Llyn Ohrid
Gwedd
| Math | llyn, ancient lake |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Natural and Cultural Heritage of the Ohrid region |
| Gwlad | Gogledd Macedonia, Albania |
| Arwynebedd | 349 km² |
| Uwch y môr | 695 metr |
| Cyfesurynnau | 41.03°N 20.72°E |
| Dalgylch | 1,414 cilometr sgwâr |
| Hyd | 30.4 cilometr |
![]() | |
Mae Llyn Ohrid (Macedoneg: Охридско Езеро, Ohridsko Ezero; Albaneg: Liqeni i Ohrit) yn llyn ar y ffin fynyddig rhwng de-orllewin Gogledd Macedonia a dwyrain Albania, ger dinas Ohrid.
Mae'n bosibl ei fod y llyn hynaf yn Ewrop, gyda ecosystem unigryw sy'n gartref i 200 rhywogaeth endemig o bwysigrwydd byd-eang. Cadarnheuwyd pwygigrwydd y llyn pan gafodd ei ddatgan yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO yn 1979. Fodd bynnag, mae gweithgaredd pobl sy'n byw ar ei lan yn dechrau rhoi'r ecosystem dan bwysau.
Rhedai'r ffordd Rufeinig bwysig y Via Egnatia, a gysylltai Durrës a Môr Adria yn y gorllewin â Byzantium (Istanbwl) a'r Bosphorus yn y dwyrain, o gwmpas Llyn Ohrid.

