Cwrdistan

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Cyrdistan)
Neidio i: llywio, chwilio
Cwrdistan
Kurdish-inhabited area by CIA (1992) box inset removed.jpg

Ardaloedd-preswyl Cwrdaidd

Iaith             Cwrdaidd/Kurdish
Lleoliad Uwch Mesopotamia/Upper Mesopotamia, a Mynyddoedd y/ Zagros Mountains, Môr y Canoldir/Mediterranean Sea, gan gynnwys rhannau o Ardal Dwyreiniol Anatolia/Eastern Anatolia Region (Ucheldir Armenia/Armenian Highland) a de-ddwyrain Anatolia/ southeastern Anatolia, gogledd Syria, gogledd Irac/Iraq, a Llwyfandir goggled-orllewin Iran/Iranian Plateau.[1]
Rhannau Gogledd Cwrdistan/Northern Kurdistan

Gorllewin Cwrdisdtan/Western Kurdistan
De Cwrdistan/Southern Kurdistan
Dwyrain Cwrdistan/Eastern Kurdistan

Gwledydd/Countries Iraq Gweriniaeth Irac/Republic of Iraq

 Gweriniaeth Islamaidd Iran/Islamic Republic of Iran
 Gweriniaeth Twrci/Republic of Turkey
 Gweriniaeth Arabaidd Syria/Syrian Arab Republic

Arwynebedd/(amcan.) 190,000–390,000 km²–500,000 km²

74,000–151,000 sq. mi

Poblogaeth 28 miliwn (2014 amcangyfrif)[2]
TLD Rhyngrwyd/Internet TLD .krd

Cwrdistan (/ˌkɜːrdɪˈstæn/ neu /ˌkɜːrdɪˈstɑːn/) (Cwrdaidd/Kurdish: [ˌkurdɪˈstan]; "Mamwlad y Cwrdiaid" neu "Gwlad y Cwrdiaid";[3] hefyd a arferai gael ei alw'n Curdistan;[4][5] enw hynafol: Corduene[6][7][8][9][10][11][12]) neu Cwrdistan Fwyaf, yw ardal geo-ddiwylliannol lle mae'r bobl Cwrdaidd yn creu'r boblogaeth fwyafrif amlycaf,[13] a lle mae diwylliant, iaith, a hunaniaeth cenedlaethol wedi'u lleoli'n hanesyddol.[14] Yn fras, mae Cwrdistan yn cwmpasu cadwyn mynyddoedd gogledd-orllewin Zagros a dwyrain cadwyn mynyddoedd Taurus.[15]

Mae defnydd cyfoes o'r term yn cyfeirio at bediar rhan o Gwrdisdtan Fwyaf, sydd yn cynnwys de-ddwyrain Twrci(Northern Kurdistan), gogledd Syria (Rojava neu Gorllewin Cwrdistan), gogledd Irac (De Cwrdistan), a gogledd-orllewin Iran (Dwyrain Cwrdistan).[16][17] Mae rhai cyfundrefnau cenedlaetholaidd Cwrdaidd yn edrych i greu cenedl annibynnol sydd am gynnwys rhai neu'r holl o'r adraloedd yma gyda mwyafrif Cwrdaidd, tra mae eraill yn ymgyrchu am fwy o hunan-lywodraeth o fewn ffiniau cenedlaethol presennol. [18][19]

Ennillodd Cwrdistan Iracaidd (Iraqi Kurdistan) ei statws hunan-lywodraeth gyntaf mewn cytundeb gyda llywodraeth Irac yn 1970, ac fe ail-gadarnhawyd ei statws hunan-lywodreathol o fewn gweriniaeth ffederal Irac yn 2005.[20] Yn Iran, mae talaith o'r new Cwrdistan, ond nid yw'n hunan-lywodraethol. Roedd Cwrdiaid a gwffiodd yn rhyfel cartref Syria'n medru cymeryd rheolaeth o rannau helaeth o ogledd Syria'n ystod y rhyfel fel oedd lluoedd yn ffyddlon i Bashar al-Assad yn tynnu'n ôl i gwffio mewn rhannau eraill o'r wlad. Yn dilyn sefydlu eu llywodraeth eu hunain, galwodd rhai Cwrdiaid am sefydlu hunan-lywodraeth mewn  Syria ddemocratig; gobeithiai eraill sefydlu Gwrdistan annibynnol.[21]

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Amser hynafol[golygu | golygu cod y dudalen]

Arferai amryw o lwythau, gan gynnwys y Guti, Hurrian, Mannai (Mananeaid/Mannaeans), a'r Armeniaid/Armenians, fyw yn y rhanbarth yn yr oesoedd cynnar.[22] Roedd mamwlad gwreiddiol y Mananeaid wedi ei leoli yn nwyrain ac i'r de o Lyn Urmia/Lake Uremia, yn fras wedi ei leoli lle mae dinas fodern Mahabad.[23] Death yr ardal o dan reolaeth Persiaidd  yn ystod teyrnasiaid  Cyrus Fawr/Cyrus the Great a Darius I.

