Mynydd Ararat

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Mynydd Ararat
NEO ararat big.jpg
Math mynydd, atyniad twristaidd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Ağrı Edit this on Wikidata
Gwlad Twrci Edit this on Wikidata
Uwch y môr 5,137 metr, 5,165 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 39.702761°N 44.300381°E Edit this on Wikidata
Manylion
Amlygrwydd 3,611 metr Edit this on Wikidata
Rhiant gopa Mynydd Damavand Edit this on Wikidata
Cadwyn fynydd Armenian Highlands Edit this on Wikidata

Mynydd Ararat (Twrceg: Ağrı Dağı) yw mynydd uchaf Twrci. Saif yn nhalaith Ağrı yng ngogledd-ddwyrain Twrci, rhyw 16 km o'r ffin ag Iran a 32 km o'r ffin ag Armenia.

Mae Ararat yn llosgfynydd, er nad yw wedi ffrwydro o fewn cof. Dr. Friedrich Parrot, gyda chymorth Khachatur Abovian, oedd y cyntaf i'w ddringo hyd y gwyddir, yn 1829. Gellir ei ddringo o'r de gyda chymorth bwyell eira a chramponau, ond mae'n rhaid cael caniatâd llywodraeth Twrci a defnyddio tywysydd lleol.

Mae Ararat yn enwog fel y lle y glaniodd Arch Noa yn y stori yn y Beibl, ac mae nifer o ymdrechion wedi eu gwneud i ddarganfod gweddillion yr arch ar y copa. Yn y 1950au llwyddodd De Navarre i ddarganfod darn o bren, ond dangosodd profion ei fod o ddyddiad diweddar.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Flag Turkey template.gif Eginyn erthygl sydd uchod am Dwrci. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.