Saint-Pierre-et-Miquelon
Gwedd
| Arwyddair | A mare labor |
|---|---|
| Math | overseas collectivity of France |
| Prifddinas | Saint-Pierre |
| Poblogaeth | 5,974 |
| Sefydlwyd | |
| Anthem | La Marseillaise |
| Pennaeth llywodraeth | Stéphane Artano |
| Cylchfa amser | UTC−03:00 |
| Iaith/Ieithoedd swyddogol | Ffrangeg |
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | Ffrainc |
| Arwynebedd | 242 ±1 km² |
| Uwch y môr | 240 metr |
| Gerllaw | Cefnfor yr Iwerydd |
| Yn ffinio gyda | Canada |
| Cyfesurynnau | 46.85°N 56.3°W |
| Cod post | 97500 |
| FR-PM | |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff deddfwriaethol | Territorial Council of Saint Pierre and Miquelon |
| Pennaeth y Llywodraeth | Stéphane Artano |
![]() | |
| Arian | Ewro |

Ynysoedd sy'n un o diriogaethau tramor Ffrainc yng ngogledd Môr Iwerydd yw Saint-Pierre-et-Miquelon, Safant 25 km oddi ar arfordir Canada. Ar un adeg, roeddynt yn département d'outre-mer; ers 1985 mae ganddynt y statws o collectivité territoriale.
Mae tair prif ynys: Saint-Pierre, y leiaf o'r tair ond yr un lle mae 90% o'r boblogaeth yn byw, Miquelon, a Langlade. Ers y 18g, mae penrhyn tywodlyd yn cysylltu'r ddwy olaf.
Cafodd ynys Saint-Pierre ei henw gan y fforiwr Jacques Cartier yn 1536. Yn yr 16g, defnyddid yr ynysoedd gan bysgotwyr o Normandi, Gwlad y Basg a Llydaw. Erbyn cyfrifiad 1999, roedd y boblogaeth yn 6,316, gyda 5,618 o'r rhain ar Saint-Pierre.

