Rhanbarthau Ffrainc
Enghraifft o'r canlynol | math o adran weinyddol Ffrainc, ffurf gyfreithiol |
---|---|
Math | awdurdod lleol yn Ffrainc, is-adran weinyddol gwlad lefel gyntaf, adran tiriogaethol Ffrainc, etholaeth, rhanbarth gweinyddol |
Dechrau/Sefydlu | 4 Mehefin 1960 |
Gwladwriaeth | Ffrainc |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Rhennir Ffrainc yn 18 région (rhanbarth), sy'n cynnwys 13 région yn y Ffrainc ddinesig a 5 rhanbarth tramor. Mae un o'r rhanbarthau dinesig, Corsica (Corse), yn cael ei ddiffinio fel 'cymuned diriogaethol'. Y rhanbarthau yw'r lefel uchaf yn israniadau tiriogaethol a gweinyddol Gweriniaeth Ffrainc; rhennir y rhanbarthau hyn yn eu tro yn départements.
Daeth y 18 rhanbarth i fodolaeth ar 1 Ionawr 2016; cyn hynny roedd 27 rhanbarth. Bathwyd y term région yn swyddogol yn Neddf Datganoli 2 Mawrth 1982.
Mae rhanbarthau Ffrainc yn ardaloedd daearyddol diffiniedig yn ogystal, i gryn raddau, a gysylltir â hunaniaeth ddiwyllianol a hanesyddol sy'n aml yn rhagddyddio Ffrainc ei hun fel uned wleidyddol.
Swyddogaeth
[golygu | golygu cod]Gan fod Ffrainc yn wladwriaeth ganolog, nid oes gan y rhanbarthau rym i greu deddfau na chodi trethi. Ond maent yn derbyn cyfran o'r arian a gofir gan drethi cenedlaethol gan y llywodraeth ganolog ac felly mae ganddynt gyllid sylweddol ac mae ganddynt ryddid i'w gwario yn ôl yr angen.
O bryd i'w gilydd, mae dadl yn codi dros gael mwy o ymreolaeth ar lefel ranbarthol, ond mae hyn yn arwain at anghytundeb yn aml. Mae rhai pobl wedi galw yn ogystal am gael gwared â'r cynghorau yn y départements a rhoi ei grym a'u swyddogaeth i'r rhanbarthau, gan gadw'r départements fel israniadau gweinyddol yn unig, ond hyd yn hyn nid oes symudiad i'r cyfeiriad hwnnw.
Diwygio ac uno'r rhanbarthau
[golygu | golygu cod]Yn 2014, pasiodd Senedd Ffrainc (y Cynulliad Cenedlaethol a'r Senedd) cyfraith i leihau nifer y rhanbarthau ar dir mawr Ffrainc a Chorsica o 22 i 13. Daeth y rhanbarthau newydd i rym ar 1 Ionawr 2016.
Rhoddwyd enwau dros dro ar gyfer y rhan fwyaf o ranbarthau newydd drwy gyfuno enwau'r hen ranbarthau, e.e. enw dros dro'r rhanbarth newydd sy'n cynnwys Aquitaine, Poitou Charentes a Limousin yw Aquitaine-Limousin-Poitou Charentes. Bydd enwau parhaol yn cael eu cynnig gan y cynghorau rhanbarthol newydd a'u gadarnhau gan y Conseil d'etat erbyn 1 Gorffennaf 2016. Bydd yr enwau newydd yn cael eu cadarnhau gan y Conseil d'etat erbyn mis Hydref 2016. Mae dau ranbarth, Auvergne-Rhône-Alpes a Bourgogne-Franche-Comté, wedi dewis cadw eu henwau interim.
Rhanbarthau newydd
[golygu | golygu cod]Rhanbarthau unedig newydd:
Rhanbarthau sy'n aros yr un fath:
Bretagne | |
Centre-Val de Loire | |
Corsica | |
Île-de-France | |
Pays de la Loire | |
Provence-Alpes-Côte d'Azur |
Rhestr o'r hen ranbarthau
[golygu | golygu cod]- 22 région y Ffrainc ddinesig (métropolitaine) :
1. Alsace
2. Aquitaine
3. Auvergne
4. Basse-Normandie
5. Bourgogne
6. Bretagne
7. Centre
8. Champagne-Ardenne
9. Corsica10. Franche-Comté
11. Haute-Normandie
12. Île-de-France
13. Languedoc-Roussillon
14. Limousin
15. Lorraine
16. Midi-Pyrénées
17. Nord-Pas-de-Calais
18. Pays de la Loire
19. Picardie
20. Poitou-Charentes
21. Provence-Alpes-Côte d'Azur
22. Rhône-Alpes
- Sylwer fod gan Corsica statws gyfansoddiadol o fewn Ffrainc fel cymuned diriogaethol (collectivité territoriale) sy'n wahanol i'r 21 rhanbarth arall.
- Map o ranbarthau tramor Ffrainc, pob un ohonynt hefyd yn département tramor