Lleolwyd Teyrnas Corduene, a ddaeth i amlygrwydd gyda dirywiad Ymerodraeth Seleucid/Seleucid Empire, i'r de a de-ddwyrain Llyn Van/Lake Van rhwng Persia a Mesopotamia a rheolodd gogledd Mesopotamia a de-ddwyrain Anatolia o 189 CC hyd at 384 OC fel gwladwriaeth gaeth o'r ymerodraethau Parthaidd/Parthian a Rhufeinig. Ar ei hanterth, rheolodd yr Ymerodraeth Rufeinig ardaloedd eang o'r ardaloedd Cwrdaidd preswyliedig, yn benodol yr ardaloedd gorllewinnol a gogleddol Gwrdaidd yn y Dwyrain Canol. Daeth Corduene yn wladwriaeth gaeth o'r Weriniaeth Rufeinig yn 66 CC ac arhosodd yng nghlwm â'r Rhufeiniaid hyd at 384 OC. Ar ôl 66 CC newidiodd rhwng reolaeth Rhufain a Persia bum gwaith eto. Lleolwyd Corduene i'r dwyrain o Tigranocerta, hynny yw, i'r dwyrain ac i'r de o Diyarbakır bresennol yn ne-ddwyrain Twrci.

Cwrdistan Hynafol fel Kard-uchi, yn ystod ymerodraeth Alexander the Great, 4ydd ganrif CC

Mae rhai haneswyr wedi cydberthynnu cysylltiad rhwng Corduene gyda'r enwau modern Cwrdiaid a Chwrdistan;[7][24][25] Mae T. A. Sinclair  wedi diystyru'r adnabyddiaeth fel bod yn anwir,[26]  tra bod cysylltiad cyffredin yn cael ei gydnabod yng Ngwyddoniadur/Columbia Encyclopedia.[27]

Rhai o ardaloedd hynafol Cwrdistan a'u henwau modern cyfatebol:[28]

  1. Corduene neu Gordyene (Siirt, Bitlis and Şırnak)
  2. Sophene (Diyarbakır)
  3. Zabdicene neu Bezabde (Gozarto d'Qardu neu Jazirat Ibn neu Cizre)
  4. Basenia (Bayazid)
  5. Moxoene (Muş)
  6. Nephercerta (Miyafarkin)
  7. Artemita (Van)
Map o'r 19fed ganrif yn dangos lleoliad Teyrnas Corduene yn 60 C.C

Darganfuwyd un o'r cofnodion cyntaf o'r ymadrodd 'gwlad y Cwrdiaid' mewn dogfen Cristnogol Asyriaidd hynafol, yn disgrifio hanesion o seintiau Asyriaidd o'r Dwyrain Canol, megis Abdisho. Pan ofynnodd Sassanid Marzipan i Mar Abdisho ynglyn a'i darddle, atebodd mai yn ôl ei rieni, yn wreiddiol yr oeddynt o Hazza, pentref yn Assyria. Serch hynny, fe'u gyrrwyd allan o Hazza gan baganiaid, ac iddynt wedyn ymgartrefu ynTamanon, a oedd, yn ôl Abdisho oedd yn wlad y Cwrdiaid. Gorweddai Tamanon ychydig i'r gogledd i ffîn fodern Irac a Thwrci, tra bod Hazza yn 12 km i'r de-orllewin o ddinas fodern Irbil. Mewn rhan arall o'r un ddogfen, mae ardal o gwmpas Afon Khabur yn cael ei adnabod fel Gwlad y Cwrdiaid.[29] Yn ôl Al-Muqaddasi a Yaqut Al-Hamawi, lleolwyd Tamanon ar lethrau de-orllweinnol neu ddeheuol Mynydd/ Mount Judi ac i'r de o Cizre.[30]

Amser Canol Oesol[golygu | golygu cod y dudalen]

Map o Jibal (Mynyddoedd Dwyreiniol/Gogledd Mesopotamia) yn amlygu "Cyrchfannau Haf a Gaeaf y Cwrdiaid", tir y Cwrdiaid. Ail-luniwyd o  Ibn Hawqal, 977 OC.

Yn y degfed ac unar10g, ymddangosoddd amryw o dywsogaethau Cwrdaidd yn y rhanbarth: yn y Gogledd, y Shaddadid (951–1174) (yn nwyrain Transcaucasia rhwng yr afonnydd Kur ac Araxes) a'r Rawadid (955–1221) (yn ganoledig yn Tabriz a relolodd yr holl o Azarbaijan), yn y Dwyrain Hasanwayhid (959–1015) (yn Zagros rhwng Shahrizor a Khuzistan) â'r  Annazid (990–1116) (yn ganoledig yn Hulwan) ac yn y Gorllewin, y Marwanid (990–1096) i'r de o Diyarbakır ac i'r gogledd i Jazira.[31][32]

Map gan Mahmud al-Kashgari (1074), yn dangos Arḍ al-Akrād Arabaidd am, 'wlad y Cwrdiaid' wedi ei leoli rhwng Arḍ al-Šām (Syria), ac Arḍ al-ʿIrāqayn (Irac Arabi ac Irac Ajami).

Yn ystod y Canol Oesoedd/ Middle Ages roedd Cwrdistan yn gasgliad o emiriaethau lled-annibynnol ac annibynnol, ac roedd dan ddylanwad gwleidyddol neu grefyddol y Khalifau neu'r Shahwyr. Mae hanes cynhwysfawr o'r gwladwriaethau hyn a'u perthynas gyda'u cymdogion yw cael yn nhestunau "Sharafnama", ysgrifennwyd gan y Tywysog Sharaf al-Din Bitlisi yn 1597.[33][34] Yn gynwysedig yn yr emiriaethau oedd Baban, Soran, Badinan a Garmiyan yn yr Irac fodern; Bakran, Bohtan (neu Botan) a Badlis yn Nhwrci, a Mukriyan ac Ardalan yn Iran.

