Mali

Oddi ar Wicipedia
Mali
ArwyddairOne people, one goal, one faith Edit this on Wikidata
Mathgwladwriaeth sofran, gwlad dirgaeedig, gwlad Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlYmerodraeth Mali Edit this on Wikidata
LL-Q9610 (ben)-Tahmid-মালি.wav Edit this on Wikidata
PrifddinasBamako Edit this on Wikidata
Poblogaeth20,250,833 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 22 Medi 1960 Edit this on Wikidata
AnthemPour l'Afrique et pour toi Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethChoguel Kokalla Maïga Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC±00:00, Africa/Bamako Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Bambara, Bobo, Bozo, Dogon, Ffwlareg, Arabeg Hassaniya, Kassonke, Maninka, Minyanka, Ieithoedd Senufo, Ieithoedd Songhay, Soninke, Tamasheq Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolGorllewin Affrica Edit this on Wikidata
GwladBaner Mali Mali
Arwynebedd1,240,192 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaAlgeria, Niger, Bwrcina Ffaso, Y Traeth Ifori, Gini, Senegal, Mawritania Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau17°N 4°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholNational Assembly Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
President of Mali Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethAssimi Goïta Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Prime Minister of Mali Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethChoguel Kokalla Maïga Edit this on Wikidata
Map
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP)$19,309 million, $18,827 million Edit this on Wikidata
Arianfranc CFA Gorllein ffrica Edit this on Wikidata
Canran y diwaith8 ±1 % Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant6.229 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol0.428 Edit this on Wikidata

Gwlad yng Ngorllewin Affrica yw Gweriniaeth Mali, neu Mali yn syml (yn Ffrangeg: République du Mali). Ei henw cyn annibyniaeth oedd Soudan français (Swdan Ffrengig). Y gwledydd cyfagos yw Algeria i'r gogledd, Senegal a Mauritania i'r gorllewin, Gini i'r de-orllewin, Bwrcina Ffaso ac y Traeth Ifori i'r de, a Niger i’r dwyrain. Mae'n weriniaeth annibynnol ers 1960. Prifddinas Mali yw Bamako. Y prif grwpiau ethnig yw'r Bambara, y Fulani a'r Senufo.

Daearyddiaeth[golygu | golygu cod]

Heb unrhyw arfordir, mae Mali yn wlad tirgaeedig. Mae rhan helaeth o ogledd a chanolbarth y wlad yn dir anial, sy'n rhan o Anialwch y Sahara; yn y de ceir tir savannah sych (sy'n rhan o'r Sahel) a fforestydd trofaol. Mae bywyd gwyllt y de yn atyniad twristaidd heddiw. Mae Afon Niger yn rhedeg ar draws y wlad fel bwa o'r gorllewin i'r dwyrain ac mae'r prif drefi i'w cael ar hyd ei glannau. Rhwng Ségou a Tombouctou mae'r afon yn troi'n ddelta dŵr croyw sylweddol gyda gwelyau alwfial.

Mae dros 90% o'r boblogaeth yn byw yn y canolbarth a'r de. Ar wahân i'r brifddinas Bamako, y prif drefi a dinasoedd yw Sikasso, Ségou, Mopti, Tombouctou (Timbuktu), Gao a Tessalit.

Hanes[golygu | golygu cod]

Prif: Hanes Mali
Mosg Djingareiber yn Tombouctou

O'r 4g ymlaen bu Mali'n rhan o sawl ymerodraeth yn olynol, yn cynnwys Ymerodraeth Ghana, Ymerodraeth Mali (Mansu Musa oedd ei hymerodr galluocaf) ac Ymerodraeth Gao.

O'r 11g ymlaen roedd Tombouctou (Timbuktu) yn ganolfan masnach a dysg bwysig. Erbyn y 14g roedd ei phrifysgol yn atynu ysgolheigion o bob cwrdd o'r byd Islamaidd.

Yn ystod y 19g cafodd ei meddiannu gan Ffrainc a'i hymgorffori yng Ngorllewin Affrica Ffrengig. Llwyddodd i ennill hunanlywodraeth fewnol yn 1958 fel rhan o'r Gymuned Ffrengig. Ffurfiodd wladwriaeth newydd gyda Senegal yn 1959 dan yr enw Ffederasiwn Mali ond aeth ei ffordd ei hun ar 22 Medi 1960 fel gwlad annibynnol.

Yn 2012, cipiwyd Tombouctou, Gao a threfi eraill yn y gogledd gan wrthryfelwyr Touareg. Dymchwelwyd yr arlywydd, Amadou Toumani Touré, gan grŵp o filwyr oherwydd ei ymateb i'r argyfwng.

Iaith a diwylliant[golygu | golygu cod]

Ffrangeg yw'r unig iaith swyddogol ond mae nifer o bobl yn siarad ieithoedd brodorol fel eu mamiaith ac yn defnyddio Ffrangeg fel lingua franca; yr ieithoedd brodorol pwysicaf yw Bamakan a'r ieithoedd Mandé.

Mae'r grwpiau ethnig yn cynnwys y Bambara, y Senufo a'r Fulani, a'r Touareg yn y gogledd. Mae mwyafrif y boblogaeth yn Fwslemiaid.

Mae dinasoedd Mopti, Tombouctou a Bamako yn adnabyddus am eu pensaernïaeth draddodiadol unigryw sy'n dyddio o'r Oesoedd Canol.

Economi[golygu | golygu cod]

Pysgota ar Lac Sélingué

Mae Mali yn un o wledydd tlotaf y byd. Mae nifer o Falïaid yn gorfod gadael y wlad i gael gwaith mewn gwledydd mwy cyfoethog fel Nigeria. Mae dros 80% o'r boblogaeth yn ennill bywoliaeth trwy amaethyddiaeth.

Ers degawdau mae anialu yn broblem gynyddol ac effeithir amaeth yn ardal y safana gan sychder yn aml. Codi anifeiliaid gan nomadiaid sy'n bwysig yn y Sahel ac mae pysgota yn y delta a'r llynnoedd yn bwysig yn ogystal.

Mae'r rhan fwyaf o'r sector diwydiannol yn cynhyrchu nwyddau ar gyfer y sector amaeth domestig. Mae Mali yn ddibynnol iawn ar gymorth tramor.

Rhanbarthau[golygu | golygu cod]

Mali

Rhennir Mali yn wyth rhanbarth ac un ardal. Maen hw'n cael eu henwi ar ôl eu tref bwysicaf.

Ceir tair rhanbarth yn y gogledd sy'n cynrychioli dau draean o arwynebedd tir y wlad ond dim ond 10% o'r boblogaeth sy'n byw yno:

Gao,
Kidal
Tombouctou

Yn y de mae'r wlad yn cael ei rhannu'n bump rhanbarth, sef

Kayes
Koulikoro
Mopti
Ségou
Sikasso

Yn ogystal ceir un ardal o gwmpas y brifddinas:

Bamako