Caen
| Math | cymuned, dinas fawr |
|---|---|
| Poblogaeth | 109,400 |
| Pennaeth llywodraeth | Aristide Olivier |
| Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
| Gefeilldref/i | Pernik, Nashville, Alexandria, Stevens Point, Coventry, Portsmouth, Würzburg, Thiès, Treviso, 臺中市, Ohrid, Reșița |
| Iaith/Ieithoedd swyddogol | Ffrangeg |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Calvados |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 25.7 km² |
| Uwch y môr | 8 metr, 2 metr, 73 metr, 35 metr |
| Gerllaw | Orne |
| Yn ffinio gyda | Bretteville-sur-Odon, Carpiquet, Cormelles-le-Royal, Épron, Fleury-sur-Orne, Hérouville-Saint-Clair, Ifs, Louvigny, Mondeville, Saint-Contest, Saint-Germain-la-Blanche-Herbe |
| Cyfesurynnau | 49.1814°N 0.3636°W |
| Cod post | 14000 |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Caen |
| Pennaeth y Llywodraeth | Aristide Olivier |
![]() | |
Dinas a commune yng ngogledd-orllewin Ffrainc yw Caen. Mae'n brifddinas département Calvados a sedd cyngor rhanbarthol région Normandie. Saif ar afon Orne ac mae'n ffinio gyda Bretteville-sur-Odon, Carpiquet, Cormelles-le-Royal, Épron, Fleury-sur-Orne, Hérouville-Saint-Clair, Ifs, Louvigny, Mondeville, Saint-Contest, Saint-Germain-la-Blanche-Herbe ac mae ganddi boblogaeth o tua 411,106 (2023)[1]. Roedd y boblogaeth yn 2006 yn 113,249.
Cysylltir y ddinas a Gwilym Goncwerwr, a gladdwyd yma. Bu ef yn gyfrifol am lawer o adeiladau nodedig yma, yn cynnwys abaty Abbaye-aux-hommes a chastell Château de Caen, sy'n un o'r mwyaf yng ngorllewin Ewrop. Yn 1944, yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ymladdwyd Brwydr Caen yma, a dinistriwyd rhan helaeth o'r ddinas.

Adeiladau a chofadeiladau
[golygu | golygu cod]- Abbaye aux Dames (Eglwys y Drindod Sanctaidd), gyda'r bedd Matilda o Fflandrys, brenhines Lloegr
- Abbaye aux Hommes (Eglwys Sant Steffan), gyda'r bedd Wiliam I, brenin Lloegr
- Castell
Enwogion
[golygu | golygu cod]- François Le Métel de Boisrobert (1592–1662), bardd
- Daniel Auber (1782–1871), cyfansoddwr
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ https://data.who.int/countries/084. dyddiad cyrchiad: 22 Tachwedd 2024.
