Undeb Ffrainc
| Enghraifft o: | endid tiriogaethol gweinyddol |
|---|---|
| Daeth i ben | 28 Medi 1958 |
| Dechrau/Sefydlu | 27 Hydref 1946 |
| Yn cynnwys | Gorllewin Affrica Ffrengig, Algeria Ffrengig, French Cameroons, French Caribbean, Colony of Niger, Indo-Tsieina Ffrengig, Guyane, French Colonial Africa, French Somaliland, French Togoland |
![]() | |
| Olynydd | French Community |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/01d7bh |
Endid gwleidyddol a grëwyd gan Bedwaredd Weriniaeth Ffrainc i ddisodli Ymerodraeth Ffrainc oedd Undeb Ffrainc (Ffrangeg: Union française). Parhaodd o 27 Hydref 1946 hyd 1958 pan gafodd y Gymuned Ffrengig ei sefydlu gan y Bumed Weriniaeth dan yr Arlywydd Charles de Gaulle.
Ceisiodd Undeb Ffrainc efelychu'r Gymanwlad Brydeinig. Roedd yn cynnwys Ffrainc fetropolitanaidd, y départements tramor (Algeria Ffrengig, Réunion, Guyane (Gaiana Ffrengig), Guadeloupe, a Martinique), tiriogaethau tramor (Gorllewin Affrica Ffrengig, Affrica Gyhydeddol Ffrengig, Madagasgar, Mayotte, Somalia Ffrengig, Comoros, Caledonia Newydd, Polynesia Ffrengig, Saint-Pierre-et-Miquelon, ac India Ffrengig), tiriogaethau ymddiriedol y Cenhedloedd Unedig (Togoland Ffrengig a Cameroun Ffrengig), a'r gwledydd cysylltiedig (Moroco Ffrengig, Tiwnisia Ffrengig, ac Indo-Tsieina Ffrengig).
