Neidio i'r cynnwys

Indo-Tsieina Ffrengig

Oddi ar Wicipedia
Indo-Tsieina Ffrengig
Enghraifft o:talaith ffederal, gwlad ar un adeg, trefedigaeth Edit this on Wikidata
Daeth i ben1954 Edit this on Wikidata
Poblogaeth21,599,582 Edit this on Wikidata
Rhan oFrench colonial empire Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1887 Edit this on Wikidata
Yn cynnwysFrench Tonkin, French Annam, French Cochinchina, French Protectorate of Laos, French Protectorate of Cambodia, Guangzhouwan Edit this on Wikidata
Map
RhagflaenyddKingdom of Kampuchea, French Annam, French Protectorate of Cambodia, French Tonkin Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Baner Indo-Tsieina Ffrengig

Rhan o Ymerodraeth Ffrainc yn Ne Ddwyrain Asia oedd Indo-Tsieina Ffrengig (Ffrangeg: Indochine française; Khmer: សហភាព​ឥណ្ឌូចិន, Fietnameg: Đông Dương thuộc Pháp). Ffurfiwyd ffederasiwn o dri rhanbarth yn Fietnam, sef Tonkin (Gogledd), Annam (Canolbarth), a Cochinchina (De), yn ogystal â Chambodia, ym 1887.

Ychwanegwyd Laos ym 1893 a Kouang-Tchéou-Wan ym 1900. Symudodd y brifddinas o Saigon (yn Cochinchina) i Hanoi (Tonkin) ym 1902. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, gweinyddwyd y drefedigaeth gan Lywodraeth Vichy o dan feddiannaeth Japan. Ym mis Mai 1941, cychwynnodd gwrthryfel yn erbyn rheolaeth Ffrainc gan y Fiet Minh, byddin gomiwnyddol dan arweiniad Ho Chi Minh, yn ystod Rhyfel Cyntaf Indo-Tsieina.

Yn Saigon, enillodd Gwladwriaeth Fietnam, gwlad wrth-gomiwnyddol dan arweiniad y cyn-Ymerawdwr Bảo Đại, annibyniaeth ym 1949. Yn dilyn Cytundeb Genefa ym 1954 daeth y Fiet Minh yn llywodraeth Gogledd Fietnam, er parhaodd llywodraeth Bảo Đại i reoli yn Ne Fietnam.