Berberiaid
Enghraifft o'r canlynol | grŵp ethnig |
---|---|
Math | llwyth, Afroasiatic peoples |
Poblogaeth | 24,000,000 |
Crefydd | Swnni, cristnogaeth, iddewiaeth |
Rhan o | Afroasiatic peoples |
Yn cynnwys | Kabyle people, Chaoui people, Tachelhit people, Riffian people, Ghomara |
Gwladwriaeth | Moroco, Algeria, Niger, Mali, Libia, Bwrcina Ffaso, Tiwnisia, Mawritania, Yr Aifft |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Grŵp ethnig yng Ngogledd Affrica yw'r Berberiaid. Hwy yw trigolion brodorol yr ardal o Ogledd Affrica i'r gorllewin o ddyffryn Afon Nîl ac i'r gogledd o Afon Niger. Ieithoedd brodorol y Berberiaid yw'r ieithoedd Berber, sy'n gangen o'r ieithoedd Affro-Asiaidd. Erbyn heddiw, mae llawer o'r Berberiaid yn Arabeg eu hiaith, ond mae rhwng 14 a 25 miliwn o siaradwyr yr ieithoedd Berber yn byw yng Ngogledd Affrica, y rhan fwyaf yn Algeria a Moroco, ond hefyd mewn rhannau eraill o'r Maghreb a thu hwnt.
Kabylie yw'r enw Berber am diriogaeth y Berberiaid yn y Maghreb. Defnyddir yr enw weithiau i olygu tiriogaeth draddodiadol y Berberiaid yn ei chyfanrwydd - ac felly'n cynnwys rhannau mawr o Foroco ac Algeria a darn o Tiwnisia - ond am resymau gwleidyddol mae'n tueddu i gael ei gyfyngu i'r rhan o Algeria sy'n gadarnle i'r Berberiaid heddiw.
Enw llawer o'r Berberiaid arnynt eu hunain yw Imazighen (unigol Amazigh) neu amrywiad o hyn, efallai'n golygu "y bobl rydd" ond mae amheuaeth ynglŷn â hyn. Enw'r Rhufeiniaid ar rai o'r Berber oedd y "Mazices", oedd a'r ystyr "dynion rhydd" yn ôl Leo Africanus. Daw'r gair "Berber" o'r Arabeg.
Ymosodiadau ar Gymru
[golygu | golygu cod]Yn y 16g a’r 17g cododd Syr Thomas Mostyn o ardal Llandudno bedwar tŵr ar arfordir gogledd Cymru fel mannau gwylio, rhag ymosodiadau y Berberiaid (neu'r 'Barbari') o Ogledd Affrica a'r Twrc. Dyma'r pedwar: Tŵr Bryniau (neu 'Cadair Freichiau Nain'), Cadair y Rheithor (Llandrillo yn Rhos), Bryn Tŵr (Abergele) a Thŵr Chwitffordd.
Felly, roedd gan Deulu Mostyn bedwar tŵr i gadw golwg ar fôr-ladron Barbari ac roedd yn bosib anfon neges o'r naill i'r llall (drwy gynnau coelcerth, rhan amlaf) pan oedd angen. Er hynny, does yna ddim tystiolaeth bod ‘Môr-ladron Barbari’ wedi ymosod ar Ogledd Cymru.
-
Tŵr Bryniau, neu 'Cadair Freichiau Nain'
-
Tŵr ychwanegol Eglwys Rhos, neu 'Cadair y Rheithor
-
Tŵr Abergele - 'Bryn Tŵr'
-
'Tŵr Allt y Garreg', Chwitffordd
Berberiaid enwog
[golygu | golygu cod]- Apuleius, awdur Lladin
- Septimius Severus, ymerawdwr Rhufeinig
- Awstin o Hippo, sant ac awdur, un o dadau'r eglwys
- Ibn Battuta, fforiwr ac awdur
- Abd El-Kader, arweinydd gwrthryfel a llenor
- Zinedine Zidane, pêl-droediwr