Amiens
Gwedd
| Math | cymuned, dinas fawr |
|---|---|
| Poblogaeth | 136,449 |
| Pennaeth llywodraeth | Brigitte Fouré |
| Gefeilldref/i | |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | arrondissement of Amiens, Somme |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 49.46 km² |
| Uwch y môr | 14 ±1 metr, 106 ±1 metr, 36 metr, 50 metr |
| Gerllaw | Afon Somme |
| Yn ffinio gyda | Poulainville, Allonville, Argœuves, Cagny, Camon, Dreuil-lès-Amiens, Dury, Longueau, Pont-de-Metz, Rivery, Saint-Fuscien, Salouël, Saveuse |
| Cyfesurynnau | 49.8919°N 2.2978°E |
| Cod post | 80000, 80080, 80090 |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Amiens |
| Pennaeth y Llywodraeth | Brigitte Fouré |
![]() | |

Dinas a chymuned yng ngogledd Ffrainc yw Amiens. Saif ar afAn Somme tua 120 km i'r gogledd o ddinas Paris. Amiens yw prifddinas département Somme. Roedd y boblogaeth yn 2005 yn 136,000.
Yn ystod y cyfnod Rhufeinig, enw'r ddinas oedd Samarobriva (pont ar Afon Samara, sef Hamarfrif yn Gymraeg), a hi oedd canolfan llwyth yr Ambiani.
Eglwys Gadeiriol Amiens yw'r talaf o'r holl eglwysi cadeiriol Gothig o'r 13g, a'r mwyaf o'i bath yn Ffrainc. Mae'n Safle Treftadaeth y Byd.
Adeiladau a chofadeiladau
[golygu | golygu cod]- Gare d'Amiens (gorsaf)
- Musée de Picardie (amgueddfa)
- Stade de la Licorne (stadiwm)
Enwogion
[golygu | golygu cod]- Vincent Voiture (1597-1648), bardd
- Pierre Choderlos de Laclos (1741-1803), milwr a nofelydd
- Paul Bourget (1852-1935), nofelydd
- Emmanuel Macron (g. 1977), gwleidydd
Dinasoedd Ffrainc
