Liguria
| Math | rhanbarthau'r Eidal |
|---|---|
| Enwyd ar ôl | Ligwriaid |
| Prifddinas | Genova |
| Poblogaeth | 1,550,640 |
| Sefydlwyd | |
| Pennaeth llywodraeth | Marco Bucci |
| Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
| Nawddsant | Ioan Fedyddiwr |
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 5,422 km² |
| Uwch y môr | 250 metr |
| Yn ffinio gyda | Piemonte, Emilia-Romagna, Toscana, Provence-Alpes-Côte d'Azur |
| Cyfesurynnau | 44.45°N 8.7667°E |
| IT-42 | |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff gweithredol | Llywodraeth Liguria |
| Corff deddfwriaethol | Cyngor Rhanbarthol Liguria |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | arlywydd Liguria |
| Pennaeth y Llywodraeth | Marco Bucci |
![]() | |
Rhanbarth yng ngogledd-orllewin yr Eidal yw Liguria neu weithiau yn Gymraeg Ligwria[1] lle mae'r Alpau a'r Appennini yn cyrraedd y Môr Canoldir. Genova yw'r brifddinas a'r ddinas fwyaf.
Mae Liguria wedi ei enwi ar ôl y Ligure, llwyth hynafol a gafodd eu difodi gan y Rhufeiniaid yn 122 CC.
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y rhanbarth boblogaeth o 1,570,694.[2]

Rhennir y rhanbarth yn bedair talaith a enwir ar ôl eu canolfannau gweinyddol, sef:

Y Riviera
[golygu | golygu cod]Gall yr enw Liguria fod yn gyfystyr â Riviera yr Eidal, sydd wedi'i rannu'n ddwy ran:
- Riviera di Ponente (arfordir machlud haul) yn daleithiau Imperia a Savona
- Riviera di Levante (arfordir codiad haul) yn daleithiau Genova a La Spezia
Hinsawdd Liguria
[golygu | golygu cod]- Prif: Hinsawdd y Riviera
Mae hinsawdd arbennig ar Liguria gan ei fod ger y Môr Canoldir a gan fod y mynyddoedd sy'n union i'r gogledd yn ei gysgodi yn erbyn gwyntoedd oer y gaeaf.
Dinasoedd a threfi Liguria
[golygu | golygu cod]Mae rhan fwyaf o threfi Liguria ar lan y môr ac ar y Via Aurelia, yr hen ffordd Rhufeinig sy'n rhedeg o Rhufain i Nimes yn Ffrainc.
(o'r gorllewin i'r dwyrain)
- Ventimiglia
- Bordighera
- San Remo
- Taggia
- Imperia (Porto-Maurizio)
- Diano Castello
- Albenga
- Finale Ligure
- Noli
- Savona
- Albissola Marina
- Genova
- Portofino
- Rapallo
- Chiavari
- Cinque Terre
- Vernazza
- Manarola
- Riomaggiore
- Portovenere
- La Spezia
- Lerici
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Geiriadur yr Academi, [Liguria].
- ↑ City Population; adalwyd 23 Rhagfyr 2020
| |||||||
