Gorllewin Affrica Ffrengig

Oddi ar Wicipedia
Gorllewin Affrica Ffrengig
Mathtalaith ffederal, endid tiriogaethol gweinyddol, defunct organization Edit this on Wikidata
PrifddinasDakar, Saint-Louis Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1895 Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Ffrangeg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolFrench colonial empire, Undeb Ffrainc, French Colonial Africa Edit this on Wikidata
GwladFfrainc Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau14.492626°N 5.660918°W Edit this on Wikidata
Map
ArianFrench West African franc Edit this on Wikidata

Ffederasiwn trefedigaethol o wyth o wladfeydd Ymerodraeth Ffrainc yng Ngorllewin AffricaGwladfa Mawritania, Gwladfa Senegal, Swdan Ffrengig (Mali bellach), Gini Ffrengig (Gini bellach), Gwladfa'r Traeth Ifori, Blaenau'r Folta (Bwrcina Ffaso bellach), Dahomey (Benin bellach), a Gwladfa Niger—a fodolai o 1895 i 1958 oedd Gorllewin Affrica Ffrengig (Ffrangeg: Afrique-Occidentale française, AOF).

Enillodd Ffrainc ei thiriogaethau yng Ngorllewin Affrica yn ystod yr Ymgiprys am Affrica. Ym 1895 sefydlwyd Gorllewin Affrica Ffrengig i weinyddu Senegal, Gini, y Traeth Ifori, a Swdan Ffrengig, ac ychwanegwyd Dahomey ym 1899. Cyfunwyd Senegal â Niger a Mali ym 1902 dan yr enw Sénégambie-Niger, a ailenwyd yn Flaenau Senegal a Niger ym 1904 ac yna Swdan Ffrengig ym 1920. Ychwanegwyd Mawritania at y ffederasiwn ym 1904. Sefydlwyd Blaenau'r Folta ym 1909, a fe'i cyfeddianwyd i'r Traeth Ifori ym 1932. Ailsefydlwyd Blaenau'r Folta fel gwladfa ar wahân ym 1947. Diddymwyd y ffederasiwn ym 1958, yn sgil sefydlu Pumed Weriniaeth Ffrainc, ac erbyn 1960 rhoddwyd annibyniaeth i bob un o'r gwledydd.[1]

Roedd tiriogaethau eraill Ffrainc yn Affrica yn cynnwys Affrica Gyhydeddol Ffrengig, Gwladfa Madagasgar ac ynysoedd eraill yng Nghefnfor India, Arfordir Ffrengig Somalia, protectoriaethau Moroco a Thiwnisia, ac Algeria (a weinyddwyd fel rhan annatod o Ffrainc).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) French West Affrica. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 9 Chwefror 2024.