Mae'r ardystiad canol oesol cynharaf o enw Cwrdistan i'w weld yn nhestun hanesyddol Armenaidd o'r 12g gan Matteos Urhayeci. Disgrifiodd y frwydyr ger Amid a Siverek yn 1062  fel wedi cymeryd lle yng Nghwrdistan.[35][36] Llawysgrif o'r flwyddyn 1200 yw'r ail gofnod, mewn llyfr gweddi o goloffon  Armenaidd o'r Efengyl.[37][38]

Mae cyfeiriad hwyrach o'r term Cwrdistan i'w weld yn Nuzhat-al-Qulub, a ysgrifennwyd gan Hamdollah Mostowfi yn 1340.[39]

Amser Modern[golygu | golygu cod y dudalen]

1803 Atlas Cedid/ Cedid Atlas yn dangos Cwrdistan mewn glas.
Teyrnasoedd Annibynnol Cwrdaidd ac Thywysogaethau Hunan-lywodraethol Cwrdaidd tua'r flwyddyn 1835.

Yn ôl  Sharafkhan Bitlisi yn ei Sharafnama, mae terfynnau tiroedd y Cwrdiaid yn dechrau wrth fôr Hurmuz (Persian Gulf) ac yna'n ymestyn mewn llinnell i derfyn Malatya a Marash.[40] Soniodd Evliya Çelebi a drafeuliodd Curdistan rhwng 1640 a 1655, am wahanol ardaloedd o Gwrdistan megis Erzurum, Van, Hakkari, Cizre, Imaddiya, Mosul, Shahrizor, Harir, Ardalan, Baghdad, Derne, Derteng, hyd at Basra.[40]

Yn dilyn rhyfeloedd hir yn yr 16g, fe rannwyd ardaloedd Cwrdaidd yn ddau rhwng ymerodraeuthau'r  Safavid ac Ottoman. Daeth rhanniad mawr Cwrdistan yn dilyn Brwydr Chaldiran yn 1514, ac a ffurfiolwyd  yng Nghytundeb Zuhab yn 1639.[41] O hynny allan tan adladd y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd ardaloedd Cwrdaidd (gan gynnwys y rhan fwyaf o  Mesopotamia, dwyrain Anatolia a gogledd-ddwyrain Syria a arferai fod yn draddodiadol Gwrdaidd) yn gyffredinnol o dan reolaeth yr Ottomaniaid, ar wahan i feddiannaeth ysbeidiol ganrif-hir yr Iraniaid yn yr adeg cyn-fodern i'r adeg fodern, ac yna'r ail-goncwest â'r ehangiad helaeth gan yr arweinydd milwrol Iraniaidd  Nader Shah yn hanner cyntaf yr 18g. Yn dilyn cwymp yr Ymerodraeth Ottomanaidd, cynlluniodd y Cyngrheiriaid i hollti Cwrdistan (fel a ddengys yng Nghytuniad  Sèvres (Treaty of Sèvres)  na chafodd ei gadarnhau yn y pen draw) rhwng sawl gwlad, yn eu mysg gan gynnwys  Cwrdistan, Armenia ac eraill. Yn hytrach, achosodd ail-goncwestu'r ardaloedd hyn gan rymoedd  Kemal Atatürk (ynghŷd a materion enbyd eraill) i'r Gyngrheiriaid dderbyn yr aildrafodaeth yng Nghytundeb Lausanne/Treaty of Lausanne a ffinniau modern Gweriniaeth Twrci, gan adael y Cwrdiaid heb ardal hunan-lywodraethol. Fe neilltuwyd ardaloedd eraill Cwrdaidd i wladwriaethau newydd Irac a Syria o dan awdurdod Prydain a Ffrainc.

Cwrdistan (mannau wadi'u lliwio fewn) fel awgrymwyd yng Nghytundeb Sèvres/ Treaty of Sevres

Yng Nghynghadledd Heddwch San Fancisco/ San Francisco Peace Conference 1945, cynnigiodd y ddirprwyaeth Cwrdaidd i'r gynhadledd gysidro'r tiriogaeth a fynnwyd gan y Cwrdiaid, a chwmpasai ardal a ymestynnai o Fôr y Canoldir yn agos i Adana i lannau Ceufor Persia yn agos i Bushehr, gan gynnwys ardaloedd preswyliedig Lur  o dde Zagros.[42][43]

Ar ddiwedd Rhyfel Gyntaf y Gwlff (First Gulf War), sefydlodd y Cyngrheiwyr hafan ddiogel yng ngogledd Irac. Wrth i luouedd arfog Irac dynnu'n ôl o dair talaith ogleddol, ymddangosodd Cwrdistan Irac/Iraqi Kurdistan yn 1992 fel endid hunan-lywodraethol o fewn Irac gyda'i llywodraeth a'i senedd ei hun. 

Mewn adroddiad o'r UDA o 2010 a'i ysgrifennwyd cyn ansefydliad Syria ac Irac sy'n bodoli ers 2014, ardystiodd y gallai "Cwrdistan fodoli erbyn 2030".[44] Mae gwanhau'r wladwriaeth  Iracaidd yn dilyn cyrch Gogledd Irac 2014 y Wladwriaeth Islamaidd yn Irac â'r Lefant/ Islamic State in Iraq and the Levant yn cylwyno cyfle am annibyniaeth,[45] gan ychwanegu tuag at dderbynniaeth Twrci tuag at wladwriaeth o'r fath.[46]

Twrci[golygu | golygu cod y dudalen]

