Twrci
- Pwnc yr erthygl hon yw'r wlad ar lan ddwyreiniol y Môr Canoldir. Gweler Twrci (aderyn) am wybodaeth ar yr aderyn.
Türkiye Cumhuriyeti | |
![]() | |
Arwyddair | Yurtta sulh, cihanda sulh ![]() |
---|---|
Math | Gwlad |
![]() | |
Prifddinas | Ankara ![]() |
Poblogaeth | 83,614,362 ![]() |
Sefydlwyd | |
Anthem | İstiklâl Marşı ![]() |
Pennaeth llywodraeth | Recep Tayyip Erdoğan ![]() |
Cylchfa amser | UTC+03:00 ![]() |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Tyrceg ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Balcanau, De-orllewin Asia, Y Dwyrain Canol ![]() |
Gwlad | Twrci ![]() |
Arwynebedd | 783,562.05296 km² ![]() |
Gerllaw | Y Môr Canoldir, Y Môr Du, Môr Aegeaidd ![]() |
Yn ffinio gyda | Gwlad Groeg, Bwlgaria, Syria, Irac, Armenia, Iran, Georgia, Aserbaijan, Y Cynghrair Arabaidd, yr Undeb Ewropeaidd ![]() |
Cyfesurynnau | 39°N 36°E ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Cabined Twrci ![]() |
Corff deddfwriaethol | Cynulliad Cenedlaethol Mawr Twrci ![]() |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Arlywydd Twrci ![]() |
Pennaeth y wladwriaeth | Recep Tayyip Erdoğan ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Arlywydd Twrci ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth | Recep Tayyip Erdoğan ![]() |
![]() | |
![]() | |
Arian | Lira Twrcaidd ![]() |
Canran y diwaith | 9 ±1 % ![]() |
Cyfartaledd plant | 2.07 ![]() |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.82 ![]() |
Gweriniaeth yn Ewrop ac Asia yw Gweriniaeth Twrci neu Twrci (Twrceg: Türkiye Cumhuriyeti, Cwrdeg: Komara Tirkiyê). Cyn 1922 yr oedd y wlad yn gartref i Ymerodraeth yr Otomaniaid. Mae Twrci wedi'i lleoli rhwng y Môr Du a Môr y Canoldir. Y gwledydd cyfagos yw Georgia, Armenia, Aserbaijan ac Iran i'r dwyrain, Irac a Syria i'r de a Gwlad Groeg a Bwlgaria i'r gorllewin. Ankara yw prifddinas y wlad.
Daearyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae Twrci yn ymestyn ar draws dau gyfandir. Yn Asia y mae'r darn mwyaf, Anatolia, syn ffurfio tua 97% o arwynebedd y wlad (tua 760.000 km²). Y 3% arall yw'r rhan sydd yn Ewrop, dwyrain Thracia (23.623 km²).
Mynyddoedd uchaf Twrci[golygu | golygu cod y dudalen]
- Mynydd Ararat (Büyük Ağrı Dağı) – 5.137 m
- Buzul Dağı – 4.135 m
- Süphan Dağı – 4.058 m
- Ararat Lleiaf (Küçük Ağrı Dağı) – 3.896 m
- Kaçkar Dağı – 3.932 m
- Erciyes Dağı – 3.891 m
Afonydd pwysicaf[golygu | golygu cod y dudalen]
- Kızılırmak – 1.355 km
- Ewffrates
- Sakarya
- Murat a Karasu, sy'n uno i ffrifio'r Ewffrates
- Dicle (Tigris)
Llynnoedd[golygu | golygu cod y dudalen]
- Van Gölü – 3.713 km²
- Tuz Gölü – 1.500 km² (Salzsee)
- Beyşehir Gölü – 656 km²
- Eğridir Gölü – 468 km²
- Akşehir Gölü – 353 km²
- İznik Gölü – 298 km²
Ynysoedd[golygu | golygu cod y dudalen]
- Gökçeada – 279 km²
- Marmara Adası – 117 km²
- Bozcaada – 36 km²
- Uzunada – 25 km²
- Alibey – 23 km²
Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]
- Prif erthygl: Hanes Twrci
Mae gan Dwrci hanes hir a chyfoethog iawn. Mae'r wlad a elwir Twrci heddiw wedi gweld sawl cenedl ac ymerodraeth yn ei meddiannu neu yn ei phreswylio.
