Ohrid
![]() | |
![]() | |
Math | dinas ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 55,749 ![]() |
Pennaeth llywodraeth | Nikola Bakracheski ![]() |
Cylchfa amser | CET, CEST ![]() |
Gefeilldref/i | Piran, Inđija, Zemun, Wollongong, Budva, Katwijk, Vinkovci, Plovdiv, Dalian, Pogradec, Kragujevac, Veliko Tarnovo, Nesebar, Windsor, Veliko Tarnovo Municipality, Patras, Vidovec, Trogir, Sinaia, Yalova, Stari Grad, Safranbolu, Queanbeyan, Bwrdeistref Ptuj City, Podolsk, Bwrdeistref Piran, Peshkovskoe, Niš, Mostar, Leskovac, Kotor, Gniezno, Gaziosmanpaşa, Caen, Bankya, Aleksandrovac, Ptuj ![]() |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Macedoneg ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Natural and Cultural Heritage of the Ohrid region ![]() |
Sir | Bwrdeistref Ohrid ![]() |
Gwlad | Gogledd Macedonia ![]() |
Arwynebedd | 389.93 km² ![]() |
Uwch y môr | 695 ±1 metr ![]() |
Gerllaw | Llyn Ohrid ![]() |
Cyfesurynnau | 41.1169°N 20.8019°E ![]() |
Cod post | 6000 ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth | Nikola Bakracheski ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth | rhan o Safle Treftadaeth y Byd ![]() |
Manylion | |
Dinas ar lan ddwyreiniol Llyn Ohrid yn ne-orllewin Gogledd Macedonia yw Ohrid (Macedoneg Охрид / Ohrid, Albaneg Ohri). Mae ganddi 55,749 o drigolion (Cyfrifiad 2002), 84.6% ohonynt yn Facedoniaid, 5.5% yn Albaniaid a 4.2% yn Dyrciaid. Prif ddiwydiant y ddinas heddiw yw twristiaeth.
Sefydlwyd y ddinas yng nghyfnod yr Henfyd fel Lychnidos. Roedd yn sefyll ar y Via Egnatia, ffordd oedd yn cysylltu porth Dyrrachion (Durrës heddiw) ar Fôr Adria â Chaergystennin. Roedd Ohrid yn ganolfan ddiwilliannol a milwrol o bwys yn yr Oesoedd Canol. Mae adfeilion caer Tsar Samuil i'w gweld uwchben y ddinas hyd heddiw. Yn ei amser ef, yn y nawfed a'r 10goedd (992-1018), prifddinas gwladwriaeth Bwlgaria oedd Ohrid. Cynhyrchiwyd nifer fawr o lawysgrifau crefyddol ym mynachlogydd yr ardal o'r 9g ymlaen. Mae ffyniant diwylliant Bwlgaro-Macedonaidd yn y cyfnod hwnnw a sefydliad ysgol lenyddol Ohrid yn gysylltiedig yn bennaf ag esgob Ohrid, Sant Kliment Ohridski, ag â Sant Naum. Cipiwyd y ddinas gan luoedd Ymerodraeth Byzantium o dan yr Ymerawdr Basil II ('Lladdwr Bwlgariaid') yn 1015. Sefydlwyd patriarchaeth yn y ddinas ar gyfer y rhan fwyaf o Gristnogion Slafonaidd y Balcanau. Parhaodd fel archesgobaeth tan iddi gael ei diddymu yn 1767. Mae eglwysi a mynachlogydd y ddinas o ddiddordeb pensaernïol, ynghŷd â thai arferol mewn arddull nodweddiadol o'r Balcanau. Ychwanegwyd Ohrid a Llyn Ohrid i restr Safleodd Treftadaeth y Byd UNESCO yn 1980.
Enwogion[golygu | golygu cod y dudalen]
- Sant Naum
- Sant Clement o Ohrid
- Dafydd o Ohrid, milwr
- Dervish Hima (1872–1928), gwleidydd
- Eva Nedinkovska (g. 1983), cantores
Gefeilldrefi[golygu | golygu cod y dudalen]
Prifddinasoedd hanesyddol Bwlgaria ![]() |
Pliska (681-893) | Preslav (893-972) | Skopje (972-992) | Ohrid (992-1018) | Veliko Tarnovo (1185-1393, 1878-1879) | Sofia (ers 1879) |