Môr Liguria
![]() | |
Math | môr ymylon ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Y Môr Canoldir ![]() |
Gwlad | Ffrainc, yr Eidal, Monaco ![]() |
Cyfesurynnau | 43.4983°N 9.0417°E ![]() |
![]() | |
Braich neu gilfach o'r Môr Canoldir yw Môr Liguria[1] (Eidaleg: Mar Ligure; Ffrangeg: Mer Ligurienne). Mae'n ymestyn rhwng arfordir de-ddwyreiniol Ffrainc (Côte d'Azur) ac arfordir gogledd-gorllewinol Yr Eidal (Liguria a Toscana). Mae ynys Corsica yn gorwedd i'r de. Yn y de-ddwyrain mae'r môr yn ffinio â Môr Tirrenia, tra yn y gorllewin mae'n ffinio â phrif ran y Môr Canoldir. Yn ei ben eithaf mae'n gorffen yng Ngwlff Genova.
Porthladd pwysicaf y rhanbarth yw Genova. Mae La Spezia a Livorno yn borthladdoedd pwysig eraill ar ei arfordir creigiog.

Môr Liguria (map Eidalaidd). Mae'r llinellau coch yn dangos y ffiniau yn ôl Y Sefydliad Hydrograffig Rhyngwladol; mae'r llinellau glas yn dangos y ffiniau yn ôl yr Istituto Idrografico della Marina (Yr Eidal).
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Jones, Gareth (gol.). Yr Atlas Cymraeg Newydd (Collins-Longman, 1999), t. 50.