Arch Noa
| Enghraifft o: | mythological ship |
|---|---|
| Crëwr | Noa |
| Deunydd | Gopher wood |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/0ldnc |
| Thesawrws y BNCF | 3677 |
| Quora | Noahs-ark |


Yn ôl traddodiad, llong bren anferth a adeiladwyd gan y patriarch Noa i achub ei deulu a'r anifeiliaid rhag Y Dilyw oedd Arch Noa. Ceir ei hanes yn Llyfr Genesis yn yr Hen Destament, y Torah Iddewig a'r Coran.
Yn adroddiad Y Dilyw yn y Beibl (Gen. 6-9), mae Duw yn gorchymyn i Noa adeiladu arch i'w achub ef a'i dri mab, sef Sem, Ham a Jaffeth (tad Gomer) a'u gwragedd, a deuryw anifeiliaid y byd gyda nhw, rhag y Dilyw. Credir fod y chwedl o darddiad Babilonaidd.
Disgrifir hi (Gen 6:14-16) fel ystordy enfawr a fedrai nofio, er na ddywedir yn benodol bod y gwaelod ar ffurf llong. Roedd yn 300 cufydd (525 troedfedd) o hyd, 50 cufydd (87.5 troedfedd) o led, a 30 cufydd (52.5 troedfedd) o uchder. Ei defnydd oedd "pren goffer" (sydd a'i ystyr yn ansicr), wedi ei orchuddio oddi fewn ac oddi allan â phyg, yn ôl yr arfer gyda llongau afon Ewffrates. Rhennid hi yn ystafelloedd (yn llythrennol, "nythod"), ac yr oedd iddi dri llawr, gyda ffenestri o dan y to ar bob ochr, a drws yn ei hystlys.
Pan ddaeth yr arch i orffwys ar dir sych eto – ar Ararat – adeiladodd Noa allor ac offrymodd i Dduw. Gwnaeth Duw gyfamod ag ef, a gynrychiolir gan yr enfys (Gen 9:9-17).
Am fod y arch wedi arnofio'n ddiogel ar wyneb dyfroedd y Dilyw, mae'n symbol o'r Eglwys.
Mae'r arch a hanes y Dilyw wedi ysbrydoli sawl artist dros y canrifoedd, yn Ewrop a'r byd Islamaidd. Heddiw mae Arch Noa yn symbol a ddefnyddir weithiau i gynrychioli cadwraeth a gwarchod anifeiliaid hefyd, am ei bod yn fodd i achub anifeiliaid y byd rhag dinistr.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- Geiriadur Beiblaidd, gol. Thomas Rees ac eraill (Wrecsam: Hughes a'i Fab, 1926), d.g. "Arch Noa"