Fe wrthwynebwyd  ymgorfforiaeth ardaloedd Cwrdaidd o ddwyrain Anatolia i Dwrci gan lawer o Gwrdiaid, ac mae hyn wedi dilyn i wrthdaro hir-dymor gan ymwahanwyr lle mae miloedd o fywydau wedi eu colli. Gwelodd yr ardal nifer o wrthryfeloedd Cwrdaidd o bwys, gan gynnwys Gwrthryfel Kockiri/ Koçkiri Rebellion 1920 o dan yr Ottomaniaid, yna gwrthryfeloedd golynol o dan y wladwriaeth Dwrcaidd – gan gynnwys Gewrthryfel 1924 Sheikh Said Rebellion, y Weriniaeth Ararat/ Republic of Ararat yn 1927, ac yn 1937 Gwrthryfel Dersim/Dersim Rebellion. Fe'u gorchfygwyd i gyd yn rymus gan yr awdurdodau. Fe ddatganwyd yr ardal yn ardal filwrol gaëdig lle gwaharddwyd holl tramorwyr rhwng 1925 a 1965.[47][48][49]

Mewn ymdrech i wadu eu bodolaeth, fe categoreiddiodd llywodraeth Twrci'r Cwrdiaid  fel "Twrciaid y Mynydd" tan 1991.[50][51][52] Roedd y geiriau 'Cwrdiaid", "Cwrdistan" a "Cwrdaidd" wedi eu gwahardd gan lywodraeth Twrci.[53] Yn dilyn trechiad militwrol yn 1980, fe waharddwyd yr iaith Gwrdaidd yn swyddogol ym mywyd cyhoeddus a phreifat.[54] Fe arestwyd a charcharwyd nifer o bobl a siaradodd, cyhoeddodd, neu ganodd yng Nghwrdaidd.[55] Trwy gydol y 1990au  â'r 2000au cynnar, fe waharddwyd pleidiau gwleidyddol a gynrhychiolwyd lles y Cwrdiaid.[53]

Fe roddwyd y taleithiau Cwrdaidd o dan reolaeth filwrol yn 1983 mewn ymateb i weithredoedd  sefydliad yr ymwahanwyr militaraidd Plaid Gweithwyr Cwrdistan/ Kurdistan Workers Party (PKK).[56][57] Bu herwryfela drwy'r 1980au â'r 1990au, gyda llawer o'r cefn gwlad  yn gwacáu, dinistrwyd miloedd o bentrefi Cwrdaidd, a  lladdwyd nifer o'r naill ochr mewn dienyddiadau allanfarnwrol ddiseremoni.[58] Adroddwyd for llawer o bentrefi wedi eu llosgi a'u dinistrio'n bwrpasol.[59][60] Rhoddwyd gwahardd ar fwyd mewn pentrefi a threfi Cwrdaidd.[61][62] Lladdwyd tros 20,000 o Gwrdiaid yn y ffyrnigrwydd ac fe orfodwyd cannoedd ar filoedd mwy i adel eu cartrefi.[63]

Yn hanesyddol, mae Twrci wedi ofni y byddai gwladwriaeth Cwrdaidd yng ngogledd Irac yn annog a chefnogi ymwahanwyr Cwrdaidd yn nhaleithiau Twrcaidd cyfagos, ac maen't felly'n hanesyddol wedi gwrthwynebu annibyniaeth Cwrdaidd yn Irac. Fodd bynnag, yn dilyn yr anhrefn yn Irac ar ôl ymosodiad yr UDA, mae Twrci'n gynnyddol wedi cyd-weithio gyda Cwrdiaid hunanlywodraethol Irac.[64]

Rhyfel Cartref Syria[golygu | golygu cod y dudalen]

Sefyllfa filitwraidd ar Orffennaf 8fed 2016.

Cyflwynodd llwyddiant Cyrch Gogledd Irac yn 2014 gan y Wladwriaeth Islamaidd yn Irac â'r Lefant/Islamic State in Iraq and the Levant,  a lleihad mewn pŵer y wladwriaeth Iracaidd "gyfle euraidd" i Gwrdiaid gynyddu eu cyfle am annibynniaeth gyda phosbilrwydd i ddatgan gwladwriaeth Gwrdaidd annibynol[45] Mae'r Wladwriaeth Islamaidd yn Irac â'r Lefant a herwgipiodd tros 80 o bobl Twrcaidd yn Mosul yn ystod eu hymgyrch, yn elyn i Dwrci, ac felly'n gwneud Cwrdistan yn wladwriaeth glustog ddefnyddiol i Dwrci. Ar y 28 o Fehefin 2014, datganodd Hüseyin Çelik, llefarydd ar ran y plaid lywodraethol yr AK, mewn sylw yn y Financial Times am barodrwydd Twrci i dderbyn Cwrdistan annibynol yng ngogledd Irac[46] Mae amryw o ffynnonhellau gwhanol wedi crybwyll bod Al-Nusra wedi cyhoeddi  fatwā  yn galw ar ferched a phlant Cwrdaidd  yn Syria i gael eu lladd,[65] ac mar'r cwffio yn Syria wedi achosi i degau ar filoedd o ffoduriaid i ffoi rhanbarth Gwrdaidd Irac.[66][67][68] Ers 2015, mae Twrci wedi bod yn cefnogi Al-Nusra'n weithredol.[69]

Pobl[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r Cwrdiaid yn bobl o wraidd Indo-Ewropeaidd. Maen't yn siarad iaith Iranaidd o'r new Cwrdaidd, ac maen't yn cynnwys y than fwyaf o boblogaeth y rhanbarth - fodd bynnag, o fewn y boblogaeth mae cymunedau Arabaidd, Armenaidd, Assyraidd/Aramenaidd/Syraidd,[70] Azerbaijanaidd,Iddewig,Ossetaidd, Persaidd, a Thwrcaidd. Mae'r rhan fwyaf  o'r boblogaeth yn Foslemiaid ond mae dilynnwyr crefyddau eraill yn bresennol hefyd - yn cynnwys Iarsannaeth/ (Yarsanism,) sydd yn grefydd ethnig Gwrdaidd, Iasidaeth/Yazidis,Alefaidd/ Alevis, a Christnogaeth,[71] ac yn y gorffennol, y grefydd Iddewig, tan i'r rhan fwyaf o'r Iddewon yno ymfudo i Israel.[72]

Daearyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ôl yr Encyclopædia Britannica, mae arwynebedd Cwrdistan yn 190,000 km², a'i phrif drefydd yw Diyarbakır (Amed), Bitlis (Bedlîs) a Van (Wan) yn Nhwrci, Arbil (Hewlêr) a Slemani yn Irac, a Kermanshah (Kirmanşan), Sanandaj (Sine), Ilam a Mahabad (Mehabad) yn Iran.[73] Yn ôl yr Encyclopaedia of Islam, mae arwynebedd Cwrdistan yn oddeutu 190,000 km² yn Nhwrci, 125,000 km² yn Iran, 65,000 km² yn Irac, a 12,000 km² yn Syria, gyda cyfanswm arwynebedd o tua 392,000 km².[74]

Map hanesyddol o 1721, yn dangos ffiniau taleithiau Cwrdistan ym Mhersia.  

Mae Cwrdistan Irac wedi ei rannu i chwech talaith, tair ohonynt (a rhannau o eraill) sydd o dan reolaeth Lywodraeth Ranbarthol Cwrdistan. Mae Cwrdistan Iran yn compysu Talaith Cwrdistan/Kurdistan Province a rhan helaeth o Orllewin Azerbaijan/ West Azerbaijan, Kermanshah, a thaleithiau Īlām. Mae Cwrdistan Syria/Syrian Kurdistan (Kurdish: Rojavayê Kurdistanê) wedi ei leoli rhan fwyaf yn ngogledd Syria, ac yn cynnwys talaith Al Hasakah a gogledd Talaith Raqqah/Raqqah Governorate, gogledd Talaith Aleppo/ Aleppo Governorate a hefyd rhanbarth Jabal al-Akrad (Mynydd y Cwrdiaid).  Y prif ddinasoedd yn y rhanbarth yma yw Al-Qamishli (Cwrdaidd: Qamişlo) ac Al Hasakah (Cwrdaidd: Hasakah).

Mae Cwrdistan Twrci'n compasu ardal mawr o Rabarth Dwyrain Anatolia ac de-ddwyrain Anatolia yn Nhwrci ac amcangyfrifir ei fod yn gartref i oddeutu 15 i 20 miliwn o Gwrdiaid.[75]

Isddosbarthiadau (Cwrdistan Uchaf ac Isaf)[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn A Dictionary of Scripture Geography (cyhoeddwyd 1846), disgrifiodd John Miles Cwrdistan Uchaf ac Isaf fel a ganlynː 

Pentref nodweddiadol Cwrdaidd yn Hawraman, Cwrdistan

Cyfeirir rhannau gogleddol, gogledd-orllewinol a gogledd-ddwyreiniol Cwrdistan fel Cwrdistan Uchaf, gan gynnwys yr ardaloedd o'r gorllewin o Amed i Lyn Urmia.

Gelwir iseldiroedd de Cwrdistan yn Gwrdistan Isaf. Y prif ddinasoedd yn yr ardal yw Kirkuk ac Arbil. 

Hinsawdd[golygu | golygu cod y dudalen]

Nodweddir llawer o'r rhanbarth gan hinsawdd cyfandirol eithriadol - poeth yn yr haf, yn filain o oer yn y gaeaf. Er gwaethaf hyn, mae llawer o'r rhanbarth yn ffrwythlon ac yn hanesyddol mae wedi allforio grawn a da byw. Mae'r gwaddodiad yn amrywio rhwng 200mm a 400mm y flwyddyn ar y gwastatiroedd, a rhwng 700mm a 3,000mm y flwyddyn ar y llwyfandir uchel rhwng cadwyni'r mynyddoedd.[74] Mae'r mynyddoedd yn dominyddu'r hinsawdd yn y parth hyd y ffîn gyda Iran a Thwrci, gyda hafau poeth a gaeafau oer eirïaidd a gwanwynnau gwlyb, tra yn y de mae'n trawsnewid tuag at barthau lled-grindir ac anialwch. Mae'r rhanbarthau mynyddig gogleddol ar hyd y ffîn â Iran a Thwrci'n derbyn cwymp eira trwm. 

Coedwigoedd[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae Cwrdistan yn u o'r rhanbarthau mwyaf mynyddig yn y byd gyda hinsawdd oer gydag gwaddodiad blynyddol digonol er mwyn cynnal coedwigoedd a llwyni cymedrol. Mae cadwyni mynyddoedd yn llochesu  porfeydd a chymoedd coediog, mewn cyfanswm oddeutu 16 million hectar (160,000 km²), yn cynnwys coed pîn a chefn gwlad rhan fwyaf yn dderw, conifferau, planwydden, helyg, poplys ac olywydd.[74] Hefyd mae gan y rhanbarth Canolforol a elwid hefyd yn orllewin Cwrdistan goed olewydd. Mae amodau hinsawdd Cwrdistan yn ddyledus i dopograffeg mynyddig y gogledd a gynhyrchir y steppe a llystyfiant coedwigoedd yr ardal. Mae'r rhanbarth i'r gogledd ar y ffîn â Iran a Thwrci yn cynnwys gwelltiroedd a choed gwyllt megis poplys, helyg, a derw, drain gwynion, ffug-geirios, rhosyn gwyllt, afalau'r mynydd, gellygen, criafol, ac olewydd. Mae'r anialwch yn y de, mewn gwrthgyferbynniad mae planhigion megis coed palmwydd a choed datys.

