Reims
Gwedd
| Math | cymuned, dinas fawr |
|---|---|
| Poblogaeth | 177,674 |
| Pennaeth llywodraeth | Arnaud Robinet |
| Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
| Gefeilldref/i | |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Marne |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 46.9 km² |
| Uwch y môr | 93 metr, 74 metr, 137 metr |
| Yn ffinio gyda | Bétheny, Bezannes, Cernay-lès-Reims, Champfleury, Cormontreuil, Courcy, Puisieulx, Saint-Brice-Courcelles, Saint-Léonard, Saint-Thierry, Taissy, Tinqueux, Trois-Puits, Villers-aux-Nœuds, Witry-lès-Reims |
| Cyfesurynnau | 49.2653°N 4.0286°E |
| Cod post | 51100 |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Reims |
| Pennaeth y Llywodraeth | Arnaud Robinet |
![]() | |
Dinas hynafol a commune yng ngogledd-ddwyrain Ffrainc yw Reims. Fe'i lleolir yn département Marne yn région Grand Est. Mae ganddi boblogaeth o tua 411,106 (2023)[1].
Reims oedd prif ddinas y dalaith Rufeinig Gallia Belgica. Sefydlwyd esgobaeth yno yn O.C. 200. Bedyddiwyd y brenin Clovis yno yn 496 gan sefydlu traddodiad brenhinol. Rhwng 1548 a 1793 roedd hen brifysgol Reims yn ganolfan dysg. Dioddefodd yr hen ddinas gryn ddifrod yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ond goroesodd yr eglwys gadeirol, sy'n dyddio o'r 13g a sawl adeilad hanesyddol arall. Yn ninas Reims arwyddodd y Wehrmacht ei ildiad ar y 7 Mai, 1945.
Adeiladau a chofadeiladau
[golygu | golygu cod]- Amgueddfa'r Ymroddiad
- Basilica Sant Remi
- Eglwys gadeiriol Notre-Dame de Reims
- Neuadd y Dref
- Palas Tau

Enwogion
[golygu | golygu cod]- Jean-Baptiste Colbert (1619-1683), gwleidydd
- Nicolas de Grigny (1672-1703), cyfansoddwr
- Jean Baudrillard (1929-2007), athronydd
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ https://data.who.int/countries/084. dyddiad cyrchiad: 22 Tachwedd 2024.
Dinasoedd Ffrainc
