Bae Bizkaia
| Math | bae |
|---|---|
| Enwyd ar ôl | Bizkaia, Gasgwyn |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Cefnfor yr Iwerydd |
| Gwlad | Ffrainc, Sbaen |
| Arwynebedd | 223,000 km² |
| Gerllaw | Cefnfor yr Iwerydd |
| Yn ffinio gyda | Ffrainc, Sbaen, Cefnfor yr Iwerydd |
| Cyfesurynnau | 45.5°N 4.4°W |
| Hyd | 593.7 cilometr |
![]() | |

Bae mawr ger arfordir Ffrainc a Sbaen yw Bae Bizkaia, hefyd Bae Vizcaya neu Bae Biscay (Sbaeneg: golfo de Vizcaya neu golfo de Gascuña, Ffrangeg: Golfe de Gascogne, Basgeg: Bizkaiko Golkoa). Cymer ei enw o dalaith Bizkaia yng nghymuned ymreolaethol Gwlad y Basg. Weithiau defnyddir Gwlff Gasgwyn amdano; mae'r Atlas Cymraeg Newydd yn dangos "Gwlff Gasgwyn" fel y rhan ddeheuol o'r bae.[1] Mae'r bae, sy'n rhan o Gefnfor yr Iwerydd, yn ymestyn o benrhyn Ajo yn Cantabria (Sbaen) hyd dde Llydaw, ac yn cynnwys arfordir Gwlad y Basg ac Acwitania. Ei led yw tua 320 km (199 milltir).
Ceir nifer o borthladdoedd pwysig yma, yn enwedig Bilbo, Pasajes a Burdeos. Yr unig afon fawr sy'n llifo iddo yw Afon Garonne; ymhlith yr afonydd eraill mae Afon Nervión ac Afon Bidasoa, sy'n ffurfio'r ffin rhwng Ffrainc a Sbaen.
Mae'r bae yn ddwfn ac yn tueddol i gael tywydd mawr ac felly'n gallu bod yn beryglus i longau. Mae'n bysgodfa pwysig: ymhlith y pysgod masnachol a ddelir yno ceir brwyniaid, cod, tiwna a sardîns.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Yr Atlas Cymraeg Newydd, gol. Gareth Jones (Collins-Longman, 1999), t.44