Mynyddoedd[golygu | golygu cod y dudalen]

Ceunant yn Rawanduz yng ngogledd Cwrdistan Irac.

Mae mynyddoedd yn nodweddion daearyddol a symbolaidd bwysig i fywyd Cwrdaidd, fel y tystir yn y dywediad "Does gan Cwrdiaid ddim ffrindiau heblaw'r mynyddoedd."[76] Ystyrir mynyddoedd yn sanctaidd gan y Cwrdiaid.[77] Yn y rhanbarth ceir Mynydd Judi ac Ararat (y naill yn amlwg yn chwedloniaeth Cwrdaidd), Zagros, Qandil, Shingal, Mynydd Abdulaziz, Kurd Mountains, Jabal al-Akrad, Shaho, Gabar, Hamrin, a Nisir.

Afonydd[golygu | golygu cod y dudalen]

Afon Zê yn rhanbarth Zebari, Cwrdistan Irac.

Mae glaw trwm ac eira yn nodweddiadol o lwyfandiroedd a mynyddoedd Cwrdistan, ac yn eu tro'n gronfa ddŵr i'r Dwyrain Agos a Chanol, gan greu tarddiad i afonydd Tigris ac Euphrates, a hefyd nifer o afonydd llai megis y Khabur, Tharthar, Ceyhan, Araxes, Kura, Sefidrud, Karkha, a Hezil. Ymysg afonydd hanesyddol bwysig i'r Cwrdiaid yw'r Murat (Arasān) a  Buhtān yn Nhwrci; y Peshkhābur, y Zab Fach/Little Zab, y Hab Fwyaf/Great Zab, a'r Diyala yn Irac; a'r Jaghatu (Zarrinarud), y Tātā'u (Siminarud), y Zohāb (Zahāb), a'r Gāmāsiyāb yn Iran.

Mae'r afonydd, sydd yn llifo o uchderau o dair i bedair mil medr uwchben lefel y môr, yn arwyddocaol fel ffynnonhellau dŵr ac egni. Adeiladodd Irac a Thwrci nifer o argaeau ar draws afonydd a'u llednentydd, ac mae gan Twrci raglen adeiladu argaeau eang ar y gweill fel rhan o  GAP (Southeast Anatolia Project); er heb ei gwblhau eto, mae GAP yn cyflenwi rhan helaeth o anghenion ynni trydan Twrci. Oherwydd cyfoeth archeolegol eithriadol y rhanbarth, mae bron unrhyw gynllun argae yn amharu ar safleoedd hanesyddol.[78]

Llynnoedd[golygu | golygu cod y dudalen]

Dinas Piranshahr, canolfan dosbarth Mokrian, gogledd-orllewin Iran.

Mae Cwrdistan yn ymestyn hyd at Llyn Urmia/Lake Uremia yn Iran yn y dwyrain. Mae'r rhanbarth yn cynnwys Llyn Van, y corff dŵr mwyaf yn Nhwrci; yr unig lyn yn y Dwyrain Canol gyda mwy o arwynebedd yw Llyn Urmia - ond  sydd ddim cyn ddyfned a Llyn Van, sydd gyda cyfaint cronfa llawer mwy. Mae Urmia, Van, yn o gystal â Llyn Zarivar/Zarivar Lake i'r gorllwein o Marivan, a Llyn Dukan yn agos i ddinas Sulaymaniyah, yn cael eu mynychu gan dwristiaid.[78]

Dinas Bagram yn nwyrain Twrci.

Adnoddau petrolewm a mwynol.[golygu | golygu cod y dudalen]

Fe amcangyfrifir bod y rhannau sydd yn cael eu rheoli gan Ll.Rh.C yn Irac yn cynnwys o gwmpas 45 biliwn casgen  (7.2 x 10 triliwn sgwâr m3) o olew, sef y chweched cyflenwad mwyaf yn y byd. Dechreuwyd echdynnu'r cronfeydd hyn yn 2007.  

Mae gan dalaith Al-hasakah, hefyd a  elwir yn ranbarth Jazira, bwysigrwydd geo-wleidyddol o olew ac mae'n addas ar gyfer tiroedd amaethyddol. 

Yn Nhachwedd 2011, heriodd Exxon awdurdod llywodraeth canolog Irac gyda arwyddiad cytundeb olew a nwy am hawliau archwilio i chwe rhan o dir yng Nghwrdistan, gan gynnwys un cytundeb o fewn y tiriogaethau dadleuol, i'r dwyrain o gor-faes Kirkuk.[79] Achosiodd hyn i lywodraeth Baghdad i fygwth diddymu cytundeb Exxon yn eu maesydd deheuol, mwyaf nodedig yng nghynllun West-Qurna Cyfnod 1.[80] Ymatebodd Exxon gan gyflwyno eu bwriad i adael cynllun West-Qurna.[81]

Ers Gorffennaf 2007, erfynnodd  llywodraeth y Cwrdiaid ar gwmnïau tramor i fuddsoddi mewn 40 o safleoedd olew newydd, gyda'r gobaith o gynyddu  cynhyrchiad olew lleol tros y 5 mlynedd ddilynnol gan factor o bump, i tua 1 miliwn casgen (160,000 m3/d).[82] Mae tros Nodyn:Convert/Moilbbl/d×1012 cu ft) o nwy a chronfeydd nwy cysylltiedig ar gael. Ymysg y cwmnïau nodedig sydd yn weithredol yng Nghwrdistan yw Exxon, Total, Chevron, Talisman Energy, Genel Energy, Hunt Oil, Gulf Keystone Petroleum, a Marathon Oil. 3[83]