Yn y mileniau cyn Crist bu'n gartref i ymerodraeth yr Hitiaid. Ceir tystiolaeth bod rhai o lwythi'r Celtiaid wedi treulio amser yn Asia Leiaf hefyd. Yna daeth y Groegiaid i wladychu ardaloedd eang ar arfordiroedd y Môr Canoldir, Môr Aegea a'r Môr Du. O blith y dinasoedd enwog a sefydlwyd ganddynt gellid enwi Caergystennin, Caerdroea, Effesus, Pergamon a Halicarnassus.
Rheolwyd y wlad gan yr Ymerodraeth Bersiaidd am gyfnod yn ystod y rhyfela a gwrthdaro rhwng Persia a gwladwriaethau annibynnol Gwlad Groeg, dan arweinyddiaeth Athen. Gwelwyd Alecsander Mawr yn teithio trwyddi ar ei ffordd i orchfygu Babilon, Tyrus, y Lefant ac Asia. O'r 2g CC ymlaen daeth yn raddol i feddiant y Rhufeiniaid a chreuwyd talaith Asia ganddynt ac ychwanegwyd at gyfoeth ac ysblander yr hen ddinasoedd Groegaidd.
Am fil o flynyddoedd bron bu'r Ymerodraeth Fysantaidd yn dwyn mantell Rhufain yn Asia Leiaf a'r Dwyrain Canol ond ildio tir fu ei hanes; yn gyntaf rhag Persia, wedyn yr Arabiaid Mwslemaidd ac yn olaf y Tyrciaid eu hunain. Yn y diwedd dim ond Caergystennin ei hun oedd yn aros, er gwaethaf (neu efallai oherwydd) sawl Croesgad aneffeithiol o Ewrop.
Cwympodd Caergystennin yn y flwyddyn 1453; trobwynt mawr yn hanes y Gorllewin a'r Dwyrain fel ei gilydd. O hynny ymlaen am dros bedair canrif roedd Constantinople yn brifddinas Ymerodraeth yr Otomaniaid a ymestynnai o'r ffin ag Iran yn y dwyrain i ganolbarth Ewrop a pyrth Budapest a Vienna yn y gorllewin, ac o lannau'r Môr Du yn y gogledd i arfordir Gogledd Affrica.
Yn sgil y Rhyfel Byd Cyntaf, pan ochrodd Twrci â'r Almaen, cafwyd chwyldro yn Nhwrci a sefydlwyd gweriniaeth seciwlar gan Atatürk, "Tad y Twrci fodern". Symleiddiwyd yr iaith a throes y wlad ei golygon tua'r gorllewin. Erbyn heddiw mae Twrci yn aelod o NATO ac yn gobeithio ymuno a'r Undeb Ewropeaidd fel aelod llawn ohoni.
Iaith a diwylliant[golygu | golygu cod y dudalen]
Twrceg yw prif iaith y wlad a siaredir gan bawb, ond yn y dwyrain ceir nifer o siaradwyr Cwrdeg a rhyw faint o siaradwyr Arabeg yn y de-ddwyrain yn ogystal.
Mae mwyafrif y trigolion yn Fwslemiaid
Economi[golygu | golygu cod y dudalen]
Gallery[golygu | golygu cod y dudalen]
Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]
Sefydliadau cyhoeddus[golygu | golygu cod y dudalen]
- Gwasg a Gwybodaeth Archifwyd 2009-04-02 yn y Peiriant Wayback.
- Sefydliad Ystadegau Twrci Archifwyd 2009-02-21 yn y Peiriant Wayback.
- Banc Canolog Twrci Archifwyd 2008-12-18 yn y Peiriant Wayback.
- Trysorlys Twrci Archifwyd 2008-05-13 yn y Peiriant Wayback.
- Gwasanaethau Diogelwch
- Swyddfa Cynllunio'r Wladwriaeth Archifwyd 2008-12-20 yn y Peiriant Wayback.
- Cyngor Ymchwil Dechnolegol a Gwyddonol Twrci Archifwyd 2007-02-12 yn y Peiriant Wayback.
Proffeiliau[golygu | golygu cod y dudalen]
Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]
|
|