Orléans
| Math | cymuned, dinas fawr |
|---|---|
| Poblogaeth | 116,344 |
| Pennaeth llywodraeth | Olivier Carré |
| Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
| Gefeilldref/i | Lugoj, Kraków, Dundee, Treviso, Kristiansand, Wichita, Tarragona, Utsunomiya, Parakou, Münster, Saint-Flour, Yangzhou, New Orleans, Meknès |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Centre-Val de Loire |
| Sir | Loiret |
| Gwlad | Ffrainc |
| Arwynebedd | 27.48 km² |
| Uwch y môr | 118 metr, 90 metr, 124 metr, 105 metr |
| Gerllaw | Afon Loire, Loiret |
| Yn ffinio gyda | Fleury-les-Aubrais, La Ferté-Saint-Aubin, Olivet, Ardon, Saint-Cyr-en-Val, Saint-Jean-de-Braye, Saint-Jean-de-la-Ruelle, Saint-Jean-le-Blanc, Saint-Pryvé-Saint-Mesmin, Saran, Semoy |
| Cyfesurynnau | 47.9022°N 1.9042°E |
| Cod post | 45000, 45100 |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Orléans |
| Pennaeth y Llywodraeth | Olivier Carré |
![]() | |

- Erthygl am y ddinas yn Ffrainc yw hon. Gweler hefyd Orleans (gwahaniaethu).
Dinas hanesyddol a commune yng ngogledd canolbarth Ffrainc yw Orléans, sy'n brifddinas weinyddol département Loiret a région Centre-Val de Loire hefyd. Gorwedd ar lan Afon Loire 116 km i'r de-orllewin o Baris. Gelwir ei thrigolion yn Orléanais. Mae'n sedd esgobaeth ers y 4g. Enwir dinas New Orleans (Nouvelle Orléans) yn yr Unol Daleithiau ar ôl Orléans.
Yn 1428, yn ystod y Rhyfel Can Mlynedd, roedd y Saeson yn gwarchae ar ddinas Orléans. Yn 1429, perswadiodd merch ieuanc o blith y werin, Jeanne d’Arc, y Dauphin, Charles VII, i’w gyrru i godi’r gwarchae, gan ddweud ei bod wedi cael gweledigaeth gan Dduw yn gorchymyn iddi yrru’r Saeson allan. Llwyddodd i godi’r gwarchae o fewn naw diwrnod, ac ysbrydolodd y Ffrancwyr i gipio nifer o gaerau’r Saeson ar hyd Afon Loire. Yn fuan wedyn, cafodd y Ffrancwyr fuddugoliaeth dros y Saeson ym Mrwydr Patay. Coronwyd y Dauphin yn Reims fel Charles VII, gyda Jeanne yn ei arwain i'w goroni.
Dioddefodd y ddinas lawer o ddifrod yn yr Ail Ryfel Byd, yn enwedig yn 1940, ond mae'r eglwys gadeiriol ganoloesol yn dal i sefyll. Mae Neuadd Dref Orléans (hôtel de ville) yn dyddio o'r 16g.
Adeiladau a chofadeiladau
[golygu | golygu cod]- Canolfan Charles Peguy
- Tŷ Jeanne d'Arc
Enwogion
[golygu | golygu cod]- Gustave Lanson (1857 - 1934), hanesydd
- Charles Péguy (1873 - 1914), bardd
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Ffrangeg) Gwefan swyddogol y ddinas
