Damascus
![]() | |
Math |
dinas, prifddinas, safle archaeolegol, dinas fawr, dinas â miliynau o drigolion ![]() |
---|---|
| |
Poblogaeth |
1,754,000 ![]() |
Pennaeth llywodraeth |
Bishr Al Sabban ![]() |
Cylchfa amser |
UTC+2, UTC+03:00 ![]() |
Gefeilldref/i | |
Iaith/Ieithoedd swyddogol |
Arabeg ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol |
Hauran ![]() |
Sir |
Damascus Governorate ![]() |
Gwlad |
![]() |
Arwynebedd |
105 km² ![]() |
Uwch y môr |
680 ±1 metr ![]() |
Gerllaw |
Barada ![]() |
Cyfesurynnau |
33.51°N 36.29°E ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth |
Bishr Al Sabban ![]() |
![]() | |
Damascus neu Dimashq (Arabeg دمشق), a elwir hefyd Esh Sham ar lafar yn Arabeg, yw prifddinas Syria.
Fe'i lleolir yn ne-ddwyrain y wlad, yn agos i'r ffin â Libanus.
Mae hi'n un o'r dinasoedd hynaf yn y byd. O'r cychwyn cyntaf mae hi wedi bod yn enwog fel dinas fasnachol. Roedd yn un o ddeg dinas y Decapolis yn nghyfnod y Rhufeiniaid. Yno y ceir y Stryd a elwir Syth. Ar ei ffordd i Ddamascus y cafodd sant Paul o Darsus ei droedigaeth.
Mae'r Fosg Fawr, a elwir weithiau Mosg yr Ummaiaid yn un o'r rhai pwysicaf yn y byd Arabaidd. Dywedir bod Sant Ioan Fedyddiwr wedi'i gladdu yno ac mae'n sanctaidd i Fwslemiaid a Christnogion fel ei gilydd.
Dan reolaeth Saladin roedd Damascus yn ganolfan weinyddol bwysig. Mae beddrod Saladin i'w gweld yn y ddinas heddiw.
Roedd hi dan reolaeth yr Ottomaniaid o 1516 hyd 1918. Cipiwyd y ddinas gan Ffrainc yn 1920. Daeth yn brifddinas y Syria annibynnol yn 1941.