Hinsawdd y Riviera
Mae hinsawdd y Canoldir ar y Riviera, ond gyda ychydig o wahaniaethau. Fe fydd y mynyddoedd sy'n union i'r gogledd yn eu chysgodi yn erbyn y gwyntoedd oer. Fe fydd awel y môr yn cadw'r tymheredd yn gyfforddus haf a gaeaf.
Mae yna bedwar tymor:
- Y gwanwyn : cymhedrol a gwlyb.
- Yr haf : poeth a heulog.
- Yr hydref : cymhedrol a gwlyb.
- Y gaeaf : mwyn a heulog (braidd yn oer weithiau).
Er bod cyfradd uchel o haul, mae yna gyfradd uchel o law hefyd. Pan fydd hi'n glawio fe fydd hi'n dueddol i lawio'n drwm ac yn ddibaid. Mae yna lawer o stormydd mellt a tharanau a llifogydd. Ar ôl storm fe fydd yr haul yn tywynnu'n gryf unwaith eto.
Mae hi'n dueddol i fod yn oer yn gynnar yn y bore (geuaf neu haf) ac fe fydd y tymheredd yn codi'n raddol trwy gydol y dydd. Mae hi'n arferol i wisgo digon o ddillad yn y bore a thynnu darnau yn awr ac yn y man fel fydd y dydd yn symud ymlaen.
Prin iawn fydd tymheredd yr haf yn codi uwchlaw 34 °C. Os fydd hwn yn digwydd fe fydd e'n achosi terfysg neu storm a bydd y tymheredd yn gostwng eto.
Ar ôl haf heulog a phoeth pan fydd y planhigion ynghwsg, fe fydd yr hydref fel ail wanwyn. Fe ddaw y blodau allan ar ôl y glaw cyntaf.
Prin fydd tymheredd yr arfordir yn gostwng islaw -2 °C yn y gaeaf. Gellir hi fod yn rhewllyd yn y bore, ond erbyn y prynhawn gall y tymheredd godi yn agos i 20 °C.
Hinsawdd y Var
[golygu | golygu cod]Yn adran y Var mae'r haf yn dymor sych yn ogystal â bod yn heulog a phoeth. Yna fe fydd dros 300 o ddiwrnodau heulog y flwyddyn. Mae hi'n wyntog iawn yn y Var weithiau.
Hinsawdd yr Alpes-Maritimes (a Monaco)
[golygu | golygu cod]Er bod cyfradd uchel o haul, mae'r glaw yn dueddol i fod yn ddilyw yma. Gan fod yr Alpau yn cyrraedd y môr rhwng Nice a Ventimiglia, mae dau hinsawdd effeithiol yn yr Alpes-Maritimes. Mae hinsawdd y Canoldir ger y môr a hinsawdd fynyddig yn y cefnwlad. Yma fe fydd hi'n bosibl mynd i'r traeth yn y bore a mynd i sgïo yn y prynhawn.
Cymhariaeth hinsawdd: Nice - Caerdydd
[golygu | golygu cod]Cymhariaeth hinsawdd | Nice | Caerdydd |
---|---|---|
Tymheredd gymedrol : mis oeraf | Ionawr 9 °C | Ionawr, Chwefror 4 °C |
Tymheredd gymedrol isaf | Ionawr 5 °C | Chwefror 1 °C |
Tymheredd gymedrol : mis gynhesaf | Awst 24 °C | Gorffennaf 16 °C |
Tymheredd gymedrol uchaf | Gorffennaf, Awst 27 °C | Gorffennaf 20 °C |
Haul mewn blwyddyn | 2,667 awr | 1,100 awr |
Glaw mewn blwyddyn | 803mm (37") | 1074mm (42") |
Mis gwlypaf | Hydref | Tachwedd, Rhagfyr |
Mis sychaf | Gorffennaf | Ebrill |
Diwrnodau o law | 53 | 167 |