Paris

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Paris
Paris montage2.jpg
France jms.png
Lleoliad o fewn Ffrainc
Gwlad Ffrainc
Ardal Île-de-France
Llywodraeth
Awdurdod Rhanbarthol Sir a thalaith wedi cyfuno
Maer Anne Hidalgo
Daearyddiaeth
Arwynebedd 86.9 km²
Demograffeg
Poblogaeth Cyfrifiad 2,229,621 (Cyfrifiad Ionawr 2013)
Dwysedd Poblogaeth 24,948 /km2
Metro 14,518.3
Gwybodaeth Bellach
Cylchfa Amser CET (UTC+1)
Gwefan http://www.paris.fr
Erthygl am y ddinas yw hon. Gweler hefyd Région Parisienne (Île-de-France). Am ystyron eraill, gweler Paris (gwahaniaethu).

Prifddinas a dinas fwyaf Ffrainc yw Paris. Mae hi ar un o ddolenni Afon Seine, ac felly wedi ei rhannu yn ddwy: y lan dde i'r gogledd a'r lan chwith i'r de o'r afon. Mae'r afon yn enwog am ei quais (llwybrau gyda choed ar hyd y glannau), bythod llyfrau awyr agored a hen bontydd dros yr afon. Mae'n enwog hefyd am ei rhodfeydd, er enghraifft y Champs-Élysées, a llu o adeiladau hanesyddol eraill.

Mae tua 2 filiwn o bobl yn byw yn y ddinas (2013: 2,229,621 o drigolion), ond mae tua 11 miliwn o bobl yn byw yn Ardal y Brifddinas (aire urbaine de Paris yn Ffrangeg; 2013: 12,405,426 o drigolion), sy'n llenwi tua 90% o arwynebedd rhanbarth Île-de-France. Yn ogystal mae Paris yn un o départements Ffrainc.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Cychwynnodd hanes y dref ar ynys o'r enw Île de la Cité yn yr afon Seine. Heddiw mae'r Palais de Justice a'r eglwys gadeiriol Notre-Dame de Paris ar yr ynys hon. Gyferbyn â'r Île de la Cité mae ynys arall, yr Île Saint-Louis, sy ddim mor fawr. Ar honno, mae tai cain a adeiladwyd yn ystod y ail ganrif ar bymtheg a'r deunawfed ganrif.

Arfbais Paris

Cyn i'r Ymerodraeth Rufeinig gyrraedd ym 52 C.C. roedd llwyth Galaidd yn byw yno. Roedd y Rhufeinwyr yn eu galw nhw'n Parisii er eu bod nhw eu hunain yn galw'r dref yn Lutetia, sef "lle corsog". Tua 50 o flynyddoedd ar ôl hyn datblygodd rhan newydd o'r dref ar ochr chwith i'r afon (y Quartier Latin heddiw) a newidiwyd enw'r dref i "Baris".

Daeth rheolaeth Rhufain ym Mharis i ben ym 508 pan ddaeth y dref yn brif ddinas y Merofingiaid o dan Clovis I. O achos goresgyniad yr ardal gan y Llychlynwyr yn yr wythfed ganrif roedd rhaid adeiladu caer ar ynys yng nghanol yr afon Seine. Beth bynnag, daeth y Llychlynwyr (efallai o dan Ragnar Lodbrok) i Baris i feddiannu ar y dref ar 28 Mawrth 845. Er mwyn eu perswadio nhw i adael, roedd rhaid gasglu pridwerth mawr iawn.

Dechreuodd maint ieirll Paris gynyddu oherwydd nad oedd y brenhinoedd Carolingaidd diweddarach ddim yn ddigon cryf. O'r , etholwyd Odo, Iarll Paris i fod yn frenin Ffrainc er fod Siarl III yn brenin iawn. Ar ôl bu'r Carolingiad olaf yn farw, etholwyd Huw Capet, Iarll Paris, i fod yn frenin Ffrainc (987).

Paris a'r afon Seine

Yn ystod yr unfed ganrif ar ddeg adeiladwyd rhan newydd y dref ar lan dde yr afon ac yn ystod y ddeuddegfed ganrif a'r drydedd ganrif ar ddeg sydd yn cynnwys teyrnasiad Philippe II Augustus (1180-1223) roedd y tref yn tyfu yn braf. Yn ystod yr adeg hon adeiladwyd caer, y Louvre cyntaf, a nifer o eglwysydd gan gynnwys eglwys gadeiriol Notre-Dame. Daeth nifer o ysgolion ar lan chwith yr afon at ei gilydd i lunio prifysgol y Sorbonne. Roedd Albertus Magnus a St. Thomas Aquinas ymhlith ei myfyrwyr cynnar. Yn ystod y Canol Oesoedd roedd Paris yn ddinas fasnach a deallusol bwysig iawn, er i'r Pla ddod i'r dref yn y bedwaredd ganrif ar ddeg. O dan reolaeth Louis XIV, Brenin yr Haul, oedd yn para o 1643 i 1715 symudwyd y llys brenhinol o Baris i Versailles, tref gyfagos.

France jms.png
Smotyn Coch.gif

Dechreuodd y Chwyldro Ffrengig ag ymosod ar y Bastille ar 14 Gorffennaf 1789. Roedd croestyniadau niferus rhwng Paris a'r ardal o gwmpas y dref yn parhau am flynyddoedd ar ôl hynny.

Roedd y Rhyfel rhwng Ffrainc a Prwsia yn gorffen â gwarchae Paris ym 1870. Ildiodd Paris ym 1871 ar ôl gaeaf o newyn a thywallt gwaed. Ar ôl hynny dechreuodd cyfnod cyfoethog arall, La Belle Époque (y Cyfnod Ardderchog). Yn ystod y cyfnod hwn adeiladwyd y Tŵr Eiffel ym 1889, adeilad mwyaf enwog y dref.

Roedd Paris o dan reolaeth yr Almaen yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ond rhyddhawyd ym mis Awst 1944 ar ôl Brwydr Normandi.

Diwylliant[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae diwylliant Paris yn unigryw.

Enwogion[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae nifer fawr o bobl enwog yn enedigol o Baris, yn cynnwys Charles Perrault. (Gweler hefyd Categori:Pobl o Baris)

Atyniadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Adeiladau[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]