Nice

Oddi ar Wicipedia
Nice
Mathcymuned, dinas fawr Edit this on Wikidata
Poblogaeth348,085 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethChristian Estrosi Edit this on Wikidata
Cylchfa amserCET, UTC+01:00, UTC+2 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
NawddsantSaint Reparata Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Ffrangeg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sirarrondissement of Nice Edit this on Wikidata
GwladBaner Ffrainc Ffrainc
Arwynebedd71.92 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr0 metr, 520 metr Edit this on Wikidata
GerllawAfon Var, Paillon, Magnan Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaAspremont, Cantaron, Colomars, Èze, Falicon, Gattières, La Gaude, Saint-André-de-la-Roche, Saint-Jeannet, Saint-Laurent-du-Var, Tourrette-Levens, La Trinité, Villefranche-sur-Mer Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau43.7019°N 7.2683°E Edit this on Wikidata
Cod post06000, 06200, 06100, 06300 Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Maer Nice Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethChristian Estrosi Edit this on Wikidata
Map

Nice (hefyd Nissa) (Niçois: Niça; Eidaleg: Nizza) yw pumed ddinas fwyaf Ffrainc. Mae hi wedi'i lleoli yn ne-ddwyrain Ffrainc wrth y Môr Canoldir ym Mae yr Angylion.

  • Nice yw prifddinas adran yr Alpes-Maritimes a phrif ddinas y Côte-d'Azur.
  • Gelwir Nice yn "Frenhines y Riviera".
  • Daeth enw Nice o'r hen enw Groeg Νικαία (Nikaia).
  • Roedd Nice yn dalaith annibynnol i Ffrainc cyn iddo ymuno yn 1860. Mae llawer yn credu bod Nice yn arfer perthyn i'r Eidal ond dydy hyn ddim yn gywir. Roedd hi'n arfer perthyn i deyrnas Sardinia. Pan ymunodd Sardinia a'r Eidal fe ymunodd Nice a Ffrainc.

Hinsawdd Nice[golygu | golygu cod]

Mae Nice ar lan y Môr Canoldir ac mae'r Alpau sy'n union i'r gogledd yn eu chysgodi yn erbyn y tywydd oer. Mae manylion hinsawdd Nice yn yr erthygl "Hinsawdd y Riviera".

Gorymdaith Flodau[golygu | golygu cod]

Ffeithiau diddorol[golygu | golygu cod]

  • Mae'r Promenade des Anglais (Niçois: Camin dei Engles; "Promenâd y Saeson") rhyw bum milltir o hyd. Gafodd ei adeiladu gan y Saeson yn 1820 er mwyn gallu mynd am dro ar lan y môr.
  • Pob canol dydd fe fydd magnel yn saethu ergyd o fryn y castell. Fe ddechreuwyd y ddefod hon gan Sais o'r enw Thomas Coventry oedd yn mynnu bwyta ei ginio am ddeuddeg o'r gloch.
  • Maes-glanio Nice yw maes-glanio mwyaf Ffrainc tu allan i Baris.
  • Canolfan siopa "Cap 3000" ("Cap trwâ mîl") gerllaw yn St. Laurent-du-Var yw'r canolfan siopa fwyaf ar y Côte-d'Azur a chanolfan siopa gyntaf Ffrainc.
  • Mae mwy o oleuadau traffig yn Nice nag unrhyw ddinas arall yn Ffrainc. Y cyntaf oedd ar y groesffordd rhwng Avenue Jean Médecin a Boulevard Victor Hugo yng nghanol y ddinas.
  • Mae trên bach; Chemins de fer de Provence yn mynd o Nice i Digne-les-Bains. Mae hwn yn daith ddiddorol sy'n mynd drwy mynyddoedd cefnwlad Nice a chefn gwlad Provence. Ambell waith fe fydd trên ager yn rhedeg ar y lein, Le train des pignes (trên y pin) sy'n llosgu pin yn lle glo.
  • Mae yna drên diddorol arall; Train des merveilles (trên y rhyfeddodau) yn mynd drwy mynyddoedd y cefnwlad o Nice i Tende ac ymlaen i Cuneo yn yr Eidal. Mewn tair man fe fydd y trên yn codi i lefel uwch mewn twnnel sy'n troi fel allwedd costrel tu mewn y mynydd.

Pobl o Nice[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Chwiliwch am Nice
yn Wiciadur.