArabiyya) yn swyddogol, er mwyn hyrwyddo undod a chydweithrediad rhwng y gwledydd Arabaidd. Fe'i sefydlwyd ar 7 Mawrth, 1945, gan saith o wledydd Arabaidd, sef Yr Aifft, Irac, Gwlad Iorddonen, Libanus, Saudi Arabia, Syria ac Yemen. Ar hyn o bryd ceir 22 aelod. Prif nod y Cyngrair yw creu perthynas agosach rhwng yr aelod-wladwriaethau a threfnu cydweithrediad rhyngddynt, amddiffyn eu hannibyniaeth a'u sofraniaeth, a thrafod mewn modd gyffredinol buddianau'r gwledydd Arabaidd a materion sy'n ymwneud â hwy.

Lleolir ei bencadlys yn ninas Cairo yn yr Aifft. Mae tua 316 miliwn o bobl yn byw yng ngwledydd y Cynghrair, ar diriogaeth sy'n ymestyn o'r Maghreb yn y gorllewin i'r ffin rhwng Irac ac Iran a de-ddwyrain gorynys Arabia yn y dwyrain. Mae'r mwyafrif yn Arabiaid ond ceir lleiafrifoedd fel y Berberiaid hefyd. Mae canran sylweddol o'r boblogaeth yn byw mewn dinasoedd a threfi. Y dinasoedd mwyaf yw Baghdad, Khartoum, Damascus, Riyadh, Alexandria a Casablanca.

Aelodau[golygu]

Arab League History.svg

Aelodau presennol y Cynghair yw (ynghyd â'u dyddiad aelodaeth):

Baner Yr Aifft Yr Aifft 22 Mawrth, 1945 (Sefydlydd)
Baner Irac Irac 22 Mawrth, 1945 (Sefydlydd)
Baner Gwlad Iorddonen Gwlad Iorddonen 22 Mawrth, 1945 (Sefydlydd)
Baner Libanus Libanus 22 Mawrth, 1945 (Sefydlydd)
Baner Sawdi Arabia Sawdi Arabia 22 Mawrth, 1945 (Sefydlydd)
Baner Syria Syria 22 Mawrth, 1945 (Sefydlydd)
Baner Yemen Yemen 5 Mai, 1945 (Sefydlydd)
Baner Libya Libya 28 Mawrth, 1953
Baner Swdan Swdan 19 Ionawr, 1956
Baner Moroco Moroco 1 Hydref, 1958
[[delwedd:Nodyn:Alias baner gwlad Tiwnisia|22x20px|Baner Nodyn:Alias gwlad Tiwnisia]] [[Nodyn:Alias gwlad Tiwnisia]] 1 Hydref, 1958
Baner Kuwait Kuwait 20 Gorffennaf, 1961
Baner Algeria Algeria 16 Awst, 1962
Baner Emiradau Arabaidd Unedig Emiradau Arabaidd Unedig 12 Mehefin, 1971
Baner Bahrain Bahrain 11 Medi, 1971
Baner Catar Catar 11 Medi, 1971
Baner Oman Oman 29 Medi, 1971
Flag of Mauritania.svg Mauritania 26 Tachwedd, 1973
Baner Somalia Somalia 14 Chwefror, 1974
Baner Palesteina Palesteina Gwladwriaeth Palesteina 15 Tachwedd, 1988, yn olynnu'r PLO (o 9 Medi, 1976)
Baner Djibouti Djibouti 9 Ebrill, 1977
Baner Comoros Comoros 20 Tachwedd, 1993

Yn Ionawr 2003, ymaelododd Eritrea fel sylwedydd.

Ysgrifenyddion Cyffredinol[golygu]

Baner Yr Aifft Yr Aifft Abdul Rahman Azzam 1945 hyd 1952
Baner Yr Aifft Yr Aifft Abdul Khalek Hassouna 1952 hyd 1972
Baner Yr Aifft Yr Aifft Mahmoud Riad 1972 hyd 1979
[[delwedd:Nodyn:Alias baner gwlad Tiwnisia|22x20px|Baner Nodyn:Alias gwlad Tiwnisia]] [[Nodyn:Alias gwlad Tiwnisia]] Chedli Klibi 1979 hyd 1990
Baner Libanus Libanus Assad al-Assad 1990 hyd 1991
Baner Yr Aifft Yr Aifft Ahmad Esmat Abd al Meguid 1991 hyd 2001
Baner Yr Aifft Yr Aifft Amr Moussa 2001 hyd heddiw

Gweler hefyd[golygu]

Dolenni allanol[golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:


Society.svg Eginyn erthygl sydd uchod am wleidyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.