Tombouctou
Gwedd
| Math | dinas, ardal drefol |
|---|---|
| Poblogaeth | 35,330 |
| Cylchfa amser | UTC+00:00 |
| Gefeilldref/i | |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Rhanbarth Tombouctou, Timbuktu Cercle |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 14,789 ha |
| Uwch y môr | 261 metr |
| Cyfesurynnau | 16.773333°N 2.999444°W, 16.77348°N 3.00742°W |
![]() | |
| Statws treftadaeth | Safle Treftadaeth y Byd |
| Manylion | |
Mae Tombouctou (neu Timbuktu) yn ddinas hynafol yn nwyrain canolbarth Mali sy'n brifddinas y rhanbarth o'r un enw.
Mae'n gorwedd ar lannau Afon Niger.
Yn ystod yr Oesoedd Canol roedd Tombouctou yn ganolfan bwysig ar y llwybrau masnach traws-Saharaidd. Roedd yn enwog yn y byd Islamaidd a thu hwnt am ei phrifysgol a'i llyfrgelloedd niferus a denai ysgolheigion o bob cwr o'r byd Islamaidd a'r tu hwnt. Mae pensaernïaeth hynod yr hen ddinas â'i hadeiladau pridd caled a phren yn nodweddiadol o'r rhanbarth. Mae'r hen ddinas ar restr UNESCO o Safleoedd Treftadaeth y Byd.