Mwynau erailll sydd yn bodoli mewn niferoedd sylweddol yn y rhanbarth yw glo, copr, aur, haearn, calchfaen (sydd yn cael ei ddefnyddio i gynhyrchu sment), marmor, a sinc. Mae dyddodion mwyaf y byd o swlffwr graig wedi ei leoli i'r de-orllewin o  Arbil (Hewlêr).[84]

Yng Ngorffennaf 2012, arwyddodd Twrci a Llywodraeth Rhanbarthol Cwrdistan gytundeb cyfnewid lle byddai Twrci yn cyflenwi'r Ll.Rh.C gyda chynnyrch petrolewm pur am olew craidd. Fe ddisgwylir i gyflenwadau olew craidd ddechrau'n rheolaidd.[85]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Rhestr breninlinau a gwledydd Cwrdaidd/List of Kurdish dynasties and countries
  • Rojava

Cyfeirnodiadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Kurdistan – Definitions from Dictionary.com".
  2. A rough estimate by the CIA Factbook has populations of 14.5 million in Turkey, 6 million in Iran, about 5 to 6 million in Iraq, and less than 2 million in Syria, which adds up to close to 28 million Kurds living in these countries (i.e. in Kurdistan proper and in other parts of the states comprising the area taken together).
  3. "Kurdistan".
  4. The Edinburgh encyclopaedia, conducted by D. Brewster—Page 511, Original from Oxford University—published 1830
  5. An Account of the State of Roman-Catholick Religion, Sir Richard Steele, Published 1715
  6. N. Maxoudian, Early Armenia as an Empire: The Career of Tigranes III, 95–55 BC, Journal of The Royal Central Asian Society, Vol. 39, Issue 2, April 1952 , pp. 156–163.
  7. 7.0 7.1 A.D. Lee, The Role of Hostages in Roman Diplomacy with Sasanian Persia, Historia: Zeitschrift für Alte Geschichte, Vol. 40, No. 3 (1991), pp. 366–374 (see p.371)
  8. M. Sicker, The pre-Islamic Middle East, 231 pp., Greenwood Publishing Group, 2000, (see p.181)
  9. J. den Boeft, Philological and historical commentary on Ammianus Marcellinus XXIII, 299 pp., Bouma Publishers, 1998. (see p.44)
  10. J. F. Matthews, Political life and culture in late Roman society, 304 pp., 1985
  11. George Henry Townsend, A manual of dates: a dictionary of reference to the most important events in the history of mankind to be found in authentic records, 1116 pp., Warne, 1867. (see p.556)
  12. F. Stark, Rome on the Euphrates: the story of a frontier, 481 pp., 1966. (see p.342)
  13. Zaken, Mordechai (2007).
  14. M. T. O'Shea, Trapped between the map and reality: geography and perceptions of Kurdistan , 258 pp., Routledge, 2004. (see p.77)
  15. Kurdistan, Britannica Concise.
  16. Kurdish Awakening: Nation Building in a Fragmented Homeland, (2014), by Ofra Bengio, University of Texas Press
  17. "The Columbia Encyclopedia, Sixth Edition, 2005". bartleby.com. 
  18. "The Kurdish Conflict: Aspirations for Statehood within the Spirals of International Relations in the 21st Century".
  19. Hamit Bozarslan “The Kurdish Question: Can it be solved within Europe?”, page 84 “The years of silence and of renewal” in Olivier Roy, ed.
  20. Iraqi Constitution, Article 113.
  21. "Kurds seek autonomy in democratic Syria".
  22. [1] Archived 1 May 2008 at the Wayback Machine.
  23. "Mahabad – Britannica Online Encyclopedia".
  24. Rawlinson, George, The Seven Great Monarchies Of The Ancient Eastern World, Vol 7, 1871. (copy at Project Gutenberg)
  25. Revue des études arméniennes, vol.21, 1988–1989, p.281, By Société des études armeniennes, Fundação Calouste Gulbenkian, Published by Imprimerie nationale, P. Geuthner, 1989.
  26. T. A. Sinclair, "Eastern Turkey, an Architectural and Archaeological Survey", 1989, volume 3, page 360.
  27. Kurds, The Columbia Encyclopedia, Sixth Edition, 2001.
  28. J. Bell, A System of Geography.
  29. J. T. Walker, The Legend of Mar Qardagh: Narrative and Christian Heroism in Late Antique Iraq (368 pages), University of California Press, ISBN 0-520-24578-4, 2006, pp. 26, 52.
  30. T. A. Sinclair, "Eastern Turkey, an Architectural and Archaeological Survey", Vol. 3, Pindar Press, ISBN 978-1-904597-76-6, 1989, page 337.
  31. Maria T. O'Shea, Trapped between the map and reality: geography and perceptions of Kurdistan , 258 pp., Routledge, 2004. (see p.68)
  32. I. Gershevitch, The Cambridge history of Iran: The Saljuq and Mongol periods, Vol.5, 762 pp., Cambridge University Press, 1968. (see p.237 for "Rawwadids")
  33. "Sharafnama: History of the Kurish Nation".
  34. For a list of these entities see Kurdistan and its native Provincial subdivisions
  35. Matt'eos Urhayec'i, (Armenian) Ժամանակագրություն (Chronicle), ed. by M. Melik-Adamyan et al., Erevan, 1991. (p.156)
  36. G. Asatrian, Prolegomena to the Study of the Kurds, Iran and the Caucasus, Vol.13, pp.1–58, 2009. (see p.19)
  37. A.S. Mat'evosyan, Colophons of the Armenian Manuscripts, Erevan, 1988. (p.307)
  38. G. Asatrian, Prolegomena to the Study of the Kurds, Iran and the Caucasus, Vol.13, pp.1–58, 2009. (p.20)
  39. G. Asatrian, Prolegomena to the Study of the Kurds, Iran and the Caucasus, Vol.13, pp.1–58, 2009. (see p.20)
  40. 40.0 40.1 Özoğlu, Hakan (2004).
  41. C. Dahlman, The Political Geography of Kurdistan, Eurasian Geography and Economics, Vol.43, No.4, pp.271–299, 2002.
  42. C. Dahlman, The Political Geography of Kurdistan, Eurasian Geography and Economics, Vol.43, No.4, p. 274.
  43. "The map presented by the Kurdish League Delegation, March 1945".
  44. "Turkey may be divided, a Kurdish state could become a reality by 2030: U.S. Intelligence report". ekurd.net. 
  45. 45.0 45.1 "The Rise of ISIS, a Golden Opportunity for Iraq's Kurds". aucegypt.edu. 
  46. 46.0 46.1 "Turkey Ready To Accept Kurdish State in Northern Iraq".
  47. M.M. Gunter, The Kurds and the future of Turkey, 184 pp., Palgrave Macmillan, 1997. (see p.6)
  48. G. Chaliand, A people without a country: the Kurds and Kurdistan, 259 pp., Interlink Books, 1993. (see p.250)
  49. Joost Jongerden,The settlement issue in Turkey and the Kurds: an analysis of spatial policies, modernity and war, 354 pp., BRILL Publishers, 2007. (see p.37)
  50. "Turkey - Linguistic and Ethnic Groups". 
  51. Bartkus, Viva Ona, The Dynamic of Secession, (Cambridge University Press, 1999), 90-91.
  52. Çelik, Yasemin (1999).
  53. 53.0 53.1 Baser, Bahar (2015).
  54. Toumani, Meline.
  55. Aslan, Senem (2014).
  56. Kurd, The Hutchinson Unabridged Encyclopedia including Atlas, 2005
  57. "[2], NY Times, 28 September 2007
  58. Martin van Bruinessen, "Kurdistan."
  59. Ibrahim, Ferhad (2000).
  60. Gunes, Cengiz (2013).
  61. Olson, Robert (1996).
  62. Shaker, Nadeen.
  63. "Kurdish rebels kill Turkey troops", BBC News, 8 May 2007
  64. "Bloomberg Business".
  65. See * David Phillips (World Post column) "President Masoud Barzani of Iraqi Kurdistan has pledged protection for Syrian Kurds from al-Nusra, a terrorist organization, which issued a fatwa calling for the killing of Kurdish women and children"
  66. "Some 30,000 Syrians flee to Iraq's Kurdistan region, more expected".
  67. Martin Chulov (19 Aug 2013).
  68. "Syrian Kurds Flee To Iraq By The Thousands".
  69. Kim Sengupta (12 May 2015).
  70. http://kurdska-obchodni-komora.narade.cz/en/basic-informations/
  71. Mehrdad R. Izady, The Kurds: A Concise Handbook, 1992, Taylor & Francis, Washington, D.C., [3]
  72. "Photos of Kurdish Jews in Israel".
  73. Kurdistan, Encyclopædia Britannica
  74. 74.0 74.1 74.2 Encyclopaedia of Islam [page needed]
  75. Myrie, Clive (2007-10-26).
  76. John Bulloch and Harvey Morris, No Friends but the Mountains: The Tragic History of the Kurds, ISBN 0-19-508075-0
  77. "Iraqi Kurds: "No Friend but the Mountains"".
  78. 78.0 78.1 Economy: Water, The Encyclopædia of Kurdistan
  79. westernzagros.com
  80. "Exxon's Kurdistan".
  81. "Iraq says expects Exxon to finish West Qurna Sale by December".
  82. "Iraqi Kurds open 40 new oil sites to foreign investors".
  83. "Kurdistan Oil and Gas Activity Map" (PDF).
  84. Official statements on the oil and gas sector in the Kurdistan region, Kurdistan Development Corporation.
  85. "First Shipment of Kurdistan Crude Arrives in Turkey".

