Limoges
| Math | cymuned, dinas fawr |
|---|---|
| Poblogaeth | 129,754 |
| Pennaeth llywodraeth | Alain Rodet, Émile Roger Lombertie |
| Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2, CET |
| Gefeilldref/i | |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Haute-Vienne |
| Gwlad | Ffrainc |
| Arwynebedd | 78.03 km² |
| Uwch y môr | 294 metr, 209 metr, 431 metr, 310 metr |
| Gerllaw | Afon Vienne |
| Yn ffinio gyda | Bonnac-la-Côte, Chaptelat, Condat-sur-Vienne, Couzeix, Feytiat, Isle, Le Palais-sur-Vienne, Panazol, Rilhac-Rancon, Saint-Gence, Solignac, Verneuil-sur-Vienne, Le Vigen |
| Cyfesurynnau | 45.8344°N 1.2617°E |
| Cod post | 87000, 87280, 87100 |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Limoges |
| Pennaeth y Llywodraeth | Alain Rodet, Émile Roger Lombertie |
![]() | |
Dinas a commune yng ngorllewin canolbarth Ffrainc yw Limoges (Occitaneg: Lemòtges). Hi yw prifddinas département Haute-Vienne a région Limousin. Roedd y boblogaeth yn 2006 yn 136,539, a phoblogaeth yr ardal ddinesig yn 248,000.
Saif tua 220 km i'r gogledd-ddwyrain o Bordeaux, a 290 km i'r gogledd o Toulouse. Mae afon Vienne yn llifo trwy'r ddinas. Oherwydd ei phwysigrwydd hanesyddol i undebau llafur, fe'i gelwir weithiau la ville rouge ("y ddinas goch").
Hanes
[golygu | golygu cod]Sefydlwyd y ddinas gan yr ymerawdwr Rhufeinig Augustus tua 10 CC, dan yr enw Augustoritum. Datblygodd yn ddinas bwysig, gydag adeiladau mawr, ond ar ddechrau'r 4g gadwodd y rhan fwyaf o'r trigolion y ddinas. Adferwyd hi gan Sant Martial, a drôdd yr ardal at Gristnogaeth a dod yn Esgob cyntaf Limoges. Daeth Abaty Limoges yn annibynnol ar yr esgob yn y 9g, a datblygodd i fod yr ail yn Ffrainc o ran maint, ar ôl Cluny. Roedd yn enwog am ei lyfrgell.
Pobl o Limoges
[golygu | golygu cod]- Marie François Sadi Carnot (1837-1894), Arlywydd Ffrainc
- Pierre-Auguste Renoir (1841-1919), arlunydd
