Afon Ewffrates

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Cwch ar Afon Ewffrates yn y Shatt-al-Arab
Yr Ewffrates a'r Tigris

Afon Ewffrates[1] (Groeg: Euphrátēs; Acadeg: Pu-rat-tu; Hebraeg: פְּרָת Pĕrāth; Arabeg: الفرات Al-Furāt; Twrceg: Fırat; Cwrdeg: فرهات, Firhat, Ferhat) yw'r afon orllewinol o'r ddwy afon fawr sy'n diffinio Mesopotamia, gydag Afon Tigris yn y dwyrain.

Mae'r afon tua 2,781 km (1,730 milltir) o hyd. Dechreua'r Ewphrates lle mae dwy afon yn cyfarfod, Afon Karasu sy'n tarddu yn ucheldiroedd Armenia i'r gogledd o Erzurum yn Nhwrci ac Afon Murat, sy'n tarddu o ardal i'r de-orllewin o Fynydd Ararat. Mae'r Ewffrates yn llifo trwy Syria, lle mae afonydd Khabur a Balikh yn ymuno a hi. Wedi hyn, nid oes unrhyw afon arall yn ymuno a hi cyn iddi gyrraedd y môr.

Mae'r afon yn llifo trwy Irac, lle mae Afon Tigris yn ymuno a hi i'r gogledd o Basra, yn ne Irac, ac yn ffurfio'r Shatt al-Arab sy'n arwain i'r môr yng Ngwlff Persia. Ar un adeg roedd yr afon yn ymwahanu i nifer o sianeli yn Basra i ffurfio ardal eang o gorsydd, ond sychwyd llawer o'r rhain gan lywodraeth Saddam Hussein yn y 1990au. Yn ddiweddar mae yndrech wedi ei gwneud i ail-greu'r corsydd hyn, gyda rhywfaint o lwyddiant. Gall cychod gyrraedd hyd at ddinas Hit yn Irac, 1,930 km (1,200 milltir) o'r môr ond dim ond 53 medr uwch lefel y môr.

Ceir nifer o gyfeiriadau at yr Ewffrates yn y Beibl a'r Coran. Cyfeirir ati yn Llyfr Genesis fel un o Bedair Afon Paradwys y traddodiad Beiblaidd. Roedd i'r afon ran bwysig yn natblygiad gwareiddiad Sumer yn y pedwerydd mileniwm CC., ac yr oedd nifer o ddinasoedd pwysig ar ei glannau, yn cynnwys Uruk, Umma ac Ur. Dyffryn yr Ewffrates oedd calon ymerodraethau diweddarach Babylonia ac Assyria. Am rai canrifoedd yr afon oedd y ffin rhwng yr Ymerodraeth Rufeinig ac Ymerodraeth Persia.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Jones, Gareth (gol.). Yr Atlas Cymraeg Newydd (Collins-Longman, 1999), t. 94.