Darllen ychwanegol[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Besikci, Ismail. Selected Writings [about] Kurdistan and Turkish Colonialism. Llundain: Cyhoeddwyd ar y cyd gan Kurdistan Solidarity Committee aKurdistan Information Centre, 1991. 44 p. Heb ISBN
  • King, Diane E. Kurdistan on the Global Stage: Kinship, Land, and Community in Iraq (Rutgers University Press; 2014) 267 tudalen;Astudiaeth ysgolheigaidd ar draddodiad cyfryngau cymdeithasol,  fel perthynas noddwr, a hefyd cyfrwng cyfathrebu technolegol mewn astudiaeth o ryw, carennydd, a byword cymdeithasol yng Nghwrdistan Irac.
  • Öcalan, Abdullah, Interviews and Speeches [about the Kurdish cause]. Llundain: Cyhoeddwyd ar y cyd gan Kurdistan Solidarity Committee a Kurdistan Information Centre, 1991. 46 t. Heb ISBN
  • Reed, Fred A. Anatolia Junction: a Journey into Hidden Turkey. Burnaby, B.C.: Talonbooks [sic], 1999. 320 t., darluniedig gyda lluniau du a gwyn. N.B.: Yn cynnwys sylw eang ar ran hanesyddol Cwrdistan Twrci, y  Cwrdiaid, a'u symudiad wrthsefyllol. ISBN 0-88922-426-9

Cysylltiadau allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfryngau perthnasol Kurdistan ar Gomin Wicimedia