Cyrdeg

Oddi ar Wicipedia

Cyrdeg neu Cwrdeg yw iaith y Cyrdiaid, grŵp ethnig sy'n byw yn Anatolia a'r Dwyrain Canol. Mae'n iaith Indo-Ewropeaidd sy'n perthyn i gangen Iraneg yr is-deulu Indo-Iraneg o'r ieithoedd Indo-Ewropeaidd. Mae'r rhan fwyaf o'i siaradwyr yn byw yn Cyrdistan ond ceir nifer o alltudion ac ymfudwyr Cyrdeg eu hiaith yn Ewrop a Gogledd America hefyd.

Wikipedia
Wikipedia
Argraffiad Cyrdeg Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd
Eginyn erthygl sydd uchod am iaith. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.