Cynhadledd Genefa (1954)
Gwedd
| Enghraifft o: | cytundeb, cynhadledd rhyngwladol |
|---|---|
| Dyddiad | 1954 |
| Dechreuwyd | 26 Ebrill 1954 |
| Daeth i ben | 20 Gorffennaf 1954 |
| Lleoliad | Genefa |
| Gwladwriaeth | Y Swistir |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/02x42w |
Cynhadledd ddiplomyddol oedd Cynhadledd Genefa (26 Ebrill – 20 Gorffennaf 1954, yng Ngenefa, y Swistir) a geisiodd uno Corea yn sgîl Rhyfel Corea a dod â therfyn i Ryfel Cyntaf Indo-Tsieina. Mynychodd yr Undeb Sofietaidd, yr Unol Daleithiau, Ffrainc, y Deyrnas Unedig, a Gweriniaeth Pobl Tsieina, a gwledydd eraill oedd yn ymwneud â'r rhyfeloedd yng Nghorea ac Indo-Tsieina. Ni chytunwyd ar unrhyw ddatganiadau neu gynigion parthed Corea, ond cytunwyd ar Gytundebau Genefa a wnaeth rhannu Fietnam yn ddwy ran gyda'r nod o uno'r wlad yn y dyfodol. Cytunwyd hefyd i gadoediad yn Fietnam, Laos, a Chambodia.
Darllen pellach
[golygu | golygu cod]- Randle, R. F. Geneva 1954: The Settlement of the Indochinese War (Princeton: Princeton University Press, 1969)