Bosphorus

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Bosphorus
Istanbul and Bosporus big.jpg
Math Culfor Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynol Y Môr Du Edit this on Wikidata
Sir Istanbul Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Twrci Twrci
Cyfesurynnau 41.1194°N 29.0753°E Edit this on Wikidata

Bosphorus neu Bosporus[1] (Hen Roeg: Βόσπορος; Twrceg: Karadeniz Boğazı, "Culfor y Môr Du") yw'r enw ar y culfor yn Nhwrci sy'n gorwedd rhwng Ewrop ac Asia Leiaf ac yn cysylltu Môr Marmara a'r Môr Canoldir â'r Môr Du. Ei hyd yw tua 30 km (19 milltir) a'i led yn amrywio o 0.6 i 4 km (0.4-2.5 milltir). Saif dinas hynafol Istanbul (Caergystennin gynt) ar ei lannau. Saif dwy bont ar draws y culfor yn Istanbul. Mae pont Bosphorus (cwblhawyd yn 1973) yn 1074 m o hyd a phont Ratih Sultan Mehmet (cwblhawyd yn 1988) yn 1090 m o hyd ac yn un o bontydd mwyaf Ewrop ac Asia.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Jones, Gareth (gol.). Yr Atlas Cymraeg Newydd (Collins-Longman, 1999), t. 57.
Flag Turkey template.gif Eginyn erthygl sydd uchod am Dwrci. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.