Martinique
Gwedd
Math | rhanbarthau Ffrainc, overseas department and region of France, rhestr o diriogaethau dibynnol |
---|---|
Prifddinas | Fort-de-France |
Poblogaeth | 360,749 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Serge Letchimy |
Cylchfa amser | UTC−04:00 |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Antilles Leiaf, Windward Islands |
Lleoliad | Martinique |
Sir | Ffrainc |
Gwlad | Ffrainc |
Arwynebedd | 1,128 km² |
Cyfesurynnau | 14.65°N 61.015°W |
FR-972 | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Regional Council of Martinique |
Pennaeth y Llywodraeth | Serge Letchimy |
Arian | Ewro |
Ynys yn nwyrain Môr y Caribî a Département tramor o Ffrainc yw Martinique.
Fe'i lleolir i'r de-ddwyrain o Dominica ac i'r gogledd o Sant Lwsia. Roedd y boblogaeth yn 2006 yn 397,732. Y brifddinas a'r ddinas fwyaf yw Fort-de-France, gyda phoblogaeth o 134,727 yn 1999, 35% o boblogaeth yr holl ynys. Dinasoedd eraill yw Le Lamentin, Sainte-Marie a Le Robert.
Ffrangeg yw'r iaith swyddogol, ond mae bron pawb o'r trigolion hefyd yn siarad Créole Martiniquais.
Ar 8 Mai 1902, ffrwydrodd llosgfynydd Mont Pelée, a dinistriwyd prifddinas yr ynys yr adeg honno, Saint-Pierre, yn llwyr. Lladdwyd bron y cyfan o'i thrigolion, tua 30,000, gan gymylau o lwch folcanig chwilboeth; dywedir mai dim ond dau o drigolion Saint-Pierre a adawyd yn fyw.